 {"id":13230,"date":"2021-11-09T10:07:08","date_gmt":"2021-11-09T10:07:08","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/?p=13230"},"modified":"2021-11-09T10:08:50","modified_gmt":"2021-11-09T10:08:50","slug":"ym-mis-rhagfyr-2020-dathlodd-elusen-iechyd-caerdydd-ar-fro-10-mlynedd-o-wneud-pethaun-well-ar-gyfer-cleifion-ymwelwyr-staff-ar-gymuned-ehangach","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/ym-mis-rhagfyr-2020-dathlodd-elusen-iechyd-caerdydd-ar-fro-10-mlynedd-o-wneud-pethaun-well-ar-gyfer-cleifion-ymwelwyr-staff-ar-gymuned-ehangach\/","title":{"rendered":"Dathlu 10 mlynedd o waith Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro: 2018"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ym mis Rhagfyr 2020, dathlodd Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro 10 mlynedd o wneud pethau\u2019n well ar gyfer cleifion, ymwelwyr, staff a\u2019r gymuned ehangach.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dathlu 10 mlynedd o waith Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro: 2018<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd yr Elusen Iechyd wedi bwriadu cynnal digwyddiad i ddathlu\u2019r 10 mlynedd, yn edrych yn \u00f4l ar y prif brosiectau a ariannwyd ac yn dathlu cyfraniadau\u2019r rhoddwyr, codwyr arian, gwirfoddolwyr a\u2019r partneriaid cymunedol yn ystod y ddegawd diwethaf. Yn anffodus, cafodd y cynlluniau hyn eu canslo oherwydd y coronafeirws. Yn lle hynny, bydd yr Elusen Iechyd yn edrych yn \u00f4l ar sut mae\u2019r codwyr arian, rhoddwyr, gwirfoddolwyr a\u2019r partneriaid cymunedol wedi helpu i newid pethau er gwell dros y deng mlynedd diwethaf.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dyma rai o\u2019r gweithgareddau a\u2019r digwyddiadau a gynhaliwyd gan gefnogwyr a chodwyr arian yr Elusen Iechyd yn 2018.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Her Gwthio Gwely 5k Bae Caerdydd y GIG yn 70<\/strong><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/11\/Bed-Push.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-13215\" width=\"343\" height=\"294\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/11\/Bed-Push.jpg 687w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/11\/Bed-Push-300x257.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/11\/Bed-Push-250x214.jpg 250w\" sizes=\"auto, (max-width: 343px) 100vw, 343px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Daeth dros 300 o bobl allan yn haul mis Mai i gymryd rhan yn y ras 5k a 10k a\u2019r her gwthio gwely cyntaf erioed ar Forglawdd Bae Caerdydd i ddathlu pen-blwydd y GIG yn 70. Fe gododd y digwyddiad dros \u00a38,500 ar gyfer Ap\u00eal Prop a chafodd sylw ar Newyddion ITV Cymru a Walesonline.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Sefydliad Asda<\/strong><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/11\/helen.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-13221\" width=\"232\" height=\"309\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/11\/helen.jpg 480w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/11\/helen-225x300.jpg 225w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/11\/helen-188x250.jpg 188w\" sizes=\"auto, (max-width: 232px) 100vw, 232px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn garedig iawn, rhoddodd y staff a\u2019r cwsmeriaid hyfryd yn Asda Lecwydd \u00a3200 i\u2019r Uned Ddydd Haematoleg. Mae pob claf canser y gwaed yng Nghaerdydd a\u2019r Fro &#8211; ac o ardaloedd pellach &#8211; yn cael cemotherapi yn yr Uned Ddydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Oherwydd natur cemotherapi, mae cleifion yn aml yn gallu bod yn yr uned drwy\u2019r dydd, yn cael profion, yn derbyn trallwysiadau gwaed ac yn cael triniaeth. Mae pob ceiniog a roddir i\u2019r uned yn cael ei gwario ar helpu i wneud ein cleifion yn fwy cyfforddus tra eu bod nhw yno; mae pob cyfraniad yn gwella gofal iechyd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn y llun, gwelir Sian Dacey o Asda yn cyflwyno\u2019r siec enfawr i Helen Swambo, aelod o staff.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Diwrnod y Menywod<\/strong><\/p>\n\n\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fe gododd Jenna Webb a\u2019i theulu a\u2019i ffrindiau \u00a31,098 ar gyfer y T\u00eem Diabetes Paediatrig.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Pan gafodd mab Jenna a Chay, Blyth, sy\u2019n bedwar, ddiagnosis y llynedd o ddiabetes math 1, roedd y teulu\u2019n hynod awyddus i godi arian er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o ddiabetes math 1 ymysg plant, a rhoi arian i\u2019r T\u00eem Diabetes Paediatrig yn Ysbyty Athrofaol Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fe drefnodd Jenna a\u2019i ffrindiau \u2018Ddiwrnod i\u2019r Menywod\u2019 a oedd yn llwyddiant ysgubol, gyda 190 o fenywod yn dod i Glwb Cymdeithasol a Chwaraeon Ynys y Barri. Cafodd y menywod fwffe poeth ac oer, g\u00eam o bingo, cabaret brenhines drag a disco tan oriau man y bore.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fe lwyddodd Jenna i gasglu 50 o wobrau raffl gan fusnesau lleol, gan gynnwys Kindle, Fitbit, Echo Dot, tocynnau i \u0175yl, aelodaeth campfa a nifer o dalebau i dai bwytai a thalebau harddwch. Erbyn diwedd y noson, roeddent wedi codi swm enfawr o \u00a31,098. Yn ogystal \u00e2 hyn, trwy gysylltiadau Jenna \u00e2 chwmni yswiriant \u2018Legal and General\u2019, fe roddodd y cwmni, yn hael iawn, \u00a3500 pellach er mwyn helpu i godi\u2019r cyfanswm.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Her Len<\/strong><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/11\/02.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-13228\" width=\"316\" height=\"265\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/11\/02.png 940w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/11\/02-300x251.png 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/11\/02-768x644.png 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/11\/02-250x210.png 250w\" sizes=\"auto, (max-width: 316px) 100vw, 316px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er mwyn dathlu pen-blwydd y GIG yn 70 yn 2018, fe estynnodd Len Richards, y Prif Weithredwr, wahoddiad i bobl ymuno ag ef ar Glawdd Offa, ar ddiwrnod penodol neu yn ystod yr holl daith gerdded, er mwyn hyrwyddo cydweithio, gwaith t\u00eem a gweithgarwch corfforol trwy fodelu\u2019r ymddygiadau sy\u2019n hanfodol i hyrwyddo ffyrdd iach o fyw.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bu dros 100 o bobl yn cefnogi Len gyda\u2019i her o gerdded 176 o filltiroedd ar hyd Llwybr Clawdd Offa, gan godi dros \u00a36,000 i gael ei rhannu rhwng dwy elusen agos at ei galon &#8211; Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro ac <em>Improving Chances<\/em>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd cyfanswm o tua 28,000 troedfedd o ddringfa ar hyd yr holl lwybr, sydd yr un peth ag uchder Everest!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Dawns Tei Glas<\/strong><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/11\/Prop.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-13219\" width=\"331\" height=\"248\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/11\/Prop.jpg 1024w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/11\/Prop-300x225.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/11\/Prop-768x576.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/11\/Prop-250x188.jpg 250w\" sizes=\"auto, (max-width: 331px) 100vw, 331px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cynhaliwyd y Ddawns Tei Glas gyntaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda bron i 400 o bobl yn bresennol, yn unswydd er mwyn codi arian ar gyfer Ap\u00eal Prop, sy\u2019n cefnogi\u2019r rhai hynny sy\u2019n dioddef o anafiadau i\u2019r ymennydd yn Ysbyty Rookwood.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd cyn-gleifion, staff, teuluoedd a chefnogwyr yno, yn gwisgo teis glas a ffrogiau nos glas i godi arian a dangos eu cefnogaeth i\u2019r ap\u00eal.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Agorwyd y digwyddiad gyda chlamp o berfformiad gan Superchoir \u2013 mae Superchoir yn g\u00f4r bywiog, llawn egni a gwnaethant lwyddo i ddechrau\u2019r noson mewn steil.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nathan Wyburn a Wayne Courtney, dau o westeiwyr gorau Caerdydd, oedd yn cyflwyno\u2019r noson.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cynhaliwyd ocsiwn a raffl gyda gwobrau anhygoel wedi\u2019u rhoi gan noddwyr hael ac, yn garedig iawn, fe gynhaliodd Craig Bellamy sesiwn holi ac ateb.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bu\u2019r gwesteion yn dawnsio drwy\u2019r nos, gydag adloniant gan <em>Pip and the Cherries<\/em>, a roddodd o\u2019u hamser am ddim, ac fe gododd y digwyddiad dros \u00a314,000.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ym mis Rhagfyr 2020, dathlodd Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro 10 mlynedd o wneud pethau\u2019n well ar gyfer cleifion, ymwelwyr, staff a\u2019r gymuned ehangach. Dathlu 10 mlynedd o waith Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro: 2018 Roedd yr Elusen Iechyd wedi bwriadu cynnal digwyddiad i ddathlu\u2019r 10 mlynedd, yn edrych yn \u00f4l ar y prif brosiectau<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":13228,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-13230","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13230","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=13230"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13230\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":13232,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13230\/revisions\/13232"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/13228"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=13230"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=13230"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=13230"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}