 {"id":16147,"date":"2022-06-23T13:03:56","date_gmt":"2022-06-23T12:03:56","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/?p=16147"},"modified":"2022-06-23T13:03:59","modified_gmt":"2022-06-23T12:03:59","slug":"cwmtawe-7s-yn-codi-arian-ar-gyfer-clinig-enfys-yal","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/cwmtawe-7s-yn-codi-arian-ar-gyfer-clinig-enfys-yal\/","title":{"rendered":"Cwmtawe 7s yn codi arian ar gyfer Clinig Enfys, YAL"},"content":{"rendered":"\n<p>Ar ddydd Gwener 17 Mehefin, roedd Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro yn bresennol yn noson gyflwyno clwb golff Cwmtawe 7s yng Nghlwb Golff Pontardawe.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ystod y diwrnod crasboeth, roedd nifer o dimau yn cymryd rhan yn y twrnamaint golff blynyddol, a ddaeth i ben gyda noson o gomedi gan y cyflwynydd Lenny Dee, a rhoddwyd gwobrau i\u2019r t\u00eem buddugol gan Ysgrifennydd Cwmtawe 7s, Julian Bracey a\u2019r Cynghorydd Sir dros Bontardawe, Anthony Richards.<\/p>\n\n\n\n<p>Yno, roeddem yn hynod ddiolchgar o dderbyn siec o \u00a31805.00, ac rydym wedi prynu pedair cadair, planhigion a chloc ar gyfer yr Ystafell Enfys yng Nghlinig Cyn Geni Enfys, Ysbyty Athrofaol Llandochau. Yn drist iawn, defnyddir yr Ystafell Enfys fel ardal i alaru yn dilyn y newyddion am gamesgoriad, marw-enedigaeth neu golli babi newydd-anedig.<\/p>\n\n\n\n<p>Bob dydd yn y DU, mae 15 o fabanod yn cael eu colli yn ystod beichiogrwydd neu\u2019n fuan ar \u00f4l genedigaeth. Mae beichiogrwydd ar \u00f4l colled yn frawychus. Nid oes esboniad i tua hanner yr holl farw-enedigaethau a chamesgoriadau, gan adael rhieni\u2019n teimlo\u2019n ddi-rym i\u2019w atal rhag digwydd eto. Mae gofal cynenedigol i\u2019r teuluoedd hyn yn amrywio ledled y wlad, yn aml heb unrhyw ddilyniant gofal. Weithiau mae\u2019n rhaid i fenywod esbonio diwrnod gwaethaf eu bywydau drosodd a throsodd, gan deimlo eu bod ar wah\u00e2n i ddarpar rieni eraill. Yn 2017, agorwyd y Clinig Enfys yn Ysbyty Athrofaol Llandochau. Mae t\u00eem o fydwragedd, sonograffwyr, gweithwyr cymorth gofal iechyd ac obstetryddion yn darparu gofal a chymorth cynenedigol arbenigol i fenywod yn ystod yr wythnosau tywyllaf ar \u00f4l eu colled, drwy adegau da ac adegau gwael y beichiogrwydd nesaf.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd Dr Amy Robb, Obstetregydd Ymgynghorol ac Arweinydd Gofal Cynenedigol, \u201cAr ran y bydwragedd a\u2019r obstetryddion sy\u2019n gweithio yng Nghlinig Enfys Caerdydd, hoffem ddiolch i aelodau Cwmtawe 7s am eu hymdrechion codi arian a\u2019u cyfraniad hael. Caiff ei ddefnyddio i drawsnewid ein hystafell dawel, lle i deuluoedd mewn profedigaeth yn dilyn camesgoriad, marw-enedigaeth neu golli babi newydd-anedig. Y gobaith yw y bydd y gofod newydd yn gwneud gwahaniaeth i\u2019r teuluoedd yma ar adeg mor anodd.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Diolch yn fawr i Gwmtawe 7s am rodd mor hael.<\/p>\n\n\n\n<p>Os hoffech gyfrannu at Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro, ewch i <a href=\"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/donate\/\">healthcharity.wales\/donate<\/a> neu e-bostiwch ein T\u00eem Codi Arian: fundraising.cav@wales.nhs.uk<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/06\/IMG_6649-1024x768.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-16122\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/06\/IMG_6649-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/06\/IMG_6649-300x225.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/06\/IMG_6649-768x576.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/06\/IMG_6649-250x188.jpg 250w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/06\/IMG_6649.jpg 1200w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ar ddydd Gwener 17 Mehefin, roedd Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro yn bresennol yn noson gyflwyno clwb golff Cwmtawe 7s yng Nghlwb Golff Pontardawe. Yn ystod y diwrnod crasboeth, roedd nifer o dimau yn cymryd rhan yn y twrnamaint golff blynyddol, a ddaeth i ben gyda noson o gomedi gan y cyflwynydd Lenny Dee, a<\/p>\n","protected":false},"author":11,"featured_media":16122,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-16147","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/16147","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/11"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=16147"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/16147\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16148,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/16147\/revisions\/16148"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/16122"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=16147"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=16147"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=16147"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}