 {"id":13066,"date":"2021-10-22T13:57:57","date_gmt":"2021-10-22T12:57:57","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/?p=13066"},"modified":"2021-10-22T13:57:59","modified_gmt":"2021-10-22T12:57:59","slug":"her-llwybr-arfordir-cymru-annie","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/her-llwybr-arfordir-cymru-annie\/","title":{"rendered":"Her Llwybr Arfordir Cymru Annie"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/Annies-challenge-3.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-13056\" width=\"431\" height=\"242\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/Annies-challenge-3.jpg 960w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/Annies-challenge-3-300x169.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/Annies-challenge-3-768x432.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/Annies-challenge-3-250x141.jpg 250w\" sizes=\"auto, (max-width: 431px) 100vw, 431px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ym mis Ebrill eleni, gwnaethom ddweud wrthych am yr anhygoel Annie a oedd yn ysbrydoli ei ffrindiau a\u2019i theulu i ymgymryd \u00e2 Llwybr Arfordir Cymru i godi arian ar gyfer Ap\u00eal Canolfan y Fron a City Hospice, Caerdydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cafodd Annie ddiagnosis canser y fron ym mis Hydref 2019, ac yn dilyn mastectomi llwyddiannus, cafodd wybod ei bod yn glir ohono ym mis Tachwedd 2019. Dywedodd y cafodd ofal a chymorth rhagorol gan y bobl wych yng Nghanolfan y Fron yn Ysbyty Llandochau, felly penderfynodd ei bod am roi rhywbeth yn \u00f4l iddyn nhw. Ei syniad oedd cerdded Llwybr Arfordir Cymru a cheisio codi rhywfaint o arian. Mae pawb yn gwybod beth ddigwyddodd wedyn ym mis Mawrth 2020!!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid oedd COVID yn mynd i atal Annie rhag cyflawni ei nod, felly defnyddiodd yr amser yn ystod y cyfyngiadau symud i wella ei ffitrwydd, a dechreuodd gynyddu\u2019r pellter yn raddol hyd nes ei bod yn cerdded hyd at 12 milltir y dydd.<strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn drist iawn, yn ddiweddarach y flwyddyn honno, cafodd Annie ddiagnosis Canser y Fron Negyddol Driphlyg, ac ni allai barhau \u00e2\u2019i chynllun.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dan arweiniad ei g\u0175r, Ray, sy\u2019n cyfaddef ei fod wedi bod yn \u2018wrthwynebydd cydwybodol i wneud ymarfer corff drwy gydol ei fywyd\u2019, gwnaeth teulu a ffrindiau Annie ymgymryd \u00e2\u2019r her a dangos harddwch a rhyfeddodau Llwybr yr Arfordir i Annie.&nbsp; Gwnaeth Maxine, merch Annie, greu tudalen codi arian a chyfrif Facebook\/Instagram i helpu i gyflawni dyhead Annie i gwblhau Llwybr Arfordir Cymru, gyda chyfranogiad rhithwir Annie.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cyn i Annie fynd yn rhy s\u00e2l, roedd am godi arian ar gyfer y sefydliadau a oedd wedi ei helpu cymaint i ymdopi \u00e2 chanser, am ei bod o\u2019r farn bod y gofal a gafodd wedi bod yn gwbl anhygoel. Y ddau achos gwnaeth Annie ddewis eu cefnogi oedd Ap\u00eal Canolfan y Fron a City Hospice, Caerdydd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-gallery aligncenter columns-3 is-cropped wp-block-gallery-1 is-layout-flex wp-block-gallery-is-layout-flex\"><ul class=\"blocks-gallery-grid\"><li class=\"blocks-gallery-item\"><figure><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"720\" height=\"960\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/Annies-Wales-Coastal-Path-Challenge-2.jpg\" alt=\"\" data-id=\"13058\" data-full-url=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/Annies-Wales-Coastal-Path-Challenge-2.jpg\" data-link=\"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/annies-wales-coastal-path-challenge-2-2-2\/\" class=\"wp-image-13058\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/Annies-Wales-Coastal-Path-Challenge-2.jpg 720w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/Annies-Wales-Coastal-Path-Challenge-2-225x300.jpg 225w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/Annies-Wales-Coastal-Path-Challenge-2-188x250.jpg 188w\" sizes=\"auto, (max-width: 720px) 100vw, 720px\" \/><\/figure><\/li><li class=\"blocks-gallery-item\"><figure><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"960\" height=\"720\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/Annies-Wales-Coastal-Path-Challenge-6.jpg\" alt=\"\" data-id=\"13064\" data-full-url=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/Annies-Wales-Coastal-Path-Challenge-6.jpg\" data-link=\"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/annies-wales-coastal-path-challenge-6-2\/\" class=\"wp-image-13064\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/Annies-Wales-Coastal-Path-Challenge-6.jpg 960w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/Annies-Wales-Coastal-Path-Challenge-6-300x225.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/Annies-Wales-Coastal-Path-Challenge-6-768x576.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/Annies-Wales-Coastal-Path-Challenge-6-250x188.jpg 250w\" sizes=\"auto, (max-width: 960px) 100vw, 960px\" \/><\/figure><\/li><li class=\"blocks-gallery-item\"><figure><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"960\" height=\"540\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/Annies-challenge-2.jpg\" alt=\"\" data-id=\"13060\" data-full-url=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/Annies-challenge-2.jpg\" data-link=\"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/annies-challenge-2-2\/\" class=\"wp-image-13060\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/Annies-challenge-2.jpg 960w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/Annies-challenge-2-300x169.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/Annies-challenge-2-768x432.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/Annies-challenge-2-250x141.jpg 250w\" sizes=\"auto, (max-width: 960px) 100vw, 960px\" \/><\/figure><\/li><li class=\"blocks-gallery-item\"><figure><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"960\" height=\"720\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/Annies-Wales-Coastal-Path-Challenge-3.jpg\" alt=\"\" data-id=\"13062\" data-full-url=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/Annies-Wales-Coastal-Path-Challenge-3.jpg\" data-link=\"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/annies-wales-coastal-path-challenge-3-2\/\" class=\"wp-image-13062\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/Annies-Wales-Coastal-Path-Challenge-3.jpg 960w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/Annies-Wales-Coastal-Path-Challenge-3-300x225.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/Annies-Wales-Coastal-Path-Challenge-3-768x576.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/Annies-Wales-Coastal-Path-Challenge-3-250x188.jpg 250w\" sizes=\"auto, (max-width: 960px) 100vw, 960px\" \/><\/figure><\/li><\/ul><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gwnaeth cefnogwyr Annie ymgymryd \u00e2\u2019r her yn wych, gan godi miloedd yn ystod y mis cyntaf a thynnu lluniau bendigedig ar gyfer Annie ar yr un pryd.&nbsp; Yn drist iawn, tua mis ar \u00f4l cychwyn yr her, bu farw Annie yn dawel gartref, gyda\u2019i merch Maxine, a\u2019i g\u0175r Ray wrth ei hymyl.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Maxine \u201cRydym wedi derbyn cymaint o eiriau caredig a theyrngedau i mam ar y cyfryngau cymdeithasol a\u2019r dudalen codi arian. Roeddwn i\u2019n gwybod ei bod yn fenyw anhygoel &#8211; ac mae\u2019n debyg bod llawer o bobl eraill yn gwybod hynny hefyd!\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae <a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/AnniesWalesCoastalPathChallenge\/?__cft__%5b0%5d=AZXZPxb0mnupBqbXjEhchvtLOJHxmjr3IhwwvHuTNYac_P8MSB5pMjg4bjE1M_3mfhIavdT06Xp-xeCVRpUlTCxe9EZuNrq_G1TeXSn0oqoXIbTwd6vh3w9pzVuXTIMji1G254UrzxvD8HV-CLejAUG1&amp;__tn__=kK-R\">Her Llwybr yr Arfordir Cymru Annie<\/a> wedi parhau, ac mae Maxine a Ray wedi bod yn benderfynol i ddal ati i hyrwyddo eu her a chefnogi <a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/BreastCentre\/?__cft__%5b0%5d=AZXZPxb0mnupBqbXjEhchvtLOJHxmjr3IhwwvHuTNYac_P8MSB5pMjg4bjE1M_3mfhIavdT06Xp-xeCVRpUlTCxe9EZuNrq_G1TeXSn0oqoXIbTwd6vh3w9pzVuXTIMji1G254UrzxvD8HV-CLejAUG1&amp;__tn__=kK-R\">Ap\u00eal Canolfan y Fron Caerdydd a\u2019r Fro<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/CityHospice\/?__cft__%5b0%5d=AZXZPxb0mnupBqbXjEhchvtLOJHxmjr3IhwwvHuTNYac_P8MSB5pMjg4bjE1M_3mfhIavdT06Xp-xeCVRpUlTCxe9EZuNrq_G1TeXSn0oqoXIbTwd6vh3w9pzVuXTIMji1G254UrzxvD8HV-CLejAUG1&amp;__tn__=kK-R\">City Hospice<\/a> ar ran Annie.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym wedi bod wrth ein bodd yn dilyn eu cynnydd ac edrych ar rai o\u2019r golygfeydd prydferth maent wedi\u2019u gweld.&nbsp; Mae eu cefnogwyr hefyd wedi bod yn hynod hael, ac mae eu hymdrechion codi arian wedi cyrraedd bron \u00a39,750 erbyn hyn (gyda Rhodd Cymorth).&nbsp; Mae gan <strong>Her a Thaith Rithwir Llwybr Arfordir Cymru Annie <\/strong>dudalen codi arian ar Virgin Money Giving, ac mae ganddynt hyd at ddiwedd Tachwedd 2021 i gyrraedd eu targed o \u00a310,000.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae T\u00eem Canolfan y Fron yn parhau i ddilyn eu taith anhygoel bob cam o\u2019r ffordd, felly cadwch lygad ar gyfrifon Facebook, Twitter ac Instagram yr Elusen Iechyd ac Ap\u00eal Canolfan y Fron.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gallwch hefyd gefnogi Taith Llwybr Arfordir Cymru Annie yma:-<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">&nbsp;<a href=\"https:\/\/uk.virginmoneygiving.com\/AnniesWalesCoastalPathChallenge\">https:\/\/uk.virginmoneygiving.com\/AnniesWalesCoastalPathChallenge<\/a> &nbsp;a chael y wybodaeth ddiweddaraf am eu cynnydd drwy ddilyn tudalennau Her Llwybr Arfordir Cymru Annie.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym yn hynod ddiolchgar am gefnogaeth teulu a ffrindiau Annie, ac os hoffech wybod mwy am sut y gallwch gefnogi Ap\u00eal Canolfan y Fron neu unrhyw un o gronfeydd neu apeliadau Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro, anfonwch e-bost at <a href=\"mailto:fundraising.cav@wales.nhs.uk\">fundraising.cav@wales.nhs.uk<\/a> Diolch yn fawr.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ym mis Ebrill eleni, gwnaethom ddweud wrthych am yr anhygoel Annie a oedd yn ysbrydoli ei ffrindiau a\u2019i theulu i ymgymryd \u00e2 Llwybr Arfordir Cymru i godi arian ar gyfer Ap\u00eal Canolfan y Fron a City Hospice, Caerdydd. Cafodd Annie ddiagnosis canser y fron ym mis Hydref 2019, ac yn dilyn mastectomi llwyddiannus, cafodd wybod<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":13056,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-13066","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13066","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=13066"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13066\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":13067,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13066\/revisions\/13067"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/13056"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=13066"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=13066"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=13066"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}