 {"id":10179,"date":"2021-05-26T16:55:10","date_gmt":"2021-05-26T15:55:10","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/diwrnod-aids-y-byd\/"},"modified":"2021-05-26T16:55:10","modified_gmt":"2021-05-26T15:55:10","slug":"diwrnod-aids-y-byd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/diwrnod-aids-y-byd\/","title":{"rendered":"Diwrnod AIDS y Byd"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Diwrnod AIDS y Byd yn cael ei gynnal bob blwyddyn ar 1 Rhagfyr <sup>st<\/sup> er mwyn tynnu sylw at bandemig HIV, codi mwy o ymwybyddiaeth o HIV ac annog pobl i leisio eu barn ar y stigma ynghylch HIV. Bydd Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro yn nodi&#8217;r diwrnod hwn drwy edrych ar y celf y maen nhw wedi&#8217;u comisiynu ar gyfer y bobl y mae HIV wedi effeithio arnyn nhw.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Gareth Thomas, un o arwyr rygbi Cymru, yn ffigwr blaenllaw o ran materion LGBTQ+, sy&#8217;n defnyddio&#8217;i lais i frwydro yn erbyn y stigma sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 HIV. Yn dilyn ei ddiagnosis, mae Gareth yn cael triniaeth a chwnsela rheolaidd gan Adran Iechyd Rhywiol yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd, ac mae wedi ysbrydoli nifer o brosiectau sydd wedi cael eu creu fel rhan o Ymgyrch y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Eleni mae T\u00eem Celfyddydau yn Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro wedi comisiynu portread o Gareth gan arlunydd lleol, sef Nathan Wyburn. Mae&#8217;r portread bellach yn cael ei arddangos yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd, a chafodd ei greu gyda phaent coch a blaenau&#8217;r bysedd. Mae Nathan yn aelod brwd o&#8217;r gymuned LGBTQ+, ac roedd yn hynod o falch o&#8217;r cyfle i gael ei gomisiynu i greu&#8217;r darn sy&#8217;n adlewyrchu ei frwdfrydedd ei hun ynghylch hyrwyddo cydraddoldeb, iechyd meddwl a chwalu rhwystrau.<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2020\/08\/Nathan-GT-5-768x1024.jpeg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4873\" width=\"384\" height=\"512\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2020\/08\/Nathan-GT-5-768x1024.jpeg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2020\/08\/Nathan-GT-5-225x300.jpeg 225w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2020\/08\/Nathan-GT-5-188x250.jpeg 188w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2020\/08\/Nathan-GT-5.jpeg 900w\" sizes=\"auto, (max-width: 384px) 100vw, 384px\" \/><\/figure><\/div>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Rachel Drayton, Cyfarwyddwr Clinigol yr Adran Iechyd Rhywiol: &#8220;Mae Gareth yn fodel r\u00f4l gwych i gymaint o bobl. Mae&#8217;n defnyddio ei statws proffesiynol fel llwyfan i hyrwyddo materion sy&#8217;n bwysig iddo, fel cydraddoldeb LGBTQ+, iechyd meddwl a chodi ymwybyddiaeth am HIV. Rydyn ni&#8217;n gobeithio y bydd arddangos y gwaith celf hwn yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd yn ysbrydoli pobl eraill i ddal ati gyda chryfder a gobaith am y dyfodol.&#8221;<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cafodd Gareth ddylanwad cryf ar rywun arall oedd yn defnyddio&#8217;r gwasanaeth, a gyfranodd bortread o Gareth i ddangos cydnabyddiaeth o&#8217;r gwasanaeth rhagorol a gafodd yn Adran Iechyd Rhywiol Ysbyty Brenhinol Caerdydd yn ogystal ag Ymddiriedolaeth Terence Higgins. Roedd yr unigolyn hwn wedi dechrau peintio fel ffordd o ddangos ei greadigrwydd a dysgu sgil newydd yn ystod cyfnod heriol iawn yn ei fywyd. <\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"225\" height=\"300\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2020\/11\/LGBTQ-Gareth-Thomas.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6553\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2020\/11\/LGBTQ-Gareth-Thomas.jpg 225w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2020\/11\/LGBTQ-Gareth-Thomas-188x250.jpg 188w\" sizes=\"auto, (max-width: 225px) 100vw, 225px\" \/><\/figure><\/div>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ystod Diwrnod AIDS y Byd eleni, hoffai Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro godi ymwybyddiaeth am waith Gareth yngh\u0177d \u00e2&#8217;i gryfder wrth siarad am HIV, yn ogystal \u00e2 phawb arall sy&#8217;n codi ymwybyddiaeth, yn lleihau stigma, ac yn annog yr hawl i fynegi eich hun.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os hoffech chi wneud cyfraniad i gefnogi rhaglen y Celfyddydau yn Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro ewch i: https:\/\/www.justgiving.com\/campaign\/artsforhealthandwellbeing<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Diwrnod AIDS y Byd yn cael ei gynnal bob blwyddyn ar 1 Rhagfyr st er mwyn tynnu sylw at bandemig HIV, codi mwy o ymwybyddiaeth o HIV ac annog pobl i leisio eu barn ar y stigma ynghylch HIV. Bydd Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro yn nodi&#8217;r diwrnod hwn drwy edrych ar y celf<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":6554,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-10179","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10179","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10179"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10179\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10180,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10179\/revisions\/10180"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6554"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10179"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10179"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10179"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}