 {"id":11836,"date":"2021-09-09T08:19:25","date_gmt":"2021-09-09T07:19:25","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/?p=11836"},"modified":"2021-09-09T08:20:39","modified_gmt":"2021-09-09T07:20:39","slug":"benthyg-offer-ffisiotherapi-i-gleifion-sydd-a-chyflyrau-niwrolegol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/benthyg-offer-ffisiotherapi-i-gleifion-sydd-a-chyflyrau-niwrolegol\/","title":{"rendered":"Benthyg offer ffisiotherapi i gleifion sydd \u00e2 chyflyrau niwrolegol"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"449\" height=\"640\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/09\/Physiotherapy-Equipment.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-11834\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/09\/Physiotherapy-Equipment.jpg 449w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/09\/Physiotherapy-Equipment-210x300.jpg 210w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/09\/Physiotherapy-Equipment-175x250.jpg 175w\" sizes=\"auto, (max-width: 449px) 100vw, 449px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p>Mae Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro, gyda chefnogaeth NHS Charities Together, wedi dyfarnu cyllid ar gyfer Gwasanaethau Niwro-adfer Cymunedol a Gwasanaeth Ffisiotherapi Niwroleg i Gleifion Allanol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a\u2019r Fro, i roi offer ymarfer corff i gleifion sydd \u00e2 chyflyrau niwrolegol. Roedd y buddsoddiad hwn mewn offer yn galluogi cleifion i barhau \u00e2\u2019u ffisiotherapi gartref, tra bod ardaloedd o\u2019r ysbyty ar gau o ganlyniad i gyfyngiadau Covid-19.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd Jill David, Ffisiotherapydd Niwrogyhyrol Arbenigol: \u2018Mae nifer o gleifion sydd \u00e2 chyflyrau niwrolegol yn dibynnu ar ymarfer corff a gweithgarwch rheolaidd i gynnal eu hiechyd a\u2019u lles, yn feddyliol ac yn gorfforol. Heb gymorth y gwasanaethau ffisiotherapi niwrolegol a ddarperir, nid oedd hi\u2019n bosibl i\u2019r cleifion hyn ymarfer corff yn y gymuned nac mewn amgylchedd ysbyty.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cCafodd cleifion eu hasesu yn rhithwir ond yn aml roedd angen offer arnynt i barhau \u00e2\u2019u ffisiotherapi gartref.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cYn ogystal, roedd yr adran ffisiotherapi yn Ysbyty Athrofaol Cymru a\u2019r canolfannau hamdden sy\u2019n cynnig gwasanaethau cymunedol ar gau a doedd dim opsiynau i unigolion \u00e2 chyflyrau niwrolegol i ymarfer corff yn ddiogel na chael asesiadau a thriniaeth ffisiotherapi wyneb yn wyneb.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Diolch i\u2019r cyllid hwn, darparwyd amrywiaeth o offer i dros 35 o gleifion rhwng Hydref 2020 a Mai 2021. Roedd yr offer yn helpu gyda ffisiotherapi amrywiaeth o gyflyrau gwahanol, a oedd yn caniat\u00e1u defnydd rheolaidd o feiciau ymarfer corff, pedalau, offer str\u00f4c breichiau, bandiau gwrthiant, a llechi Kindle Fire gydag ymarferion wedi\u2019u llwytho\u2019n barod i alluogi\u2019r rhai hynny heb fynediad i\u2019r rhyngrwyd i barhau \u00e2\u2019r ymarferion gartref. Darparwyd arweiniad ynghyd \u00e2\u2019r offer, a threfnwyd galwadau rhithwir neu dros y ff\u00f4n i sicrhau bod yr offer yn cael ei ddefnyddio\u2019n gywir.<\/p>\n\n\n\n<p>Aeth Jill yn ei blaen: \u201cMae\u2019r canlyniadau yn dangos bod yr offer wedi galluogi unigolion \u00e2 chyflyrau niwrolegol i barhau \u00e2\u2019u ffisiotherapi gartref ac i ymarfer corff yn rheolaidd i leihau dirywiad cyflyrau hirdymor ac i adsefydlu ar \u00f4l i gyflyrau eraill waethygu.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRoedd ymarfer corff gartref ac apwyntiadau rhithwir yn ddatrysiad dros dro i sicrhau bod gwasanaethau ffisiotherapi yn parhau i gleifion \u00e2 chyflyrau niwrolegol yn ystod y cyfnod pan nad oedd gwasanaethau cleifion allanol ar gael ac roedd cael yr offer yma yn caniat\u00e1u i staff barhau \u00e2\u2019n gwasanaeth mewn modd amserol a diogel ar gyfer ein cleifion.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Fe wnaeth y t\u00eem Ffisiotherapi gasglu adborth ysgrifenedig i ganfod effaith gallu parhau \u00e2 ffisiotherapi yn y cartref.&nbsp; Dyma rywfaint o\u2019r adborth a gafwyd gan gleifion:<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/NHS-CT-logo.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-8914\" width=\"328\" height=\"182\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/NHS-CT-logo.png 850w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/NHS-CT-logo-300x166.png 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/NHS-CT-logo-768x426.png 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/NHS-CT-logo-250x139.png 250w\" sizes=\"auto, (max-width: 328px) 100vw, 328px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p><em>\u2018Dydw i ddim yn credu y byddwn i wedi gallu parhau \u00e2\u2019r adsefydlu heb gymorth y ffisiotherapydd a\u2019i arweiniad o ran sut i ddefnyddio\u2019r offer\u2019<\/em><em><\/em><\/p>\n\n\n\n<p><em>\u2018Roedd gwybod bod y ffisiotherapydd wedi\u2019i ddarparu ar fy nghyfer yn rhoi hyder i fi ymarfer corff gartref\u2019<\/em><em><\/em><\/p>\n\n\n\n<p><em>\u2018Rydw i\u2019n teimlo fy mod i wedi gwanhau a cholli hyder yn ystod y cyfyngiadau symud ond bydd cael y cyfle i ymarfer corff gyda chymorth i wneud fy ymarferion gartref yn gwneud byd o wahaniaeth. Diolch!\u2019<\/em><em><\/em><\/p>\n\n\n\n<p><em>\u2018Mae benthyg yr offer wedi fy ngalluogi i wireddu manteision ymarfer corff cyson ac rydw i bellach yn gwybod pa offer i brynu fy hun\u2019<\/em><em><\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Gwnaeth y t\u00eem hefyd anfon arolwg a oedd yn cynnig adborth pellach ynghylch darparu\u2019r offer.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd 93% o\u2019r defnyddwyr bod yr offer yn hawdd i\u2019w ddefnyddio, gyda\u2019r 7% arall yn dweud ei fod yn \u2018weddol hawdd\u2019.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd 71% o\u2019r ymatebwyr eu bod yn hynod debygol o argymell y math yma o driniaeth i gleifion eraill, gyda\u2019r 29% arall dal yn debygol o argymell y gwasanaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn gyffredinol, roedd yr adborth yn hynod gadarnhaol ac yn dangos pa mor fanteisiol mae darparu\u2019r offer wedi bod i gleifion \u00e2 chyflyrau niwrolegol.<\/p>\n\n\n\n<p>I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut y gall Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro helpu eich gwasanaeth, ward neu adran ewch i <a href=\"http:\/\/www.healthcharity.wales\">www.healthcharity.wales<\/a> neu e-bostiwch fundraising.cav@wales.nhs.uk<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro, gyda chefnogaeth NHS Charities Together, wedi dyfarnu cyllid ar gyfer Gwasanaethau Niwro-adfer Cymunedol a Gwasanaeth Ffisiotherapi Niwroleg i Gleifion Allanol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a\u2019r Fro, i roi offer ymarfer corff i gleifion sydd \u00e2 chyflyrau niwrolegol. Roedd y buddsoddiad hwn mewn offer yn galluogi cleifion i barhau \u00e2\u2019u<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":11834,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-11836","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11836","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11836"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11836\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11837,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11836\/revisions\/11837"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/11834"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11836"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11836"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11836"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}