 {"id":10171,"date":"2021-05-26T16:54:34","date_gmt":"2021-05-26T15:54:34","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/elusen-iechyd-caerdydd-ar-fro-yn-dathlu-10-mlynedd\/"},"modified":"2021-05-26T16:54:36","modified_gmt":"2021-05-26T15:54:36","slug":"elusen-iechyd-caerdydd-ar-fro-yn-dathlu-10-mlynedd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/elusen-iechyd-caerdydd-ar-fro-yn-dathlu-10-mlynedd\/","title":{"rendered":"Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro yn dathlu 10 mlynedd"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ym mis Rhagfyr eleni, mae Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro yn dathlu 10 mlynedd ers iddyn nhw wneud pethau&#8217;n well i gleifion, ymwelwyr, staff a&#8217;r gymuned ehangach. <\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd yr Elusen Iechyd wedi bwriadu cynnal digwyddiad i ddathlu 10 mlynedd, er mwyn cofio am y prosiectau enfawr y mae wedi&#8217;u hariannu, gan ddathlu cyfraniad rhoddwyr, pobl sydd wedi codi arian a gwirfoddolwyr a phartneriaid cymunedol dros y degawd diwethaf. Yn anffodus, oherwydd y Coronafeirws roedd yn rhaid canslo&#8217;r cynlluniau hyn. Felly bydd yr Elusen Iechyd yn edrych yn \u00f4l dros sut mae ei rhoddwyr, pobl sydd wedi codi arian, gwirfoddolwyr a phartneriaid cymunedol wedi helpu i newid pethau er gwell dros y deng mlynedd diwethaf. <\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-embed-youtube wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Health Charity reaches 10 year anniversary\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/uAs9iTcIRRU?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ystod y deng mlynedd diwethaf, mae&#8217;r Elusen Iechyd wedi gweithio&#8217;n ddiflino i gefnogi cleifion a staff. Maen nhw wedi gwneud yr amgylchedd yn fwy croesawgar ac wedi darparu eitemau sydd ddim yn cael eu cefnogi gan gyllid arferol y GIG. Yn aml, y pethau bychain i gefnogi profiad y claf sy&#8217;n gwneud y gwahaniaeth mwyaf.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bob mis bydd yr Elusen Iechyd yn rhannu atgofion o bob blwyddyn, gan gychwyn gyda mis Rhagfyr 2010, ac yn tynnu sylw at y prif weithgareddau codi arian a&#8217;r bobl wnaeth godi arian yn ystod y cyfnod hwn.  <\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae eleni wedi bod yn flwyddyn unigryw i&#8217;r Elusen Iechyd. Cafwyd llai o incwm oherwydd y bu&#8217;n rhaid canslo llawer o ddigwyddiadau codi arian er mwyn helpu i atal y feirws rhag lledaenu. <\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cafwyd cefnogaeth wych gan y gymuned leol a&#8217;r gymuned ehangach mewn ymateb i&#8217;r ymgyrch #SpreadTheLove. Daeth cymunedau at ei gilydd i roi bwyd i staff y rheng flaen a rhoddwyd eitemau ymolchi iddynt er mwyn sicrhau bod staff a oedd yn gweithio shifftiau hir yn gallu ffresio ar \u00f4l tynnu eu Cyfarpar Diogelu Personol llawn. Daeth pobl o bob oed at ei gilydd i gymryd rhan mewn gweithgareddau codi arian, fel eillio&#8217;r pen, digwyddiadau rhedeg rhithiol, gwerthu teganau a chacennau er mwyn codi arian i gefnogi&#8217;r GIG sy&#8217;n agos at eu calon ar adeg pan mae arnynt ei angen fwyaf. <\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dyma rai o&#8217;r prif gyflawniadau dros y ddeng mlynedd diwethaf:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Cyllido Canolfan Gofal y Fron wedi\u2019i hadeiladu\u2019n arbennig yn Ysbyty Athrofaol Llandochau<\/li><li>Uwchraddio offer mamograffi<\/li><li>Cyllido offer sganio cludadwy<\/li><li>Agor Galeri&#8217;r Hearth yn Ysbyty Athrofaol Llandochau<\/li><li>Cyllido Ystafell Addysg Sgiliau Meddygol yn Ysbyty Athrofaol Cymru <\/li><li>Codi dros \u00a3100,000 yn ystod Hanner Marathon Caerdydd 2018<\/li><li>Ennill Medal Arian-Gilt gan Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol Caerdydd am ein cynnig a gafodd ei ysbrydoli gan Ein Berllan<\/li><\/ul>\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Akmal Hanuk, Cadeirydd y Pwyllgor Cronfeydd Elusennol: &#8220;Rwy&#8217;n falch iawn o&#8217;r elusen wych hon rydyn ni wedi&#8217;i hadeiladu yn ystod y deng mlynedd diwethaf. Rydyn ni wedi gallu cefnogi cymaint o brosiectau gwerth chweil sy&#8217;n gwneud cymaint o wahaniaeth i&#8217;n cleifion a&#8217;n staff &#8211; ond fydden ni ddim yn gallu gwneud hynny heb y rhoddwyr a&#8217;r bobl hael sy&#8217;n codi arian.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">&#8220;Mae&#8217;r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un arbennig o heriol i bawb ohonom, yn ogystal \u00e2 llawer o elusennau eraill, gyda llawer o ddigwyddiadau codi arian yn cael eu canslo. Rydyn ni&#8217;n hynod o ddiolchgar am y gefnogaeth barhaus gan bawb yn ystod y cyfnod anodd hwn ac rwy&#8217;n edrych ymlaen gyda gobaith at y 10 mlynedd nesaf i gael cefnogi llawer o brosiectau eraill gwerth chweil yn y dyfodol.&#8221;<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Simone Joslyn, Pennaeth y Celfyddydau yn Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro: \u201cMae dathlu 10 mlynedd<sup>th<\/sup> ers i ni gael ei sefydlu wedi rhoi cyfle i ni fyfyrio ar ba mor bell rydyn ni wedi dod fel elusen, nid yn unig yn ariannol, ond hefyd y gwahaniaeth rydyn ni wedi&#8217;i wneud i&#8217;n cleifion, staff, gwirfoddolwyr, teuluoedd a&#8217;n cymunedau yn ystod y cyfnod hwn.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">&#8220;Fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth anhygoel ein rhoddwyr, cefnogwyr a&#8217;r holl bobl sy&#8217;n codi arian i ni, yn ogystal \u00e2 gwaith caled ein gwirfoddolwyr a&#8217;n staff. Hoffwn ddweud &#8216;diolch yn fawr&#8217; wrth bawb am eu cefnogaeth yn ystod y 10 mlynedd diwethaf.&#8221;<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os hoffech chi gefnogi Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro a rhoi \u00a310 i ddathlu 10 mlynedd ewch i www.healthcharity.wales\/donate<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ym mis Rhagfyr eleni, mae Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro yn dathlu 10 mlynedd ers iddyn nhw wneud pethau&#8217;n well i gleifion, ymwelwyr, staff a&#8217;r gymuned ehangach. Roedd yr Elusen Iechyd wedi bwriadu cynnal digwyddiad i ddathlu 10 mlynedd, er mwyn cofio am y prosiectau enfawr y mae wedi&#8217;u hariannu, gan ddathlu cyfraniad rhoddwyr, pobl<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":6913,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-10171","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10171","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10171"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10171\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10174,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10171\/revisions\/10174"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6913"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10171"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10171"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10171"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}