 {"id":10133,"date":"2021-05-26T16:46:30","date_gmt":"2021-05-26T15:46:30","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/hafan-i-staff-bellach-wedi-agor-yn-adain-glan-y-llyn\/"},"modified":"2021-05-26T16:46:30","modified_gmt":"2021-05-26T15:46:30","slug":"hafan-i-staff-bellach-wedi-agor-yn-adain-glan-y-llyn","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/hafan-i-staff-bellach-wedi-agor-yn-adain-glan-y-llyn\/","title":{"rendered":"Hafan i Staff bellach wedi agor yn Adain Glan-y-llyn"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae ardal dawel braf bellach ar gael i staff gael ymlacio a chael eu nerth yn \u00f4l yn Ysbyty Athrofaol Cymru.<\/p>\n\n<p>Diolch i gyllid a ddaeth o rodd sylweddol gan Gareth ac Emma Bale yn ystod y pandemig, mae Gwasanaeth Iechyd a Lles y Gweithwyr, Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro, wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr yn y Bwrdd Iechyd i ddarparu Hafan i Staff yn Adain Glan-y-llyn yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Agorodd yr Hafan i Staff ar ddydd Llun 1 Chwefror 2021.<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/01\/Lsisw.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-7895\" width=\"343\" height=\"228\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/01\/Lsisw.jpg 275w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/01\/Lsisw-250x166.jpg 250w\" sizes=\"auto, (max-width: 343px) 100vw, 343px\" \/><\/figure><\/div>\n\n<p>Mae cysyniad yr Hafan i Staff yn deillio o&#8217;r syniad y dylai fod gan staff y Bwrdd Iechyd rywle i fynd i gael amser iddynt eu hunain &#8211; rhywle iddynt orffwys a myfyrio er mwyn gwarchod eu lles emosiynol a&#8217;u hiechyd meddwl. Mae pobl yn dewis gwneud hyn mewn gwahanol ffyrdd, felly mae&#8217;r ardal wedi&#8217;i dylunio i fod yn amlswyddogaethol.<\/p>\n\n<p>Mae cegin yn yr Hafan i Staff lle gall staff wneud diodydd poeth; byrddau a chadeiriau lle gallant eistedd a phwyso a mesur pethau; cyfleusterau iddynt gael cawod yn dilyn diwrnod caled o waith; ac mae&#8217;n ardal lle na cheir ffonau symudol er mwyn rhoi cyfle i feddyliau prysur ymlacio, hyd yn oed am gyfnod byr. Mae&#8217;r ardal dawel yn annog staff i eistedd ac ymlacio heb unrhyw beth i darfu arnynt.<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3365-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-7996\" width=\"261\" height=\"173\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3365-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3365-300x200.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3365-768x512.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3365-250x167.jpg 250w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3365-510x340.jpg 510w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3365.jpg 1200w\" sizes=\"auto, (max-width: 261px) 100vw, 261px\" \/><\/figure><\/div>\n\n<p>Mae&#8217;r ardal yn hyblyg er mwyn bodloni anghenion staff &#8211; boed hynny&#8217;n rhywle i ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar neu ymlacio a darllen llyfr.<\/p>\n\n<p>Ymgynghorwyd \u00e2 staff ynghylch dyluniad, edrychiad a theimlad yr Hafan i Staff a&#8217;r ymateb cyffredinol oedd y dylai&#8217;r thema fod yn seiliedig ar natur.<\/p>\n\n<p>Mae gwaith celf hardd yn addurno&#8217;r muriau, gan helpu i annog positifrwydd a daearu. Gobeithio y bydd defnyddio lliwiau naturiol a phlanhigion, ochr yn ochr \u00e2&#8217;r gwaith celf ysbrydoledig ac ysgogol, yn helpu i ddod \u00e2 byd natur i mewn i&#8217;r lle ac yn helpu i greu ardal lle gall pawb ymlacio&#8217;n llwyr.<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3407-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-7998\" width=\"308\" height=\"205\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3407-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3407-300x200.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3407-768x512.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3407-250x167.jpg 250w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3407-510x340.jpg 510w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3407.jpg 1200w\" sizes=\"auto, (max-width: 308px) 100vw, 308px\" \/><\/figure><\/div>\n\n<p>Bydd yr Hafan i Staff yn hybu lles a chadernid staff drwy roi gwybodaeth a chyngor ar ymyriaethau sy&#8217;n cyd-fynd \u00e2 strategaeth y Bwrdd Iechyd ar gyfer lles staff, ac mae Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol a Gwasanaeth Lles y Gweithwyr wedi cael dylanwad hefyd.<\/p>\n\n<p>Dywedodd Simone Joslyn, Pennaeth y Celfyddydau ac Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro: \u201cRoedd yr Elusen Iechyd yn falch iawn o gefnogi ein staff drwy ddarparu Hafan i Staff. Mae mor bwysig, yn enwedig nawr yn ystod y pandemig, bod staff yn gallu cael amser i ffwrdd o&#8217;u diwrnod gwaith prysur i feithrin cadernid a myfyrio ar eu diwrnod er mwyn eu helpu gyda&#8217;u hiechyd a lles emosiynol.<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3361-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-8002\" width=\"267\" height=\"177\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3361-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3361-300x200.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3361-768x512.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3361-250x167.jpg 250w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3361-510x340.jpg 510w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3361.jpg 1200w\" sizes=\"auto, (max-width: 267px) 100vw, 267px\" \/><\/figure><\/div>\n\n<p>\u201cHoffwn ddiolch o galon i Gareth ac Emma Bale am eu rhodd hael, sydd wedi golygu ein bod wedi gallu bwrw ymlaen i ddatblygu&#8217;r cyfleuster hwn. Hoffwn ddiolch i&#8217;r artist Nathan Wyburn, Grosvenor Interiors, Amgueddfa Cymru a Poppi Contract Furniture am eu rhan yn y prosiect hefyd.<\/p>\n\n<p>Dywedodd Nicky Bevan, Pennaeth Gwasanaeth Iechyd a Lles y Gweithwyr: \u201cMae gallu gorffwys ac ymlacio yn hanfodol os ydym ni am gynnal ein lles yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn.<\/p>\n\n<p>\u201cNod yr Hafan yw rhoi cyfle i staff ymlacio i ffwrdd oddi wrth yr amgylchedd clinigol neu&#8217;r swyddfa a chael lle i ofalu amdanynt eu hunain.<\/p>\n\n<p>\u201cHoffwn ddiolch i D\u00eem Profiad y Cleifion, cydweithwyr o&#8217;r T\u00eem Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau a&#8217;m cydweithwyr yn y Gwasanaeth Lles i Weithwyr am eu cefnogaeth.\u201d<\/p>\n\n<p>Dywedodd Dr Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil, Amgueddfa Cymru:<\/p>\n\n<p>\u201cRydym yn falch o gefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a&#8217;r Fro gyda&#8217;u hafan newydd i staff. Gobeithio y bydd casgliad celf Amgueddfa Cymru yn cael dylanwad cadarnhaol ar iechyd a lles staff yr ysbyty ac y bydd yn helpu i wella eu hwyliau a hynny yn ystod amser anodd iawn.&#8221; <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae ardal dawel braf bellach ar gael i staff gael ymlacio a chael eu nerth yn \u00f4l yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Diolch i gyllid a ddaeth o rodd sylweddol gan Gareth ac Emma Bale yn ystod y pandemig, mae Gwasanaeth Iechyd a Lles y Gweithwyr, Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro, wedi bod yn gweithio gyda<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":7898,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-10133","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10133","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10133"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10133\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10134,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10133\/revisions\/10134"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/7898"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10133"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10133"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10133"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}