 {"id":11162,"date":"2021-08-03T09:33:41","date_gmt":"2021-08-03T08:33:41","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/?p=11162"},"modified":"2021-08-03T09:34:48","modified_gmt":"2021-08-03T08:34:48","slug":"prosiectau-llwyddiannus-panel-cynigion-loterir-staff-gorffennaf-2021","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/prosiectau-llwyddiannus-panel-cynigion-loterir-staff-gorffennaf-2021\/","title":{"rendered":"Prosiectau Llwyddiannus Panel Cynigion Loteri\u2019r Staff &#8211; Gorffennaf 2021"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gellir gweld isod ddwy enghraifft o geisiadau llwyddiannus a gyflwynwyd i Banel Cynigion Loteri\u2019r Staff eu hystyried yn y cyfarfod, a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2021;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><u>Lleddfu\u2019r Diflastod &#8211; Gemau Bwrdd ar gyfer Gofal Iechyd CEM<\/u><\/strong><strong><u><\/u><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Gofal Iechyd CEM yn gyfleuster yng Ngharchar Ei Mawrhydi yng Nghaerdydd i ddynion sydd ag anghenion gofal iechyd ychwanegol. Mae cyfnodau cyswllt yn ystod y dydd lle gallant ryngweithio \u00e2 phreswylwyr eraill, fodd bynnag, ni fu unrhyw adloniant na gweithgareddau ar gael i wneud eu hamser yn y cyfleuster yn fwy diddorol a phleserus.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/08\/HMP-Picture-2-768x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-11155\" width=\"273\" height=\"364\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/08\/HMP-Picture-2-768x1025.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/08\/HMP-Picture-2-225x300.jpg 225w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/08\/HMP-Picture-2-187x250.jpg 187w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/08\/HMP-Picture-2.jpg 772w\" sizes=\"auto, (max-width: 273px) 100vw, 273px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gwnaeth Karen Mills, y Nyrs Arwain yng Ngofal Iechyd CEM a Michelle Davis, y Rheolwr Gweithredol, wneud cais am gyllid i brynu detholiad o gemau bwrdd i\u2019r dynion eu defnyddio yn ystod eu cyfnod yng Ngofal Iechyd CEM, er mwyn caniat\u00e1u mwy o ryngweithio a ffordd ddiddorol o dreulio eu hamser. Yn y cynnig dywedodd Michelle: \u2018Bydd hyn o fudd i\u2019r dynion yng Ngofal Iechyd CEM drwy roi rhywbeth adeiladol a phleserus iddynt ei wneud yn ystod cyfnodau cyswllt. Bydd yn lleddfu diflastod ac yn hyrwyddo ymdeimlad o les drwy annog y dynion i ryngweithio \u00e2\u2019i gilydd drwy wneud gweithgarwch pleserus.\u2019 Roedd y gemau roedd Karen a Michelle yn gobeithio eu prynu yn cynnwys y gemau clasurol megis dominos, Connect 4 ac Uno, a gwnaethant hefyd holi\u2019r dynion yng Ngofal Iechyd CEM ar hyn o bryd i weld beth oedd eu ffefrynnau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd y Panel Cynigion yn hapus i gymeradwyo\u2019r cynnig hwn oherwydd ei fod yn hyrwyddo lles cleifion yn ogystal \u00e2 gwella ansawdd eu hamser yng Ngofal Iechyd CEM. Roedd y gemau hefyd yn debygol o wella profiad y claf, gan arwain at greu cysylltiadau a chyfeillgarwch newydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gwelir Michelle a Karen yn y llun ar yr ochr dde, gyda rhai o\u2019r gemau a brynwyd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><u>Cyfarpar Cegin ar gyfer y Staff Gofal Iechyd yn CEM Caerdydd<\/u><\/strong><strong><u><\/u><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r Staff Gofal Iechyd yn CEM Caerdydd yn d\u00eem ymroddedig o weithwyr gofal iechyd sy\u2019n aml yn gweithio sifftiau hir, dros nos i ddarparu\u2019r gofal sydd ei angen ar y cleifion. Nid oes gan staff fynediad i gyfleusterau ffreutur na bar byrbrydau, ac o ganlyniad i\u2019r amser mae\u2019n ei gymryd i ddod i mewn ac allan o adeilad CEM Caerdydd, ni allant brynu cinio y tu allan.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gwnaeth Michelle hefyd wneud cais am gyllid i brynu ystod o gyfarpar cegin i alluogi\u2019r staff i storio a pharatoi bwyd ffres, yn ogystal \u00e2 gwneud coffi yn y cyfleuster. Mae hyn yn cynnwys oergell fach, gril George Foreman, a pheiriant gwneud coffi hidlo.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Michelle: \u2018Bydd hyn yn galluogi\u2019r staff gofal iechyd yn CEM Caerdydd i baratoi amrywiaeth ehangach o brydau yn ystod eu hegwyliau. Bydd hefyd yn gwella mor\u00e2l ac yn hyrwyddo gwaith t\u00eem drwy egwyliau anffurfiol a dreulir yn bwyta gyda\u2019i gilydd (pan gaiff y cyfyngiadau COVID presennol eu llacio).\u2019<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd y Panel Cynigion yn hapus i gymeradwyo\u2019r cynnig hwn am ei fod yn hybu mor\u00e2l a phrofiad y staff. Mae gallu paratoi amrywiaeth ehangach o brydau hefyd yn golygu y gall y staff gofal iechyd barhau i deimlo\u2019n llawn egni yn ystod gweddill eu sifft am eu bod wedi diwallu eu hanghenion maethol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><u>Pam ddylech CHI gefnogi\u2019r Loteri\u2019r Staff!<\/u><\/strong><strong><u><\/u><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Panel Cynigion Loteri\u2019r Staff yn ymdrechu i gyflawni\u2019r saith nod lles a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol, ynghyd \u00e2 defnyddio\u2019r pum dull o weithio; hirdymor, atal, integreiddio, cydweithredu a chynnwys.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Drwy ymuno \u00e2 Loteri\u2019r Staff, rydych yn cefnogi ystod eang o brosiectau a ariennir gan y Panel Cynigion, sy\u2019n gwella gwasanaethau niferus ar draws y BIP. Drwy\u2019r cyllid hwn, rydych yn helpu\u2019r Panel Cynigion a\u2019r Elusen Iechyd i wella pethau i\u2019n staff a\u2019n cleifion, gan ein helpu ni i gyd i gydweithio i greu Cymru Lewyrchus, Iachach a Chydnerth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os hoffech ymuno \u00e2 Loteri\u2019r Staff, gellir cwblhau ffurflenni cais<a href=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2019\/11\/Staff-Lottery-Leaflet-March-2021-INTERACTIVE.pdf\"> yn electronig<\/a> neu drwy ein gwefan;<a href=\"https:\/\/healthcharity.wales\/hospital-staff\/staff-lottery\/\"> https:\/\/healthcharity.wales\/hospital-staff\/staff-lottery\/<\/a>. Dychwelwch ffurflenni Loteri\u2019r Staff wedi\u2019u cwblhau at <a href=\"mailto:fundraising.cav@wales.nhs.uk\">fundraising.cav@wales.nhs.uk<\/a>. Os hoffech wneud cais am gyllid gan Banel Cynigion Loteri\u2019r Staff, cysylltwch \u00e2\u2019r cyfeiriad uchod i gael manylion.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro yn eich annog i ymuno \u00e2 Loteri\u2019r Staff a gwneud cais am gyllid, sy\u2019n gallu gwella eich adran neu wasanaeth a hysbysu eraill am fuddiannau ymuno \u00e2 Loteri\u2019r Staff. A phwy \u00e2 \u0175yr, efallai mai chi fydd ein henillydd nesaf?<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gellir gweld isod ddwy enghraifft o geisiadau llwyddiannus a gyflwynwyd i Banel Cynigion Loteri\u2019r Staff eu hystyried yn y cyfarfod, a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2021; Lleddfu\u2019r Diflastod &#8211; Gemau Bwrdd ar gyfer Gofal Iechyd CEM Mae Gofal Iechyd CEM yn gyfleuster yng Ngharchar Ei Mawrhydi yng Nghaerdydd i ddynion sydd ag anghenion gofal iechyd<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":11155,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[104,6],"tags":[],"class_list":["post-11162","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-ceisiadau-loteri-staff","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11162","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11162"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11162\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11166,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11162\/revisions\/11166"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/11155"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11162"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11162"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11162"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}