 {"id":11300,"date":"2021-08-11T11:27:41","date_gmt":"2021-08-11T10:27:41","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/?p=11300"},"modified":"2021-08-11T11:27:43","modified_gmt":"2021-08-11T10:27:43","slug":"manteision-hafanau-staff-yn-parhau-i-gael-eu-gwerthfawrogi-gan-staff","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/manteision-hafanau-staff-yn-parhau-i-gael-eu-gwerthfawrogi-gan-staff\/","title":{"rendered":"Manteision Hafanau Staff yn parhau i gael eu gwerthfawrogi gan Staff"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Agorwyd yr Hafan i Staff yn Adain Glan-y-Llyn yn Ysbyty Athrofaol Cymru n\u00f4l ym mis Chwefror 2021, ac mae wedi bod yn gwella ysbryd a lles y staff ers hynny. \u00a0Diolch i gyllid gan Gareth ac Emma Bale, gweithiodd Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro a Gwasanaeth Iechyd a Lles Cyflogeion ar greu ardal heddychlon i staff ymlacio, a darparu mynediad at ystod o gyfleusterau sydd \u00e2\u2019r nod o wella eu lles emosiynol a meddyliol.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/01\/Lsisw.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-7896\" width=\"345\" height=\"229\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/01\/Lsisw.jpg 275w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/01\/Lsisw-250x166.jpg 250w\" sizes=\"auto, (max-width: 345px) 100vw, 345px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r cysyniad o Hafan i Staff yn deillio o\u2019r gred y dylai fod gan staff y Bwrdd Iechyd le i gael seibiant a mynediad at amgylchedd sy\u2019n caniat\u00e1u iddynt ymlacio a myfyrio er mwyn amddiffyn eu lles emosiynol a\u2019u hiechyd meddwl. &nbsp;Mae pobl yn dewis gwneud hyn mewn ffyrdd gwahanol ac felly mae\u2019r ardal wedi\u2019i dylunio i fod \u00e2 sawl pwrpas.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gan yr Hafan i Staff ardaloedd ymgynnull sy\u2019n cynnwys cegin i wneud diod boeth, byrddau a chadeiriau i eistedd a myfyrio, cyfleusterau cawod i olchi ar ddiwedd y dydd ac mae\u2019n ardal di-ffonau symudol sy\u2019n rhoi cyfle i feddyliau prysur ymlacio, hyd yn oed os yw am gyfnod byr yn unig. &nbsp;Mae\u2019r ardal dawel yn annog staff i eistedd heb unrhyw ddifyrrwch ac ymlacio.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gwaith celf hardd yn addurno\u2019r waliau, sy\u2019n helpu i ledaenu positifrwydd. &nbsp;Y gobaith yw y bydd dod \u00e2\u2019r tu allan i mewn, trwy ddefnyddio lliwiau naturiol a phlanhigion ochr yn ochr \u00e2 chelf ysgogol ac ysbrydoledig, yn helpu i greu ardal Zen.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Simone Joslyn, Pennaeth y Celfyddydau ac Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro:<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cRoedd yr Elusen Iechyd yn falch iawn o gefnogi\u2019r staff trwy ddarparu Hafan i Staff.&nbsp; Mae\u2019n hollbwysig, yn enwedig nawr yn ystod y pandemig, bod staff yn gallu cael seibiant o\u2019u diwrnodau gwaith prysur mewn ardal dawel i adeiladu gwytnwch a myfyrio ar eu diwrnod er mwyn helpu i wella eu hiechyd a\u2019u lles emosiynol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cHoffwn ddiolch i Grosvenor Interiors am eu cyfranogiad yn y prosiect hwn, gan ddod \u00e2\u2019r weledigaeth o gelf a lles yn gweithio gyda\u2019i gilydd yn fyw er budd ein haelodau o staff gwerthfawr iawn yn y GIG.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3361-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-8003\" width=\"359\" height=\"238\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3361-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3361-300x200.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3361-768x512.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3361-250x167.jpg 250w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3361-510x340.jpg 510w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3361.jpg 1200w\" sizes=\"auto, (max-width: 359px) 100vw, 359px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Nicky Bevan, Pennaeth Gwasanaethau Iechyd a Lles Cyflogeion:<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cMae gallu cael seibiant ac ymadfer yn hanfodol i gynnal ein lles yn ystod yr adegau hynod heriol yma. &nbsp;Nod yr Hafan yw rhoi\u2019r cyfle i staff orffwys oddi wrth yr amgylchedd clinigol neu\u2019r swyddfa a chael lle i fuddsoddi mewn rhywfaint o hunanofal. &nbsp;Mae\u2019r gwaith celf hardd ar y waliau a\u2019r effaith mae hyn yn ei gael ar dawelu\u2019r amgylchedd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i les cyffredinol ein staff.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cafwyd adborth hynod gadarnhaol gan aelodau o staff hefyd sy\u2019n parhau i ddefnyddio\u2019r Hafan i Staff yn ddyddiol, gan nodi\u2019r effaith gadarnhaol mae\u2019r lle yn ei gael ar eu bywydau bob dydd:<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd Jamie Rowlands, nyrs a oedd yn gweithio yn Ysbyty Athrofaol Llandochau yn flaenorol, yn arfer defnyddio\u2019r ystafell staff ar y ward yn ystod ei egwyliau.&nbsp; Mae bellach yn gweithio yn Adain Glan-y-Llyn ac yn gofalu am gleifion sydd angen adsefydlu er mwyn dychwelyd adref.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Jamie: \u201cMae\u2019r hafan i staff yn le golau ac agored, gyda digon o le i eistedd.&nbsp; Mae\u2019n fodern, yn l\u00e2n ac yn newydd. &nbsp;Mae\u2019r amgylchedd yn gwneud i mi ymlacio, mae\u2019n rhoi lle braf i fi ddianc o\u2019r ward, i ddod at fy hun a chael seibiant.&nbsp; Mae\u2019r lle yn fy mharatoi i ymgymryd \u00e2\u2019r her nesaf.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd Chloe Westall, myfyriwr nyrsio sy\u2019n gweithio yn Adain Glan-y-Llyn yn Ysbyty Athrofaol Cymru ar hyn o bryd, yn arfer gweithio yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, lle y bu\u2019n defnyddio\u2019r ystafell seibiant ar ei ward a oedd \u00e2 digon o le ar gyfer tri pherson ar y tro.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Chloe: \u201cMae\u2019r hafan i staff yn le hyfryd i eistedd a chael seibiant.&nbsp; Mae\u2019n bosibl ymlacio a thawelu yno. &nbsp;Mae ganddo bopeth sydd ei angen arna i i gael seibiant o sifft brysur.&nbsp; Rydw i\u2019n treulio pob egwyl yno, oni bai ei bod hi\u2019n braf ac yna rydw i\u2019n eistedd y tu allan i gael rywfaint o awyr iach. &nbsp;Mae\u2019n braf cael amgylchedd mor hyfryd i ddadflino ynddo.\u201d<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3365-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-7997\" width=\"381\" height=\"253\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3365-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3365-300x200.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3365-768x512.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3365-250x167.jpg 250w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3365-510x340.jpg 510w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3365.jpg 1200w\" sizes=\"auto, (max-width: 381px) 100vw, 381px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Morgan Kneath yn Ffisiotherapydd wedi\u2019i leoli yn Adain Glan-y-Llyn sy\u2019n helpu i adsefydlu cleifion sy\u2019n barod i ddychwelyd adref.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Morgan: \u201cRydw i wir yn mwynhau treulio amser yn yr Hafan i Staff.&nbsp; Rydw i wrth fy modd \u00e2\u2019r gwaith celf ar y waliau, rydw i\u2019n dwlu ar y dodrefn \u2013 rydw i bob amser yn mynd at y cadeiriau gogwyddo, gan mai nhw yw fy hoff rai.&nbsp; Mae\u2019r lliwiau yn gwneud i mi ymlacio.&nbsp; Rydw i wir yn gwerthfawrogi\u2019r ardal, mae\u2019n ardal fawr o\u2019i chymharu \u00e2\u2019r ystafelloedd staff bach ar y ward ac mae hi mor agos at ble rydw i\u2019n gweithio.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Sonia Harvey yn Weithiwr Cymorth Gofal Iechyd sy\u2019n rhoi gofal i gleifion yn Adain Glan-y-Llyn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Sonia: \u201cGan fy mod i\u2019n gweithio yn Adain Glan-y-Llyn, fe wnes i a fy nghydweithwyr wylio\u2019r Hafan i Staff yn cael ei hadeiladu.&nbsp; Ni allem gredu trawsnewidiad yr ardal.&nbsp; Mae\u2019n ardal wych sy\u2019n rhoi cyfle i ni dreulio amser oddi wrth amgylchedd y ward sy\u2019n aml yn brysur iawn.&nbsp; Tra eich bod chi yn yr Hafan i Staff, gallech chi fod miloedd o filltiroedd i ffwrdd o\u2019r ward gan ei bod yn ardal mor llonydd.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gallwch ddarllen rhagor am yr Hafan i Staff yn Adain Glan-y-Llyn <a href=\"https:\/\/healthcharity.wales\/staff-haven-to-open-in-lakeside-wing\/\">yma.<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Agorwyd yr Hafan i Staff yn Adain Glan-y-Llyn yn Ysbyty Athrofaol Cymru n\u00f4l ym mis Chwefror 2021, ac mae wedi bod yn gwella ysbryd a lles y staff ers hynny. \u00a0Diolch i gyllid gan Gareth ac Emma Bale, gweithiodd Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro a Gwasanaeth Iechyd a Lles Cyflogeion ar greu ardal heddychlon i<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":7999,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-11300","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11300","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11300"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11300\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11301,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11300\/revisions\/11301"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/7999"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11300"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11300"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11300"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}