 {"id":10129,"date":"2021-05-26T16:46:00","date_gmt":"2021-05-26T15:46:00","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/dathlu-10-mlynedd-o-elusen-iechyd-caerdydd-ar-fro-2010-canolfan-y-fron\/"},"modified":"2021-05-26T16:46:00","modified_gmt":"2021-05-26T15:46:00","slug":"dathlu-10-mlynedd-o-elusen-iechyd-caerdydd-ar-fro-2010-canolfan-y-fron","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/dathlu-10-mlynedd-o-elusen-iechyd-caerdydd-ar-fro-2010-canolfan-y-fron\/","title":{"rendered":"Dathlu 10 mlynedd o Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro: 2010 Canolfan y Fron"},"content":{"rendered":"\n<p>Ym mis Rhagfyr 2020, roedd Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro yn dathlu deng mlynedd o wneud pethau&#8217;n well i gleifion, ymwelwyr, staff a&#8217;r gymuned ehangach.<\/p>\n\n<p>Roedd yr Elusen Iechyd wedi bwriadu cynnal digwyddiad i ddathlu 10 mlynedd, gan edrych yn \u00f4l ar y prif brosiectau y mae wedi&#8217;u hariannu a dathlu cyfraniadau pobl sydd wedi rhoi, sydd wedi codi arian, sydd wedi gwirfoddoli yn ogystal \u00e2&#8217;r partneriaid cymunedol dros y degawd diwethaf. Yn anffodus, bu&#8217;n rhaid canslo&#8217;r cynlluniau oherwydd Coronafeirws. Felly bydd yr Elusen Iechyd yn edrych yn \u00f4l ar sut mae&#8217;r bobl sydd wedi codi arian, sydd wedi rhoi, sydd wedi gwirfoddoli yn ogystal \u00e2&#8217;r partneriaid cymunedol wedi helpu i newid pethau er gwell dros y degawd diwethaf.<\/p>\n\n<p>Yn 2010, roedd yr Elusen Iechyd wedi rhoi cymorth ariannol i adeiladu Canolfan y Fron yn Ysbyty Athrofaol Llandochau ac i dalu am offer arbenigol ar gyfer y ganolfan, a gafodd ei hagor yn swyddogol gan y Dylunydd Ffasiwn o Gymru a Noddwr Canolfan y Fron, Julian Macdonald OBE.<\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-style-default\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1200\" height=\"675\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/01\/breast-centre.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-7972\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/01\/breast-centre.jpg 1200w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/01\/breast-centre-300x169.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/01\/breast-centre-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/01\/breast-centre-768x432.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/01\/breast-centre-250x141.jpg 250w\" sizes=\"auto, (max-width: 1200px) 100vw, 1200px\" \/><\/figure>\n<p>Lansiodd yr Elusen Iechyd Ap\u00eal Canolfan y Fron i godi arian i gefnogi&#8217;r gwasanaeth gyda thechnoleg o&#8217;r radd flaenaf a mannau pwrpasol i gleifion gael triniaeth.<\/p>\n\n<p>Mae&#8217;r uned yn trin pob claf sydd \u00e2 phroblemau&#8217;r fron i gyd o dan un to. Agorodd y ganolfan ragoriaeth ym mis Hydref 2010, i ddarparu gwasanaethau diagnostig hanfodol ac apwyntiadau i gleifion allanol ar gyfer bron iawn 4,000 o bobl y flwyddyn.<\/p>\n\n<p>Dywedodd Sumit Goyal, Llawfeddyg Ymgynghorol y Fron, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a&#8217;r Fro: &#8220;Ers i Ganolfan y Fron agor yn 2010, rydym wedi gwneud byd o wahaniaeth i&#8217;r driniaeth a&#8217;r gofal y mae cleifion canser y fron yn eu derbyn.<\/p>\n\n<p>\u201cYn flaenorol, roedd yn rhaid i gleifion deithio i nifer o wahanol safleoedd a chael nifer o wahanol apwyntiadau er mwyn cael diagnosis a thriniaeth. Ers i Ganolfan y Fron agor, mae cleifion yn cael mamogram, archwiliad uwchsain a&#8217;u canlyniadau i gyd ar yr un diwrnod.<\/p>\n\n<p>\u201cMae&#8217;r uned yn symleiddio popeth i&#8217;r cleifion ac mae&#8217;n gwneud pethau&#8217;n haws iddynt ar adeg pan fyddant yn teimlo&#8217;n bryderus iawn.<\/p>\n\n<p>\u201cCafodd yr uned ei chynllunio o amgylch y cleifion, ac mae&#8217;r gwasanaethau&#8217;n cael eu darparu mewn amgylchedd sy&#8217;n fwy personol.&#8221;<\/p>\n\n<p>Mae Canolfan y Fron yn derbyn cleifion sy&#8217;n cael eu hatgyfeirio gan eu Meddyg Teulu &#8211; nid yw 90% o gleifion yn cael diagnosis o ganser y fron. Mae&#8217;r gwasanaeth yn gweld rhwng 770 ac 80 o bobl, rhwng 14 a 100 oed bob wythnos, a dynion yw 5% o&#8217;r cleifion.<\/p>\n\n<p>Mae nifer o ddatblygiadau allweddol wedi digwydd yn ystod y deng mlynedd diwethaf yng Nghanolfan y Fron:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Mae Campfa \u2013 o&#8217;r enw Ystafell Mccarthy, wedi cael ei sefydlu, er mwyn i gleifion gael budd o wasanaeth presgripsiwn ymarfer corff i&#8217;w helpu i wella.<\/li><li>Mae ffisiotherapydd a ffisiotherapydd cynorthwyol wedi cael eu hariannu i helpu cleifion canser y fron i wella drwy wneud ymarfer corff, gan ddefnyddio&#8217;r gampfa hon, yn ychwanegol at y sesiynau nofio preifat sydd ar gael i unrhyw un sydd wedi cael llawdriniaeth ar gyfer canser y fron, ac yn ystod y pandemig, mae dosbarthiadau zoom a fideos ymarfer corff ar-lein wedi bod ar gael.<\/li><li>Datblygu&#8217;r Ap BAPS<\/li><li>Prynu offer TG a thanysgrifio i apiau er mwyn gallu cysylltu \u00e2 chleifion ar-lein yn ystod y cyfyngiadau symud.<\/li><li>Mae offer o&#8217;r radd flaenaf, fel peiriannau uwchsain a mamogram wedi cael eu huwchraddio <\/li><\/ul>\n<p>Mae Irene Hicks a&#8217;i th\u00eem ffyddlon o godwyr arian sydd wedi bod yn codi arian yn rheolaidd i Ganolfan y Fron wedi codi cyfanswm anhygoel o \u00a3161,000 hyd yma. Hefyd, maent wedi addo cefnogi&#8217;r gampfa, a gafodd ei henwi&#8217;n Ystafell McCarthy er cof am ei thri mab.<\/p>\n\n<p>Rhywun arall sydd wedi helpu i godi arian a gwneud cyfraniad aruthrol i Ap\u00eal Canolfan y Fron yw Mandy Weston, cyn glaf ac aelod o Bwyllgor Ap\u00eal Canolfan y Fron, sy&#8217;n helpu i drefnu&#8217;r Cinio Gala Tei Pinc blynyddol, a&#8217;r gystadleuaeth hynod boblogaidd i ddarganfod y dawnsiwr gorau, gyda chefnogaeth ei merch a&#8217;i phartner busnes Cariann Emanuelli.\u00a0 <\/p>\n\n<p>Mae Ap\u00eal Canolfan y Fron bob amser yn ffodus iawn, ac mae&#8217;r rhai sydd wedi gorfod defnyddio&#8217;r gwasanaeth, neu aelodau o deulu&#8217;r rhai sydd wedi bod yn wael, bob amser mor ddiolchgar am y gofal a&#8217;r cymorth. Yn aml iawn, mae hyn yn arwain at ysgogi&#8217;r unigolion hyn i godi arian er budd yr ap\u00eal a rhoi rhywbeth yn \u00f4l, ac mae eu hanesion ysbrydoledig yn aml yn ysbrydoli eraill i wneud yr un peth.<\/p>\n\n<p>Os hoffech chi gefnogi gwaith parhaus Canolfan y Fron, gallwch roi yma: <a href=\"https:\/\/healthcharity.wales\/appeal\/breast-centre-appeal\/\">https:\/\/healthcharity.wales\/appeal\/breast-centre-appeal\/<\/a> neu i gael rhagor o wybodaeth am sut gallwch gefnogi digwyddiadau a gweithgareddau yn y dyfodol, anfonwch e-bost at fundraising.cav@wales.nhs.uk<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ym mis Rhagfyr 2020, roedd Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro yn dathlu deng mlynedd o wneud pethau&#8217;n well i gleifion, ymwelwyr, staff a&#8217;r gymuned ehangach. Roedd yr Elusen Iechyd wedi bwriadu cynnal digwyddiad i ddathlu 10 mlynedd, gan edrych yn \u00f4l ar y prif brosiectau y mae wedi&#8217;u hariannu a dathlu cyfraniadau pobl sydd wedi<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":7973,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[106],"tags":[],"class_list":["post-10129","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-apel-canolfan-y-fron"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10129","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10129"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10129\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10130,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10129\/revisions\/10130"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/7973"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10129"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10129"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10129"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}