 {"id":14441,"date":"2022-03-15T15:34:41","date_gmt":"2022-03-15T15:34:41","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/?p=14441"},"modified":"2022-03-15T15:34:45","modified_gmt":"2022-03-15T15:34:45","slug":"kath-ronchetti-wedii-choronin-arwr-iechyd-ar-gyfer-mis-mawrth","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/kath-ronchetti-wedii-choronin-arwr-iechyd-ar-gyfer-mis-mawrth\/","title":{"rendered":"Kath Ronchetti wedi&#8217;i choroni&#8217;n Arwr Iechyd ar gyfer mis Mawrth"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/03\/Health-Hero-Template-4-1024x576.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-14442\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/03\/Health-Hero-Template-4-1024x576.png 1024w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/03\/Health-Hero-Template-4-300x169.png 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/03\/Health-Hero-Template-4-768x432.png 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/03\/Health-Hero-Template-4-250x141.png 250w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2022\/03\/Health-Hero-Template-4.png 1200w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n bleser gan Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro gyhoeddi bod Katherine Ronchetti, Ffisiotherapydd Pediatrig Tra Arbenigol, wedi\u2019i choroni\u2019n Arwr Iechyd ar gyfer mis Mawrth.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gan Kath dros 20 mlynedd o brofiad yn y GIG a dywedwyd ei bod yn eithriadol yn ei r\u00f4l yn gweithio gyda phlant sydd \u00e2 chyflyrau cyhyrol a niwroanabledd cymhleth. Mae Kath yn aml yn hyfforddi rhieni, gofalwyr, staff cymunedol a staff ysgolion arbennig mewn technegau fel sugno a chlirio llwybr anadlu sy\u2019n hanfodol i gadw plant ag anghenion cymhleth yn iach.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedir bod Katherine yn barod i deithio i bellteroedd Gorllewin Cymru heb feddwl ddwywaith amdano, er mwyn cefnogi teuluoedd a thimau gofal iechyd lleol i asesu a thrin plant s\u00e2l. Ar sawl achlysur, arbenigedd Kath a\u2019i gweithredu cyflym sydd wedi galluogi plant sy\u2019n ddifrifol wael i gael mynediad at ofal meddygol priodol. Fel y dywedodd un o\u2019i chydweithiwr, \u201cNid yw pob arwr yn gwisgo clogyn, mae rhai yn gwisgo crysau polo gwyn a throwsus glas tywyll!\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd Heather Gater, Arweinydd Clinigol, Gwasanaeth Ffisiotherapi Pediatrig Ac\u00edwt, \u201cMae Kath yn Ffisiotherapydd Pediatrig Tra Arbenigol sy\u2019n gweithio i gefnogi cleifion \u00e2 chyflyrau niwrogyhyrol ac anadlol cymhleth fel rhan o d\u00eem amlddisgyblaethol arbenigol yn yr Uned Anadlol Pediatrig. Mae hi wedi bod yn ei r\u00f4l bresennol ers dros 10 mlynedd ac mae\u2019n chwarae rhan allweddol wrth gefnogi plant a phobl ifanc ochr yn ochr \u00e2\u2019u teuluoedd a\u2019u gofalwyr i reoli eu cyflyrau anadlol.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae Kath yn eiriolwr gwych dros ei chleifion a\u2019u teuluoedd ac yn rhoi\u2019r hyder iddynt reoli eu cyflwr gartref ac atal yr angen i ddod i\u2019r ysbyty lle bo modd. Mae hi\u2019n grymuso teuluoedd, gofalwyr, staff cymunedol ac ysgol trwy hyfforddiant a chymorth pwrpasol i alluogi\u2019r plant hyn i aros yn iach a chael ansawdd bywyd da, gan gymryd rhan yn eu plentyndod a\u2019i fwynhau. Os byddant yn mynd yn s\u00e2l bydd ymateb cyflym Kath yn eu cefnogi i wneud y gorau o\u2019u triniaeth gan atal yr angen i ddod i\u2019r ysbyty yn aml. Os byddant yn dod i\u2019r ysbyty, bydd Kath bob amser wrth law i roi cymorth i\u2019w galluogi i gael eu rhyddhau\u2019n ddiogel adref trwy hyfforddiant ac ymweliadau dilynol.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae Kath wir yn gwneud gwaith gwych i\u2019w chleifion ac mae\u2019n r\u00f4l mor bwysig. Mae\u2019n wych ei bod wedi cael ei henwebu ar gyfer Arwr Iechyd. Da iawn Kath!\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd Kath yn Arwr Iechyd ar gyfer mis Mawrth ac yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd. Mae hi wrth ei bodd gyda\u2019r enwebiad am y wobr.<\/p>\n\n\n\n<p>Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro a Park Plaza Caerdydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych chi\u2019n adnabod rhywun sydd wedi gweithio\u2019n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a\u2019r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni. Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd: E-bostiwch: fundraising.cav@wales.nhs.uk<\/p>\n\n\n\n<p>Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw\u2019r enwebai a\u2019i r\u00f4l, yn ogystal \u00e2 rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi\u2019n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni\u2019n Arwr Iechyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i\u2019w ystyried ar gyfer y wobr.<\/p>\n\n\n\n<p>Defnyddiwch #ArwrIechydCAF ar Twitter i roi\u2019r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i\u2019n GIG anhygoel!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019n bleser gan Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro gyhoeddi bod Katherine Ronchetti, Ffisiotherapydd Pediatrig Tra Arbenigol, wedi\u2019i choroni\u2019n Arwr Iechyd ar gyfer mis Mawrth. Mae gan Kath dros 20 mlynedd o brofiad yn y GIG a dywedwyd ei bod yn eithriadol yn ei r\u00f4l yn gweithio gyda phlant sydd \u00e2 chyflyrau cyhyrol a niwroanabledd cymhleth.<\/p>\n","protected":false},"author":11,"featured_media":14442,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":true,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-14441","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/14441","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/11"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=14441"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/14441\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":14444,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/14441\/revisions\/14444"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/14442"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=14441"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=14441"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=14441"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}