 {"id":10123,"date":"2021-05-26T16:45:08","date_gmt":"2021-05-26T15:45:08","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/lansio-cynllun-ail-lenwi-poteli-dwr-yfed-yn-ysbyty-dewi-sant\/"},"modified":"2021-05-26T16:45:08","modified_gmt":"2021-05-26T15:45:08","slug":"lansio-cynllun-ail-lenwi-poteli-dwr-yfed-yn-ysbyty-dewi-sant","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/lansio-cynllun-ail-lenwi-poteli-dwr-yfed-yn-ysbyty-dewi-sant\/","title":{"rendered":"Lansio cynllun ail-lenwi poteli d\u0175r yfed yn Ysbyty Dewi Sant"},"content":{"rendered":"\n<p>Fel rhan o brosiect parhaus y mae Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro yn ei ariannu, mae dau beiriant d\u0175r newydd wedi cael eu gosod yn Ysbyty Dewi Sant ar gyfer cleifion, ymwelwyr a staff. Mae modd iddynt lenwi eu poteli d\u0175r amldro am ddim. Mae&#8217;r unedau hyn ger prif gyntedd yr ysbyty, yn ardal Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a&#8217;r Glasoed.<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/St-Davids-Hospital-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-8084\" width=\"254\" height=\"339\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/St-Davids-Hospital-1.jpg 480w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/St-Davids-Hospital-1-225x300.jpg 225w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/St-Davids-Hospital-1-188x250.jpg 188w\" sizes=\"auto, (max-width: 254px) 100vw, 254px\" \/><\/figure><\/div>\n\n<p>Fel gyda&#8217;r peiriant cyntaf a osodwyd yn Ysbyty&#8217;r Barri, bydd y peiriant d\u0175r yn y prif gyntedd yn gysylltiedig ag Ap y Cynllun Ail-lenwi sy&#8217;n galluogi aelodau&#8217;r gymuned leol i ail-lenwi eu poteli d\u0175r amldro am ddim. Ni fydd y peiriant hwn ar gael i&#8217;r cyhoedd drwy&#8217;r Ap nes bydd y cyfyngiadau symud presennol wedi&#8217;u codi a nes bydd yn ddiogel gwneud hynny.<\/p>\n\n<p>Mae ymchwil wedi dangos bod oedolyn cyffredin yn prynu mwy na thair potel dd\u0175r blastig bob wythnos &#8211; mae hynny&#8217;n cyfateb i 175 o boteli bob blwyddyn i bob unigolyn. Gyda&#8217;i gilydd, mae cyfanswm o 7.7 biliwn o boteli plastig yn cael eu prynu ledled y DU, sy&#8217;n arwain at lawer iawn o wastraff plastig untro yn y moroedd.\u00a0<\/p>\n\n<p>Ym mis Mehefin 2020, gosododd yr Elusen Iechyd beiriant d\u0175r yn Ysbyty&#8217;r Barri, a hyd yma mae wedi ail-lenwi bron i 4000 o boteli. Cofiwch fod hyn yn ystod y pandemig lle mae llai o bobl o lawer wedi bod yn mynd i&#8217;r ysbyty.<\/p>\n\n<p>Mae&#8217;r Hyrwyddwr Lleol, Sue Dickson-Davies o Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro, wedi bod yn arwain y prosiect hwn yn Ysbytai Dewi Sant a&#8217;r Barri. Dyma hi&#8217;n egluro mwy am y prosiect.<\/p>\n\n<p>\u201cMae cael peiriant d\u0175r yn Ysbyty&#8217;r Barri wedi bod yn boblogaidd iawn gyda staff ac ymwelwyr, ac rydym wedi cael adborth gwerth chweil a cheisiadau am beiriannau tebyg ar draws y Bwrdd Iechyd. Rydym yn gweithio tuag at gael peiriannau d\u0175r mewn mannau allweddol fel rhan o ymrwymiad parhaus i ddefnyddio llai o boteli plastig untro, sef y math o sbwriel sy&#8217;n cael ei ganfod yn fwyaf aml ar ein strydoedd ar hyn o bryd, gan gynnwys mewn mannau gwyrdd a thraethau.<\/p>\n\n<p>\u201cMae&#8217;r peiriannau d\u0175r hyn yn gyfle i ni i gyd sicrhau na fydd mwy o&#8217;r math yma o sbwriel yn y dyfodol, ac mae&#8217;n ffordd o arbed arian hefyd. Cofiwch ddod \u00e2&#8217;ch potel amldro gyda chi i&#8217;w llenwi!&#8221;<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-1 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"742\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/Move-Eat-Sleep-Repeat-logo-1024x742.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-8088\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/Move-Eat-Sleep-Repeat-logo-1024x742.jpg 1024w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/Move-Eat-Sleep-Repeat-logo-300x217.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/Move-Eat-Sleep-Repeat-logo-768x556.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/Move-Eat-Sleep-Repeat-logo-250x181.jpg 250w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/Move-Eat-Sleep-Repeat-logo.jpg 1200w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"591\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/Welsh-MMEW-Logo-1024x591.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-8086\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/Welsh-MMEW-Logo-1024x591.jpg 1024w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/Welsh-MMEW-Logo-300x173.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/Welsh-MMEW-Logo-768x444.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/Welsh-MMEW-Logo-250x144.jpg 250w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/Welsh-MMEW-Logo.jpg 1200w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n<p><\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n\n<p>Dywedodd Dr Suzanne Wood, Ymgynghorydd mewn Meddyginiaeth Iechyd y Cyhoedd: \u201cMae sicrhau bod pobl yn yfed digon o dd\u0175r yn un o flaenoriaethau allweddol cynllun ein partneriaeth i gefnogi pobl ledled Caerdydd a&#8217;r Fro i symud mwy a bwyta&#8217;n well. Felly rydym yn falch iawn fod dau beiriant d\u0175r newydd wedi cael eu gosod yn Ysbyty Dewi Sant i helpu pobl i allu cael gafael ar dd\u0175r yfed.<\/p>\n\n<p>\u201cMae sicrhau ein bod ni&#8217;n yfed digon yn bwysig iawn i gadw ein cyrff yn iach, ac mae d\u0175r yn ddewis gwych &#8211; mae am ddim, nid yw&#8217;n cynnwys calor\u00efau ac nid yw&#8217;n ddrwg i&#8217;ch dannedd.&#8221;<\/p>\n\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am ein prosiectau parhaus, ewch i www.healthcharity.wales<\/p>\n\n<p>Ewch i wefan Refill yn www.refill.org.uk i lwytho&#8217;r Ap i lawr am ddim a chael rhagor o wybodaeth am y cynllun.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Fel rhan o brosiect parhaus y mae Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro yn ei ariannu, mae dau beiriant d\u0175r newydd wedi cael eu gosod yn Ysbyty Dewi Sant ar gyfer cleifion, ymwelwyr a staff. Mae modd iddynt lenwi eu poteli d\u0175r amldro am ddim. Mae&#8217;r unedau hyn ger prif gyntedd yr ysbyty, yn ardal Gwasanaethau<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":8085,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-10123","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10123","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10123"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10123\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10124,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10123\/revisions\/10124"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8085"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10123"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10123"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10123"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}