 {"id":12972,"date":"2021-10-21T08:50:09","date_gmt":"2021-10-21T07:50:09","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/?p=12972"},"modified":"2021-10-21T08:50:12","modified_gmt":"2021-10-21T07:50:12","slug":"cyhoeddi-enillwyr-eisteddfod-caf","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/cyhoeddi-enillwyr-eisteddfod-caf\/","title":{"rendered":"Cyhoeddi Enillwyr Eisteddfod CAF"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"427\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/8EACBE90-6A82-4D08-80FC24ECD7E297C1_carouselimage-1024x427.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-12968\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/8EACBE90-6A82-4D08-80FC24ECD7E297C1_carouselimage-1024x427.jpg 1024w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/8EACBE90-6A82-4D08-80FC24ECD7E297C1_carouselimage-300x125.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/8EACBE90-6A82-4D08-80FC24ECD7E297C1_carouselimage-768x320.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/8EACBE90-6A82-4D08-80FC24ECD7E297C1_carouselimage-250x104.jpg 250w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/8EACBE90-6A82-4D08-80FC24ECD7E297C1_carouselimage.jpg 1200w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gr\u0175p o staff dawnus Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a\u2019r Fro wedi cael cydnabyddiaeth am y gwaith celf a gr\u00ebwyd i ddathlu\u2019r Gymraeg a diwylliant Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd cystadleuaeth gyntaf Eisteddfod CAF, o dan arweiniad t\u00eem y Gymraeg a Gwasanaeth Iechyd a Lles Cyflogeion mewn partneriaeth ag Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro, yn gwahodd gweithwyr y Bwrdd Iechyd i gyflwyno gwaith celf i gynrychioli eu \u2018Lle Llawen\u2019.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Derbyniwyd ceisiadau yn defnyddio amrywiaeth o gyfryngau i ddarlunio lleoliadau ledled Cymru ac ym mr\u00f6ydd pobl, yn ogystal \u00e2 lleoedd ysbrydol a ddefnyddiwyd i gefnogi lles.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dewisodd panel o feirniaid y pedwar enillydd canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Joanna Waring, Nyrs Ymchwil Dementia, Ysbyty Athrofaol Llandochau &#8211; Darlun a Phrint<\/li><li>Dr Nichola Norman, Uwch-wyddonydd Biofeddygol, Ysbyty Athrofaol Llandochau &#8211; Brodwaith<\/li><li>Stephen Thomas, Swyddog Technegol Labordy, Ysbyty Athrofaol Cymru &#8211; Ffotograffiaeth<\/li><li>John German, Swyddog y Gadwyn Gyflenwi, Ysbyty Athrofaol Llandochau &#8211; Gair Ysgrifenedig<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r gystadleuaeth, sy\u2019n rhan o ymgyrch Meddwl Cymraeg y Bwrdd Iechyd, sy\u2019n annog y defnydd o\u2019r Gymraeg ac yn hyrwyddo diwylliant a threftadaeth Cymru, yn cadw at y traddodiad o gynnal cystadleuaeth leol, ar raddfa lai i ddathlu\u2019r Eisteddfod Genedlaethol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cyflwynwyd tlysau a thalebau Amazon gwerth \u00a350 i enillwyr Eisteddfod CAF, a ariannwyd gan Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Simone Joslyn, Pennaeth y Celfyddydau a\u2019r Elusen Iechyd: \u201cRydym wedi gweld, trwy ein rhaglen y celfyddydau, sut y gall ymwneud \u00e2\u2019r celfyddydau gael effaith gadarnhaol enfawr ar ein lles, felly rydym yn falch o gefnogi\u2019r gystadleuaeth hon ar gyfer ein staff sydd wedi ymdopi \u00e2 chymaint yn ystod y pandemig COVID-19.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cMae cymuned celfyddydau ddawnus, fywiog ymhlith ein gweithlu felly nid oedd yn syndod gweld nifer o geisiadau o safon uchel ar gyfer y gystadleuaeth. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran a llongyfarch ein henillwyr, sy\u2019n llwyr haeddu\u2019r gwobrau roedden ni fel Elusen Iechyd yn falch o\u2019u hariannu.\u201d<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"312\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/0C3609CB-D56A-46A1-A90A8321AD9CB38E_profileimage-1024x312.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-12970\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/0C3609CB-D56A-46A1-A90A8321AD9CB38E_profileimage-1024x312.png 1024w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/0C3609CB-D56A-46A1-A90A8321AD9CB38E_profileimage-300x92.png 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/0C3609CB-D56A-46A1-A90A8321AD9CB38E_profileimage-768x234.png 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/0C3609CB-D56A-46A1-A90A8321AD9CB38E_profileimage-250x76.png 250w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/0C3609CB-D56A-46A1-A90A8321AD9CB38E_profileimage.png 1200w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Nicky Bevan, Pennaeth Gwasanaethau Lles Cyflogeion: \u201cMae ein staff yn gwneud gwaith anhygoel yn gofalu am ein cleifion, ond ar \u00f4l bod o dan bwysau aruthrol am gyfnod hir o amser ac wrth i ni nes\u00e1u at yr hyn rydym yn rhagweld a fydd yn aeaf heriol arall, mae\u2019r un mor bwysig eu bod nhw\u2019n gofalu am eu lles eu hunain.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cMae cymryd rhan mewn gweithgareddau fel y celfyddydau yn gallu bod yn adnodd hynod effeithiol i reoli ein hiechyd meddwl, ond byddwn yn annog unrhyw aelod o staff sy\u2019n cael trafferth ac angen cymorth pellach i ofyn amdano &#8211; mae\u2019r Gwasanaeth Iechyd a Lles Cyflogeion yma ac yn barod i helpu os oes angen.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Rachel Gidman: \u201cFel un o gyflogwyr mwyaf y brifddinas, mae\u2019n bwysig ein bod ni\u2019n dathlu ac yn hyrwyddo treftadaeth a diwylliant y genedl, sy\u2019n cynnwys y defnydd o\u2019r Gymraeg. Dyma\u2019n union y mae cystadleuaeth Eisteddfod CAF yn ceisio\u2019i gyflawni, a hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cymryd rhan am helpu i hyrwyddo\u2019r agenda.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gallwch&nbsp;<a href=\"https:\/\/cardiffandvale.art\/\">ddod o hyd i ragor o wybodaeth am raglen celfyddydau y Bwrdd Iechyd ar wefan y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles<\/a>, neu&nbsp;<a href=\"https:\/\/healthcharity.wales\/\">gefnogi cleifion a staff trwy wneud cyfraniad ar wefan Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gwybodaeth am gymorth lles ar gael i staff ar&nbsp;<a href=\"https:\/\/cavuhb.nhs.wales\/staff-information\/your-health-and-wellbeing\/employee-wellbeing-service\/\">dudalennau gwe y Gwasanaeth Lles Cyflogeion<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae gr\u0175p o staff dawnus Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a\u2019r Fro wedi cael cydnabyddiaeth am y gwaith celf a gr\u00ebwyd i ddathlu\u2019r Gymraeg a diwylliant Cymru. Roedd cystadleuaeth gyntaf Eisteddfod CAF, o dan arweiniad t\u00eem y Gymraeg a Gwasanaeth Iechyd a Lles Cyflogeion mewn partneriaeth ag Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro, yn gwahodd gweithwyr y<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":12968,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-12972","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12972","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12972"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12972\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12973,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12972\/revisions\/12973"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/12968"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12972"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12972"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12972"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}