 {"id":12212,"date":"2021-09-27T11:52:41","date_gmt":"2021-09-27T10:52:41","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/?p=12212"},"modified":"2021-09-27T11:52:44","modified_gmt":"2021-09-27T10:52:44","slug":"panel-cynigion-loterir-staff-yn-cymeradwyo-cynnig-i-wellar-ardd-cwtch","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/panel-cynigion-loterir-staff-yn-cymeradwyo-cynnig-i-wellar-ardd-cwtch\/","title":{"rendered":"Panel Cynigion Loteri\u2019r Staff yn cymeradwyo cynnig i wella\u2019r Ardd Cwtch"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/09\/Cwtch-2021-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-12213\" width=\"420\" height=\"315\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/09\/Cwtch-2021-1.jpg 640w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/09\/Cwtch-2021-1-300x225.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/09\/Cwtch-2021-1-250x188.jpg 250w\" sizes=\"auto, (max-width: 420px) 100vw, 420px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ym mis Gorffennaf 2021, fe gymeradwyodd Panel Cynigion Loteri\u2019r Staff gynnig i wella ardal yr ardd y tu \u00f4l i\u2019r Cwtch. Mae\u2019r Cwtch, ar Ward Dwyrain 18 yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, yn ystafell eistedd yn arddull y 1950au, gyda chwaraewr recordiau, cabinetau gwydr ac addurniadau sy\u2019n adlewyrchu\u2019r cyfnod i ymgysylltu \u00e2 chleifion dementia a\u2019u hatgofion. Roedd Karen Jones, Rheolwr y T\u00eem Gweithgareddau, wedi gwneud cais i ddatblygu\u2019r ardal awyr agored y tu \u00f4l i\u2019r Cwtch a fyddai\u2019n gwella profiad staff a chleifion ymhellach.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd y gwelliannau i\u2019r Ardd Cwtch yn cynnig ardal fywiog a hamddenol i\u2019r cleifion ei defnyddio fel noddfa, a fydd yn eu galluogi i gael seibiant o amgylchedd prysur yr ysbyty i fyfyrio. Mae\u2019r T\u00eem Gweithgareddau a\u2019r cleifion hefyd wedi bod yn defnyddio\u2019r ardal fel prosiect garddio ar raddfa fach dros y 2 flynedd ddiwethaf, a hoffai\u2019r t\u00eem ei ddatblygu trwy blannu llystyfiant sy\u2019n gyfeillgar i wenyn a dysgu sgiliau garddio pellach i\u2019r cleifion er mwyn iddynt allu eu defnyddio gartref.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ogystal \u00e2 gosod cwpwrdd storio, ardal gysgodol a mainc bren yn yr ardd, mae cyllid hefyd wedi\u2019i roi i greu murlun lliwgar ac ysbrydoledig i wella ardal yr Ardd Cwtch ymhellach. Yn flaenorol, roedd yr ardal y tu allan wedi\u2019i chau gan ffens fetel fawr, ond mae panelau bellach wedi\u2019u gosod i ddal y gwaith celf, a rhoi mwy o breifatrwydd i\u2019r cleifion wrth iddynt ddefnyddio\u2019r ardd i ymlacio. Wedi\u2019i greu gan Amelia Unity, mae\u2019r paentiad llachar yn cynnwys golygfeydd o natur yn ffynnu, a bydd yn cyd-fynd \u00e2\u2019r gweithgareddau garddio a fydd yn digwydd yn yr Ardd Cwtch.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Karen Jones, Rheolwr y T\u00eem Gweithgareddau: \u201cYn ogystal \u00e2\u2019r awyr agored, awyr iach a garddio, gall celf leddfu teimladau o orbryder, straen a\u2019r teimlad o fod yn gaeth pan yn treulio llawer o amser dan do. (&#8230;) Bydd ychwanegu\u2019r gwaith celf i\u2019r \u201cArdd Cwtch\u201d yn darparu\u2019r lle pwysig hwnnw i ymgysylltu, cael eich cynnwys, dysgu sgiliau newydd neu hunanfyfyrio.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cafodd prosiect Gardd Cwtch gefnogaeth gan Banel Cynigion Loteri\u2019r Staff gan ei fod yn gwella profiad staff a chleifion trwy ddarparu gofod sy\u2019n annog pobl i ddysgu sgiliau newydd mewn lleoliad awyr agored. Mae cynnwys y murlun hefyd wedi cael effaith gadarnhaol ar les staff a chleifion, trwy greu amgylchedd tawel a lliwgar sydd eisoes wedi plesio staff a chleifion.<strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><u>Pam ddylech CHI gefnogi\u2019r Loteri\u2019r Staff!<\/u><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Panel Cynigion Loteri\u2019r Staff yn ymdrechu i gyflawni\u2019r saith nod lles a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol, ynghyd \u00e2 defnyddio\u2019r pum dull o weithio; hirdymor, atal, integreiddio, cydweithredu a chynnwys.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Drwy ymuno \u00e2 Loteri\u2019r Staff, rydych yn cefnogi ystod eang o brosiectau a ariennir gan y Panel Cynigion, sy\u2019n gwella gwasanaethau niferus ar draws y BIP. Drwy\u2019r cyllid hwn, rydych yn helpu\u2019r Panel Cynigion a\u2019r Elusen Iechyd i wella pethau i\u2019n staff a\u2019n cleifion, gan ein helpu ni i gyd i gydweithio i greu Cymru Lewyrchus, Iachach a Chydnerth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os hoffech ymuno \u00e2 Loteri\u2019r Staff, gellir cwblhau ffurflenni cais <a href=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2019\/11\/Staff-Lottery-Leaflet-March-2021-INTERACTIVE.pdf\">yn electronig<\/a> neu drwy ein gwefan; <a href=\"https:\/\/healthcharity.wales\/hospital-staff\/staff-lottery\/\">https:\/\/healthcharity.wales\/hospital-staff\/staff-lottery\/<\/a>. Dychwelwch ffurflenni Loteri\u2019r Staff wedi\u2019u cwblhau at <a href=\"mailto:fundraising.cav@wales.nhs.uk\">fundraising.cav@wales.nhs.uk<\/a>. Os hoffech wneud cais am gyllid gan Banel Cynigion Loteri\u2019r Staff, cysylltwch \u00e2\u2019r cyfeiriad uchod i gael manylion.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro yn eich annog i ymuno \u00e2 Loteri\u2019r Staff a gwneud cais am gyllid, sy\u2019n gallu gwella eich adran neu wasanaeth a hysbysu eraill am fuddiannau ymuno \u00e2 Loteri\u2019r Staff. A phwy a \u0175yr, efallai mai chi fydd ein henillydd nesaf?<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ym mis Gorffennaf 2021, fe gymeradwyodd Panel Cynigion Loteri\u2019r Staff gynnig i wella ardal yr ardd y tu \u00f4l i\u2019r Cwtch. Mae\u2019r Cwtch, ar Ward Dwyrain 18 yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, yn ystafell eistedd yn arddull y 1950au, gyda chwaraewr recordiau, cabinetau gwydr ac addurniadau sy\u2019n adlewyrchu\u2019r cyfnod i ymgysylltu \u00e2 chleifion dementia a\u2019u hatgofion.<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":12214,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[104,6],"tags":[],"class_list":["post-12212","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-ceisiadau-loteri-staff","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12212","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12212"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12212\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12215,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12212\/revisions\/12215"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/12214"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12212"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12212"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12212"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}