 {"id":12589,"date":"2021-10-11T13:42:07","date_gmt":"2021-10-11T12:42:07","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/?p=12589"},"modified":"2021-10-11T13:42:10","modified_gmt":"2021-10-11T12:42:10","slug":"prosiectau-llwyddiannus-panel-cynigion-loterir-staff","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/prosiectau-llwyddiannus-panel-cynigion-loterir-staff\/","title":{"rendered":"Prosiectau Llwyddiannus Panel Cynigion Loteri\u2019r Staff"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gellir gweld isod ddwy enghraifft o geisiadau llwyddiannus a gyflwynwyd i Banel Cynigion Loteri\u2019r Staff eu hystyried yn y cyfarfod, a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2021<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Tiwtoriaid ac Adnoddau Coleg Adfer a Lles Caerdydd a\u2019r Fro<\/strong><strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Coleg Adfer a Lles Caerdydd a\u2019r Fro, sydd wedi\u2019i leoli yn yr Eglwys Newydd yw\u2019r Coleg Adfer cyntaf i gael ei arwain gan Arweinydd Cyfoedion, ac mae\u2019n ymrwymedig i gyflogi staff sydd \u00e2 phrofiadau personol o heriau iechyd meddwl.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Canfuwyd bod dysgu cerddoriaeth, ac yn enwedig dysgu i ganu, yn effeithiol wrth alluogi pobl i ddysgu sgiliau trosglwyddadwy a strategaethau fel gwaith anadlu a rheoleiddio emosiynol, sy\u2019n gallu helpu i wella iechyd meddwl a lles pobl. Mae gwneud gweithgareddau mewn grwpiau hefyd yn helpu i feithrin sgiliau cymdeithasol, hyder a hunan-barch.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"291\" height=\"114\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/image-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-12584\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/image-1.png 291w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/image-1-250x98.png 250w\" sizes=\"auto, (max-width: 291px) 100vw, 291px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Darparwyd cyllid i gomisiynu Hyfforddwr Cyfoedion Cyswllt a chanwr proffesiynol \u00e2 phrofiad o ddarparu cyrsiau i bobl \u00e2 heriau iechyd meddwl, i greu cwrs wedi\u2019i gyd-gynhyrchu ar gyfer myfyrwyr a staff y coleg. Nid oedd gan y coleg yr arbenigedd gofynnol i ddarparu cwrs canu ar gyfer lles, ond roedd gan y canwr roeddent wedi dewis brofiad blaenorol, ar \u00f4l bod yn gweithio gyda phobl \u00e2 dementia a chleifion oedd yn gwella o str\u00f4c.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Darparwyd cyllid hefyd i alluogi dau diwtor i gydgynhyrchu a darparu cyrsiau iechyd meddwl a lles i staff, gofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau o fewn y Coleg Adfer. Darparwyd cyllid pellach i gaffael a darparu deunyddiau celf i\u2019w hanfon at fyfyrwyr, gan alluogi cyfranogiad o bell yn ystod y pandemig COVID-19. Caiff y tiwtoriaid, sydd \u00e2 phrofiad personol o heriau iechyd meddwl, eu paru \u00e2 gweithiwr iechyd proffesiynol, ac maent yn darparu dau gwrs y gall defnyddwyr gael mynediad atynt o bell naill ai yn yr ysbyty neu o gartref.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r prosiectau hyn yn arwydd o ymrwymiad y BIP i ymgysylltu, cydweithredu, cyd-gynhyrchu a gwrando ar bobl sydd \u00e2 phrofiad personol o wasanaethau iechyd meddwl a\u2019u gofalwyr. Roedd yr adran yn gobeithio gwella lles ei staff, gofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau drwy gyfleoedd addysgol gwell, gan alluogi cyfranogwyr i ddysgu sgiliau a gwybodaeth newydd y gellir eu cymhwyso at eu hadferiad eu hunain, yn ogystal ag adferiad eraill. Gallai hefyd gyfrannu\u2019n gadarnhaol at les a chynhyrchiant staff, a bodlonrwydd o ran swydd. O ganlyniad i gyfyngiadau ynghylch y pandemig COVID-19, mae\u2019r prosiectau hyn wedi cael eu hatal dros dro hyd nes ei bod yn ddiogel ac yn briodol eu gweithredu yn unol \u00e2\u2019r canllawiau diweddaraf a nodwyd gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Newid yr Hen Fferyllfa i Ystafell Fflebotomi Cwbl Weithredol<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gwnaeth yr Adran Fflebotomi yn Ysbyty\u2019r Barri waedu 43,204 o gleifion yn 2019 gan wasanaethu\u2019r naw practis meddyg teulu yn y Barri, ynghyd \u00e2 chleifion ychwanegol drwy\u2019r gwasanaeth cleifion allanol.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"474\" height=\"320\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/image-2.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-12586\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/image-2.png 474w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/image-2-300x203.png 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/10\/image-2-250x169.png 250w\" sizes=\"auto, (max-width: 474px) 100vw, 474px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd yr hen Ystafell Waedu Fflebotomi bellter cerdded byr o\u2019r Ystafell Aros Fflebotomi ac roedd yn cynnwys dwy gadair waedu. O ganlyniad i\u2019r cyfyngiadau a roddwyd ar waith yn ystod y pandemig COVID-19, roedd yr ystafell yn rhy fach i ddau waedwr gael gweithio ynddi, felly defnyddiwyd yr Ystafell Waedu Fflebotomi Pediatrig hefyd fel mesur dros dro. Cyn COVID, nodwyd y gofyniad i drydydd gwaedwr gael ymarfer ochr yn ochr \u00e2\u2019r ddau waedwr arall, o ganlyniad i\u2019r galw cynyddol am y gwasanaeth. Fodd bynnag, nid oedd yr ystafell bresennol yn ddigon mawr i dri gwaedwr weithio ynddi.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Darparwyd cyllid felly i adleoli\u2019r Ystafell Waedu Fflebotomi i ystafell a oedd yn ddigon mawr i dri gwaedwr gael gweithio ynddi. Gwnaeth hyn helpu i wella boddhad staff a chleifion, lleihau amseroedd aros, a gwella ansawdd gofal cleifion o ganlyniad. Roedd yr ystafell a nodwyd wedi\u2019i lleoli\u2019n union gerllaw\u2019r ystafell aros. Bydd hyn yn helpu i leihau pellter teithio i gleifion, a fydd yn arbennig o fuddiol i gleifion ag anawsterau symudedd, gan wella gofal i gleifion hefyd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><u>Pam ddylech CHI gefnogi\u2019r Loteri\u2019r Staff!<\/u><\/strong><strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Panel Cynigion Loteri\u2019r Staff yn ymdrechu i gyflawni\u2019r saith nod lles a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol, ynghyd \u00e2 defnyddio\u2019r pum dull o weithio; hirdymor, atal, integreiddio, cydweithredu a chynnwys.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Drwy ymuno \u00e2 Loteri\u2019r Staff, rydych yn cefnogi ystod eang o brosiectau a ariennir gan y Panel Cynigion, sy\u2019n gwella gwasanaethau niferus ar draws y BIP. Drwy\u2019r cyllid hwn, rydych yn helpu\u2019r Panel Cynigion a\u2019r Elusen Iechyd i wella pethau i\u2019n staff a\u2019n cleifion, gan ein helpu ni i gyd i gydweithio i greu Cymru Lewyrchus, Iachach a Chydnerth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os hoffech ymuno \u00e2 Loteri\u2019r Staff, gellir cwblhau ffurflenni cais<a href=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2019\/11\/Staff-Lottery-Leaflet-March-2021-INTERACTIVE.pdf\">&nbsp;yn electronig<\/a>&nbsp;neu drwy ein gwefan;<a href=\"https:\/\/healthcharity.wales\/hospital-staff\/staff-lottery\/\">&nbsp;https:\/\/healthcharity.wales\/hospital-staff\/staff-lottery\/<\/a>. Dychwelwch ffurflenni Loteri\u2019r Staff wedi\u2019u cwblhau at&nbsp;<a href=\"mailto:fundraising.cav@wales.nhs.uk\">fundraising.cav@wales.nhs.uk<\/a>. Os hoffech wneud cais am gyllid gan Banel Cynigion Loteri\u2019r Staff, cysylltwch \u00e2\u2019r cyfeiriad uchod i gael manylion.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro yn eich annog i ymuno \u00e2 Loteri\u2019r Staff a gwneud cais am gyllid, sy\u2019n gallu gwella eich adran neu wasanaeth a hysbysu eraill am fuddiannau ymuno \u00e2 Loteri\u2019r Staff. A phwy \u00e2 \u0175yr, efallai mai chi fydd ein henillydd nesaf?<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gellir gweld isod ddwy enghraifft o geisiadau llwyddiannus a gyflwynwyd i Banel Cynigion Loteri\u2019r Staff eu hystyried yn y cyfarfod, a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2021 Tiwtoriaid ac Adnoddau Coleg Adfer a Lles Caerdydd a\u2019r Fro Coleg Adfer a Lles Caerdydd a\u2019r Fro, sydd wedi\u2019i leoli yn yr Eglwys Newydd yw\u2019r Coleg Adfer cyntaf i<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":12586,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-12589","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12589","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12589"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12589\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12590,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12589\/revisions\/12590"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/12586"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12589"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12589"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12589"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}