 {"id":16532,"date":"2022-07-07T12:39:15","date_gmt":"2022-07-07T11:39:15","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/?p=16532"},"modified":"2022-07-07T12:39:18","modified_gmt":"2022-07-07T11:39:18","slug":"rachel-lloyd-davies-wedii-choronin-arwr-iechyd-ar-gyfer-mis-gorffennaf","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/rachel-lloyd-davies-wedii-choronin-arwr-iechyd-ar-gyfer-mis-gorffennaf\/","title":{"rendered":"Rachel Lloyd-Davies wedi&#8217;i choroni&#8217;n Arwr Iechyd ar gyfer mis Gorffennaf"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/07\/Health-Hero-Template-10-1024x576.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-16533\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/07\/Health-Hero-Template-10-1024x576.png 1024w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/07\/Health-Hero-Template-10-300x169.png 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/07\/Health-Hero-Template-10-768x432.png 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/07\/Health-Hero-Template-10-250x141.png 250w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/07\/Health-Hero-Template-10.png 1200w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro yn falch o gyhoeddi bod Rachel Lloyd-Davies, Dirprwy Reolwr Ward yn y Ganolfan Adsefydlu ar \u00f4l Str\u00f4c (SRC), wedi\u2019i choroni\u2019n Arwr Iechyd ar gyfer mis Gorffennaf.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Rachel yn Ddirprwy Reolwr Ward yn y Ganolfan Adsefydlu ar \u00f4l Str\u00f4c yn Ysbyty Athrofaol Llandochau ac mae\u2019n cael ei pharchu gan gydweithwyr am ei chefnogaeth, ei hanogaeth a\u2019i chryfder cyson tuag at staff, ymwelwyr a chleifion.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn \u00f4l cydweithwyr hynod gefnogol Rachel, \u201cHyd yn oed gyda phrinder staff a salwch, mae Rachel wedi sicrhau bod anghenion a dymuniadau\u2019r cleifion, hyd yn oed mewn sefyllfaoedd anodd, wedi cael eu diwallu uwchlaw popeth arall. Mae hi\u2019n gofalu am ei staff, yn dysgu ac yn addysgu lle bynnag y bo modd, ond byth mewn modd nawddoglyd.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth s\u00f4n am etheg gwaith Rachel, dywedodd cydweithiwr arall, \u201cBydd Rachel yn aml yn aildrefnu ei phatrwm gwaith, a hyd yn oed yn dod i\u2019r gwaith ar ddyddiau i ffwrdd i sicrhau bod gennym ddigon o staff. Mae hi bob amser yn gwirio ein bod wedi cael amser i ailhydradu ac yn cynnig cefnogaeth i\u2019n hiechyd a\u2019n lles yn barhaus.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ystod dathliadau Jiwbil\u00ee Platinwm y Frenhines, addurnodd Rachel yr ystafell ddydd a gwneud yn si\u0175r bod cleifion yn gallu rhyngweithio \u00e2\u2019r cyngerdd gan gynnig cyfle iddynt gymryd rhan drwy chwifio baneri, canu a sgwrsio. Mae Rachel hefyd wedi ailgyflwyno menter gr\u0175p cinio yn ddiweddar, a ddechreuodd cyn COVID, a oedd yn boblogaidd iawn ac o fudd mawr i gleifion.<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth grynhoi\u2019r drafodaeth, dywedodd cydweithwyr Rachel, \u201cRydym yn aml yn derbyn llawer o ganmoliaeth gan berthnasau am natur garedig a gofalgar Rachel. Yn ddiweddar, gwnaed sylwadau gan rhai perthnasau fod Rachel wedi newid eu bywydau; mae hi\u2019n rhyfeddol! Gyda chalon o aur, Rachel yw ein seren SRC ddisglair, ac rydym mor lwcus ohoni.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd Rachel yn Arwr Iechyd ar gyfer mis Gorffennaf ac yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd. Mae hi wrth ei bodd gyda\u2019r enwebiad am y wobr.<\/p>\n\n\n\n<p>Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro a Park Plaza Caerdydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych chi\u2019n adnabod rhywun sydd wedi gweithio\u2019n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a\u2019r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni. Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd: E-bostiwch: fundraising.cav@wales.nhs.uk Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw\u2019r enwebai a\u2019i r\u00f4l, yn ogystal \u00e2 rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi\u2019n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni\u2019n Arwr Iechyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i\u2019w ystyried ar gyfer y wobr.<\/p>\n\n\n\n<p>Defnyddiwch #ArwrIechydCAF ar Twitter i roi\u2019r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i\u2019n GIG anhygoel!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro yn falch o gyhoeddi bod Rachel Lloyd-Davies, Dirprwy Reolwr Ward yn y Ganolfan Adsefydlu ar \u00f4l Str\u00f4c (SRC), wedi\u2019i choroni\u2019n Arwr Iechyd ar gyfer mis Gorffennaf. Mae Rachel yn Ddirprwy Reolwr Ward yn y Ganolfan Adsefydlu ar \u00f4l Str\u00f4c yn Ysbyty Athrofaol Llandochau ac mae\u2019n cael ei pharchu gan<\/p>\n","protected":false},"author":11,"featured_media":16534,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":true,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-16532","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/16532","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/11"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=16532"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/16532\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16535,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/16532\/revisions\/16535"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/16534"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=16532"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=16532"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=16532"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}