 {"id":15622,"date":"2022-05-23T14:17:51","date_gmt":"2022-05-23T13:17:51","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/?p=15622"},"modified":"2022-05-23T14:17:54","modified_gmt":"2022-05-23T13:17:54","slug":"carten-2022","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/carten-2022\/","title":{"rendered":"CARTEN 2022!"},"content":{"rendered":"\n<p>Yn gynharach eleni, yn garedig iawn, cafodd Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro gynnig lleoedd am y ddim ar y daith seiclo flynyddol o Gaerdydd i Ddinbych-y-Pysgod gan drefnwyr CARTEN100 2022.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/05\/image.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-15623\" width=\"319\" height=\"239\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/05\/image.png 650w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/05\/image-300x225.png 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/05\/image-250x188.png 250w\" sizes=\"auto, (max-width: 319px) 100vw, 319px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p>Penderfynodd dau feiciwr gwych ymgymryd \u00e2\u2019r her honno &#8211; Emily Harrington ac Andrew Knight, dau ffrind da sy\u2019n frwd dros seiclo a oedd yn awyddus i gefnogi\u2019r Uned Adfer Argyfwng.<\/p>\n\n\n\n<p>Cynhaliwyd y reid ar ddydd Sadwrn 7 Mai a llwyddodd Emily ac Andrew i gwblhau\u2019r pellter o 109 milltir. Gyda\u2019r haul yn gwenu, fe wnaethant fwynhau\u2019r diwrnod ac fe\u2019u hysgogwyd drwy gydol y daith gan haelioni\u2019r holl bobl hyfryd a\u2019u noddodd.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar ran y ddau, dywedodd Emily \u201cMae Sparky a fi wedi bod yn ffrindiau ers tua 25 mlynedd. Rydyn ni\u2019n mwynhau seiclo ac mae iechyd meddwl yn fater sy\u2019n agos at ein calonnau ni\u2019n dau. Gwnaethom fanteisio ar y cyfle i seiclo\u2019r CARTEN100 i godi arian at Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro, ond nid yw\u2019r naill na\u2019r llall ohonom wedi seiclo cymaint o bellter mewn un diwrnod o\u2019r blaen ac fe drodd y brwdfrydedd cychwynnol yn deimladau o ofn yn y dyddiau cyn y digwyddiad.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRoeddem wrth ein bodd gyda faint o nawdd a godwyd, roedd yn llawer mwy na\u2019r disgwyl a chawsom ein cyffwrdd gan haelioni ein ffrindiau, ein teulu a\u2019n cydweithwyr. Fodd bynnag, roedd nifer y rhoddion yn golygu ein bod yn teimlo\u2019r pwysau i groesi\u2019r llinell derfyn! Yn y diwedd fe gawson ni ddiwrnod gwych \u2013 roedd y tywydd yn hyfryd ac roedd yn wirioneddol hwyl i seiclo mor bell gyda miloedd o bobl eraill. Aeth pethau ychydig yn anodd ar filltir 75, ond fe wnaeth coffi a thorth frag ein hadfywio ac fe orffennom ni ar gyflymder da. Rydym yn gobeithio ei gyflawni eto yn y dyfodol a byddem yn ei argymell i unrhyw un sy\u2019n hoffi seiclo \u2013 mae e o fewn eich cyrraedd. Dewisais godi arian ar gyfer yr Uned Adfer Argyfwng yn benodol oherwydd rwy\u2019n gwybod bod yr uned yn gwneud gwaith rhagorol a bod cleifion rwy\u2019n gweithio gyda nhw wedi gwerthfawrogi eu mewnbwn, a gall gynnig opsiwn arall yn hytrach na gorfod mynd i\u2019r ysbyty.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Cododd Emily ac Andrew dros \u00a31600 rhyngddynt, a braf oedd cysylltu \u00e2 Kim Thomas, Rheolwr yr Uned Adfer Argyfwng a oedd wedi\u2019i syfrdanu ac ychydig yn emosiynol gydag ymdrechion y ddau feiciwr, a haelioni eu cefnogwyr. Dywedodd Kim \u201cHoffwn ddiolch yn fawr iawn i Emily ac Andrew. Mae\u2019n rhaid ei fod wedi cymryd dewrder aruthrol i allu cwblhau\u2019r daith hon. Diolch hefyd i\u2019ch ffrindiau, teulu a chydweithwyr hynod hael am noddi.<\/p>\n\n\n\n<p>Gallaf eich sicrhau y bydd y rhoddion yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i\u2019r Uned Adfer Argyfwng ac i\u2019r holl gleientiaid a staff sy\u2019n mynychu\u2019r uned. Byddwn yn defnyddio\u2019r arian a godwyd yn ddoeth ac yn sicrhau bod profiad y cleient yn cael ei gyfoethogi. Mae gennym rai syniadau gwych yn barod ac rydych chi i gyd wedi ei gwneud hi\u2019n bosibl i ddod \u00e2\u2019r syniadau hyn yn fyw. Diolch yn fawr iawn i chi gyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar ran Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro, diolch i Emily, Andrew a phawb sydd wedi cefnogi, ac mae amser o hyd i gyfrannu: https:\/\/www.justgiving.com\/fundraising\/Emily-Ay1 https:\/\/www.justgiving.com\/fundraising\/Andrew-Knight35<\/p>\n\n\n\n<p>Os yw hyn wedi eich ysbrydoli i ymgymryd \u00e2\u2019ch her eich hun, cysylltwch \u00e2\u2019n t\u00eem codi arian drwy e-bostio fundraising.cav@wales.nhs.uk<\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn gynharach eleni, yn garedig iawn, cafodd Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro gynnig lleoedd am y ddim ar y daith seiclo flynyddol o Gaerdydd i Ddinbych-y-Pysgod gan drefnwyr CARTEN100 2022. Penderfynodd dau feiciwr gwych ymgymryd \u00e2\u2019r her honno &#8211; Emily Harrington ac Andrew Knight, dau ffrind da sy\u2019n frwd dros seiclo a oedd yn awyddus<\/p>\n","protected":false},"author":12,"featured_media":15624,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":true,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-15622","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15622","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/12"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15622"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15622\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":15625,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15622\/revisions\/15625"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15624"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15622"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15622"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15622"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}