 {"id":13291,"date":"2021-11-11T12:07:29","date_gmt":"2021-11-11T12:07:29","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/?p=13291"},"modified":"2021-11-11T12:07:33","modified_gmt":"2021-11-11T12:07:33","slug":"cyhoeddi-carly-shier-yn-arwr-iechyd-mis-tachwedd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/cyhoeddi-carly-shier-yn-arwr-iechyd-mis-tachwedd\/","title":{"rendered":"Cyhoeddi Carly Shier yn Arwr Iechyd mis Tachwedd"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/11\/Health-Hero-Template-Carly-Shier-2-1024x576.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-13294\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/11\/Health-Hero-Template-Carly-Shier-2-1024x576.png 1024w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/11\/Health-Hero-Template-Carly-Shier-2-300x169.png 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/11\/Health-Hero-Template-Carly-Shier-2-768x432.png 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/11\/Health-Hero-Template-Carly-Shier-2-250x141.png 250w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/11\/Health-Hero-Template-Carly-Shier-2.png 1200w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n bleser gan Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro gyhoeddi Carly Shier yn Arwr Iechyd mis Tachwedd.<\/p>\n\n\n\n<p>Cafodd Carly, a ddechreuodd ei gyrfa yn y maes Caffael fel prynwr cyn ymuno \u00e2 Th\u00eem Storfeydd Theatr YALl, ei henwebu gan ei chydweithiwr, Victoria Wilson, Rheolwr Gwasanaeth Cynorthwyol.&nbsp; Caiff Carly ei hystyried yn ased enfawr gydag ymagwedd \u2018gallu gwneud\u2019 ac mae\u2019n enghraifft safon aur o \u2018wneud y peth iawn\u2019.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywed Victoria. \u201cDrwy gydol y pandemig (er bod hawl ganddi i warchod) gwnaeth Carly fynychu\u2019r gwaith i helpu i gynnal ein theatrau.&nbsp; Hefyd, mae\u2019n treulio oriau yn casglu tystiolaeth i reoli gwariant a chyfiawnhau arian trethdalwyr o fewn ein Cyfarwyddiaeth, ac mae\u2019n treulio gweddill ei hamser yn cefnogi\u2019r T\u00eem Storfeydd a thimau ehangach y Theatrau. Rwy\u2019n canmol Carly yn aml am ei hymrwymiad i\u2019r gwasanaeth, y t\u00eem ac i\u2019r cleifion sy\u2019n cael llawdriniaeth, ond teimlaf y byddai\u2019n anhygoel pe bai\u2019n derbyn rhodd arbennig wrthym ni i ddiolch iddi am ei holl waith caled ac am gefnogi cymaint o bobl yn bersonol ac yn broffesiynol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Dylai ei theulu fod yn falch iawn ohoni a dylai\u2019r BIP fod hefyd. Mae\u2019n ased enfawr\u201d.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Jon Barada &#8211; Nyrs Arwain Dros Dro, Gofal Amdriniaethol, yn mynd ymlaen i ddweud, \u201cYn ystod uchafbwynt y pandemig COVID, gwnaeth Carly ddod i\u2019r gwaith am ei bod yn benderfynol o gefnogi ei th\u00eem a\u2019r gwasanaeth yn ystod cyfnod hynod heriol. Rhoddodd Carly gysur yr oedd gwir ei angen i\u2019w th\u00eem gan lwyddo i godi eu calonnau hefyd yn ystod y misoedd anodd iawn hyn, a dangosodd sut y mae gan bob un ohonom ran i\u2019w chwarae wrth greu gwasanaeth gwydn sy\u2019n gallu addasu. Gweithiodd Carly yn ddiflino i sicrhau bod ei th\u00eem yn gweithio\u2019n unol \u00e2 chanllawiau IPC a gweithiodd yn galed i ddiogelu a sicrhau ei th\u00eem.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Carly yn goruchwylio ardal enfawr ac yn ymfalch\u00efo mewn deall y gwasanaeth yn fanwl, yn enwedig mewn perthynas \u00e2 sicrhau y caiff yr holl gyllid a ddyrennir i stociau, mewnblaniadau a hurio offer ei gyfiawnhau ac y rhoddir cyfrif amdano. Mae Carly wedi datblygu diwylliant o gydweithredu \u00e2 thimau clinigol y theatrau i\u2019w cefnogi i ddarparu gwasanaeth diogel ac effeithlon i gleifion Caerdydd a\u2019r Fro, ac mae bob amser yn barod i gynnig help mewn unrhyw sefyllfa, gan weithio gyda\u2019r timau i sicrhau bod cynllun ar waith ble bynnag y ceir bygythiad i barhad y gwasanaeth sy\u2019n ymwneud \u00e2 stoc neu fewnblaniadau.<br><br>Mae Carly yn monitro ac yn adrodd cymaint o fanylion \u00e2 phosibl i alluogi uwch-reolwyr i wneud penderfyniadau yn seiliedig ar ei data a\u2019i hadroddiadau.&nbsp;Mae\u2019n bleser gweithio gyda Carly, sy\u2019n llwyddo i gydbwyso bywyd gartref gyda g\u0175r a dau o blant bach. Mae Carly bob amser yn mynd i\u2019r gwaith gydag ymagwedd \u2018gallu gwneud\u2019 ac mae\u2019n dosturiol ac yn ofalgar tuag at bawb, hyd yn oed pan fydd yn wynebu gwrthdaro ac yn cael sgyrsiau anodd. Mae ganddi enw da credadwy am fod yn ffynhonnell wybodaeth ond yn fwy na hynny am fod yn rhywun a fydd yn gwrando heb farnu a bob amser yn gwneud ei gorau i helpu fel unigolyn proffesiynol, fel goruchwyliwr ac fel ffrind i gymaint o bobl. Rydym yn ffodus tu hwnt i\u2019w chael ac yn falch iawn o\u2019i chyflawniadau.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd Carly yn Arwr Iechyd ar gyfer mis Tachwedd ac yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd. Mae hi wrth ei bodd gyda\u2019r enwebiad am y wobr.<\/p>\n\n\n\n<p>Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro a Park Plaza Caerdydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych chi\u2019n adnabod rhywun sydd wedi gweithio\u2019n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a\u2019r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni.<\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd: E-bostiwch: fundraising.cav@wales.nhs.uk<\/p>\n\n\n\n<p>Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw\u2019r enwebai a\u2019i r\u00f4l, yn ogystal \u00e2 rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi\u2019n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni\u2019n Arwr Iechyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i\u2019w ystyried ar gyfer y wobr.<\/p>\n\n\n\n<p>Defnyddiwch #ArwrIechydCAF ar Twitter i roi\u2019r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i\u2019n GIG anhygoel!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019n bleser gan Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro gyhoeddi Carly Shier yn Arwr Iechyd mis Tachwedd. Cafodd Carly, a ddechreuodd ei gyrfa yn y maes Caffael fel prynwr cyn ymuno \u00e2 Th\u00eem Storfeydd Theatr YALl, ei henwebu gan ei chydweithiwr, Victoria Wilson, Rheolwr Gwasanaeth Cynorthwyol.&nbsp; Caiff Carly ei hystyried yn ased enfawr gydag ymagwedd \u2018gallu<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":13295,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-13291","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13291","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=13291"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13291\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":13296,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13291\/revisions\/13296"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/13295"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=13291"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=13291"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=13291"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}