 {"id":10135,"date":"2021-05-26T16:46:46","date_gmt":"2021-05-26T15:46:46","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/lansio-ffilmiau-hyfforddi-gyda-hijinx-i-gefnogi-cleifion-a-staff-ag-anableddau-dysgu\/"},"modified":"2021-05-26T16:46:46","modified_gmt":"2021-05-26T15:46:46","slug":"lansio-ffilmiau-hyfforddi-gyda-hijinx-i-gefnogi-cleifion-a-staff-ag-anableddau-dysgu","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/lansio-ffilmiau-hyfforddi-gyda-hijinx-i-gefnogi-cleifion-a-staff-ag-anableddau-dysgu\/","title":{"rendered":"Lansio Ffilmiau Hyfforddi gyda Hijinx i Gefnogi Cleifion a Staff ag Anableddau Dysgu"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-embed-vimeo aligncenter wp-block-embed is-type-video is-provider-vimeo wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"How to... Help a Stressed Neurodivergent Patient Trailer\" src=\"https:\/\/player.vimeo.com\/video\/497997611?dnt=1&amp;app_id=122963\" width=\"500\" height=\"281\" frameborder=\"0\" allow=\"autoplay; fullscreen; picture-in-picture; clipboard-write; encrypted-media\"><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n<p>Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a&#8217;r Fro a Hijinx yn lansio cyfres newydd o fideos hyfforddi ar-lein i helpu i hyfforddi staff iechyd a gofal cymdeithasol i gyfathrebu&#8217;n effeithiol \u00e2 phobl ag anableddau dysgu a\/neu awtistiaeth yn ogystal \u00e2 gofalu amdanynt yn briodol a&#8217;u cefnogi. Bydd y fideos yn cael eu rhannu mewn gweminar a digwyddiad sgrinio ar-lein ar 27 Ionawr 2021 cyn y byddant ar gael ar-lein i bawb.<\/p>\n\n<p>Diolch i gyllid gan Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro a Busnes Cymru, roedd y Bwrdd Iechyd yn gallu comisiynu Hijinx i ddatblygu cyfres o ffilmiau byr wedi&#8217;u ffilmio yn Ysbyty Athrofaol Cymru.<\/p>\n\n<p>Mae Hijinx yn un o gwmn\u00efau theatr cynhwysol amlycaf Ewrop, yn anelu at gydraddoldeb drwy greu celf ragorol gydag actorion ag anabledd dysgu a\/neu sy&#8217;n awtistig ar y llwyfan, ar y sgrin, yn y gweithle, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i Gymru ac i&#8217;r byd.<\/p>\n\n<p>Mae&#8217;r ffilmiau hyfforddi yn trafod nifer o bynciau a oedd wedi&#8217;u hamlygu fel meysydd a oedd yn peri cryn bryder yn y Bwrdd Iechyd, fel cyfathrebu, trin rhwymedd a gwneud arsylliadau. Ychydig flynyddoedd yn \u00f4l, canfu astudiaeth a gynhaliwyd gan Arsyllfa Anableddau Dysgu ar gyfer Gwella Iechyd a Bywydau fod tua 1200 o bobl ag anableddau dysgu yn marw yng ngofal y GIG bob blwyddyn, ac y gellid osgoi&#8217;r marwolaethau hynny.<\/p>\n\n<p>Bydd yr hyfforddiant hwn yn helpu i fynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r anghydraddoldeb mawr hwn o ran y gofal a&#8217;r driniaeth y mae pobl ag anableddau dysgu wedi&#8217;u derbyn a bydd hefyd yn achub bywyd cleifion o bosibl. <\/p>\n\n<p>Mae pedwar o actorion Hijinx yn perfformio yn y ffilmiau hyfforddi hyn sy&#8217;n llawn gwybodaeth ac yn ddiddorol iawn, gyda hiwmor a brand y cwmni wrth galon y cyfan. Byddant ar gael i staff eu gwylio ledled y GIG, yn ogystal ag unrhyw un sy&#8217;n dymuno datblygu eu hyfforddiant anabledd am ddim ar-lein.<\/p>\n\n<p>Dywedodd Andy Jones, Prif Nyrs ar gyfer Llawfeddygaeth, Wroleg, Offthalmoleg, Adran y Glust, y Trwyn a&#8217;r Gwddf, Gwasanaeth Deintyddol a Gwella Clwyfau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a&#8217;r Fro, &#8220;Rwy&#8217;n teimlo&#8217;n gyffrous iawn y bydd y ffilmiau hyfforddi hyn yn cael eu rhyddhau a&#8217;u defnyddio i hybu gwella arferion yn y maes gofal ar gyfer cleifion ag anableddau dysgu.<\/p>\n\n<p>\u201cMae&#8217;r anghydraddoldebau yn y ddarpariaeth gofal iechyd ar gyfer y gr\u0175p agored i niwed hwn yn cael ei gydnabod yn eang.<\/p>\n\n<p>\u201cMae&#8217;r ffilmiau hyn yn seiliedig ar ganfyddiadau adroddiad LeDer y GIG yn Lloegr ac yn dod yn fyw diolch i actorion Cwmni Theatr Hijinx. Mae gan yr actorion anableddau dysgu ac maent wedi gorfod wynebu anawsterau o ran cael y gofal a&#8217;r gefnogaeth y mae ganddynt yr hawl i&#8217;w cael hefyd.<\/p>\n\n<p>\u201cNod y prosiect oedd cael ffilmiau a oedd yn herio ac yn pryfocio cynulleidfaoedd ac yn gwneud iddynt drafod y problemau, y rhwystrau a&#8217;r heriau cyffredin y mae pobl ag anableddau dysgu yn eu hwynebu. Gobeithio y bydd y ffilmiau hyn yn hwyluso trafodaethau er mwyn dysgu ac er mwyn gallu gwneud addasiadau rhesymol er mwyn goresgyn problemau diagnosteg ac er mwyn cadw pobl yn ddiogel.&#8221;<\/p>\n\n<p>Dywedodd Sarah Horner, Prif Weithredwr Theatr Hijinx, \u201cMae&#8217;n wych gweld y ffilmiau hyn yn cael eu rhannu er mwyn cefnogi hyfforddiant mewn maes mor bwysig. Rydym yn falch iawn o fod wedi gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a&#8217;r Fro yn datblygu&#8217;r adnoddau hyn ac yn galluogi profiadau actorion Hijinx i fod yn ganolog i&#8217;w creadigaeth. Gobeithio y byddant yn cael effaith go iawn ar ansawdd y gofal y mae cleifion ag anableddau dysgu yn ei dderbyn.&#8221;<\/p>\n\n<p>Ar 27 Ionawr 2021, bydd y fideos yn cael eu lansio mewn digwyddiad sgrinio ar-lein, gyda phobl yn bresennol o&#8217;r GIG, y llywodraeth a&#8217;r sectorau iechyd a busnes. Bydd gweminar yn dilyn y digwyddiad lle bydd cyfle i gael trafodaeth fer. Dim ond hyn a hyn o docynnau sydd ar gael ar gyfer y digwyddiad sgrinio ar-lein a hynny drwy Eventbrite. Bydd y fideos ar gael gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a&#8217;r Fro o 28 Ionawr 2021 ymlaen.<\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-gallery columns-3 is-cropped wp-block-gallery-1 is-layout-flex wp-block-gallery-is-layout-flex\"><ul class=\"blocks-gallery-grid\"><li class=\"blocks-gallery-item\"><figure><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"785\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/01\/Photo-from-filmshoot-Sept-2019.-Credit-Hijinx-_-CVUHB-785x1024.jpg\" alt=\"\" data-id=\"7824\" data-link=\"https:\/\/healthcharity.wales\/?attachment_id=7824\" class=\"wp-image-7824\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/01\/Photo-from-filmshoot-Sept-2019.-Credit-Hijinx-_-CVUHB-785x1024.jpg 785w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/01\/Photo-from-filmshoot-Sept-2019.-Credit-Hijinx-_-CVUHB-230x300.jpg 230w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/01\/Photo-from-filmshoot-Sept-2019.-Credit-Hijinx-_-CVUHB-768x1002.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/01\/Photo-from-filmshoot-Sept-2019.-Credit-Hijinx-_-CVUHB-192x250.jpg 192w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/01\/Photo-from-filmshoot-Sept-2019.-Credit-Hijinx-_-CVUHB.jpg 920w\" sizes=\"auto, (max-width: 785px) 100vw, 785px\" \/><\/figure><\/li><li class=\"blocks-gallery-item\"><figure><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"768\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/01\/Photo-from-film-shoot-2.-creditHijinx-_-CVUHB-768x1024.jpg\" alt=\"\" data-id=\"7826\" data-link=\"https:\/\/healthcharity.wales\/?attachment_id=7826\" class=\"wp-image-7826\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/01\/Photo-from-film-shoot-2.-creditHijinx-_-CVUHB-768x1024.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/01\/Photo-from-film-shoot-2.-creditHijinx-_-CVUHB-225x300.jpg 225w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/01\/Photo-from-film-shoot-2.-creditHijinx-_-CVUHB-188x250.jpg 188w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/01\/Photo-from-film-shoot-2.-creditHijinx-_-CVUHB.jpg 900w\" sizes=\"auto, (max-width: 768px) 100vw, 768px\" \/><\/figure><\/li><li class=\"blocks-gallery-item\"><figure><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/01\/Photo-from-film-shoot-Sept-2019-credit-Hijinx-_-CVUHB-1-1-1024x768.jpg\" alt=\"\" data-id=\"7830\" data-full-url=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/01\/Photo-from-film-shoot-Sept-2019-credit-Hijinx-_-CVUHB-1-1.jpg\" data-link=\"https:\/\/healthcharity.wales\/training-films-launched-with-hijinx-to-support-patients-and-staff-with-learning-disabilities\/photo-from-film-shoot-sept-2019-credit-hijinx-_-cvuhb-1-1\/\" class=\"wp-image-7830\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/01\/Photo-from-film-shoot-Sept-2019-credit-Hijinx-_-CVUHB-1-1-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/01\/Photo-from-film-shoot-Sept-2019-credit-Hijinx-_-CVUHB-1-1-300x225.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/01\/Photo-from-film-shoot-Sept-2019-credit-Hijinx-_-CVUHB-1-1-768x576.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/01\/Photo-from-film-shoot-Sept-2019-credit-Hijinx-_-CVUHB-1-1-250x188.jpg 250w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/01\/Photo-from-film-shoot-Sept-2019-credit-Hijinx-_-CVUHB-1-1.jpg 1200w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure><\/li><\/ul><\/figure>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a&#8217;r Fro a Hijinx yn lansio cyfres newydd o fideos hyfforddi ar-lein i helpu i hyfforddi staff iechyd a gofal cymdeithasol i gyfathrebu&#8217;n effeithiol \u00e2 phobl ag anableddau dysgu a\/neu awtistiaeth yn ogystal \u00e2 gofalu amdanynt yn briodol a&#8217;u cefnogi.<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":7823,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[110],"tags":[],"class_list":["post-10135","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-celfyddydau-ar-gyfer-iechyd-a-lles"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10135","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10135"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10135\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10136,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10135\/revisions\/10136"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/7823"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10135"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10135"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10135"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}