 {"id":10111,"date":"2021-05-26T16:43:53","date_gmt":"2021-05-26T15:43:53","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/mis-y-galon-hapus-a-phen-blwydd-hapus-louie-stokes\/"},"modified":"2021-05-26T16:43:53","modified_gmt":"2021-05-26T15:43:53","slug":"mis-y-galon-hapus-a-phen-blwydd-hapus-louie-stokes","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/mis-y-galon-hapus-a-phen-blwydd-hapus-louie-stokes\/","title":{"rendered":"Mis y Galon Hapus a Phen-blwydd Hapus Louie Stokes!"},"content":{"rendered":"\n<p>Dechreuodd Lottie Stokes godi arian er budd Gwasanaeth y Galon i Blant yng Nghymru pan gafodd ei hail fab, Louie ddiagnosis o gyflwr difrifol ar y galon a fyddai&#8217;n golygu bod angen nifer o lawdriniaethau arno.<\/p>\n\n<p>Mae Lottie, ei g\u0175r Karl a Louie ei hun wedi chwarae rhan bwysig iawn yn yr ymdrechion i godi proffil ein bwrdd iechyd a chodi arian i achosion da er budd plant yng Nghymru sydd ag afiechyd y galon ers pan oeddent wedi cael eu geni. Rhwng pawb, maent wedi llwyddo i godi dros \u00a340,000.\u00a0Defnyddiwyd yr arian i brynu offer newydd, gwella safonau&#8217;r cyfleusterau diagnosteg presennol a hyrwyddo ymchwil ac addysg. Gallwch ddarllen mwy yma;<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/LS.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-8233\" width=\"228\" height=\"303\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/LS.jpg 480w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/LS-225x300.jpg 225w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/LS-188x250.jpg 188w\" sizes=\"auto, (max-width: 228px) 100vw, 228px\" \/><\/figure><\/div>\n\n<p>Dywedodd y fam, Lottie \u201cRoedd yn briodol iawn fod Louie wedi cael ei eni ym mis Chwefror, mis y galon! Ar 24 Chwefror 2009 fe wnaethom groesawu ein hail fab i&#8217;r byd. Roeddem ni, a&#8217;i frawd mawr Dylan, wedi gwirioni yn syth. Ond doedden ni ddim yn gwybod y byddai&#8217;n brwydro am ei fywyd tua 10 awr yn ddiweddarach! Cafodd Louie ei eni gyda Thrawsosodiad y Rhydwel\u00efau Mawr, Stenosis yr Ysgyfaint a Diffyg ar y Galon&#8230; roeddem wedi dychryn. Yn ystod y daith rydym wedi cwrdd ag arwyr go iawn, ac mae ganddyn nhw le arbennig yn ein calonnau. Hoffem ddiolch i&#8217;r Athro Uzun sydd wedi bod yn gefn i ni o&#8217;r cychwyn cyntaf. Mae ein budd pennaf ni a Louie wedi bod yn bwysig iddo, mae bob amser yn sgwrsio am b\u00eal-droed gyda Louie ac mae bob amser yn frwdfrydig dros gael syniadau a phrosiectau newydd er mwyn sicrhau bod ymchwil a datblygiadau yn cael sylw. Allwn ni ddim diolch digon iddo am bopeth mae wedi&#8217;i wneud i ni ac i deuluoedd eraill. Rydym yn hynod ddiolchgar! Mae Louie yn gwneud yn eithriadol o dda ar hyn o bryd, ac mae&#8217;n dal i gael ei fonitro nes bydd angen llawdriniaeth arall arno. Fyddech chi byth yn gwybod beth mae wedi mynd drwyddo&#8217;n barod dim ond wrth edrych arno. Rydym wedi bod yn codi arian ers dros 11 mlynedd nawr, ac rydym yn falch o allu helpu gydag ymgyrch ddiweddaraf yr Athro Dr Uzun.<\/p>\n\n<p><strong>Dywedodd yr Athro Dr Uzun<\/strong><strong> Cardiolegydd y Ffetws a Phediatreg Ymgynghorol:<\/strong><\/p>\n\n<p>\u201cRwy&#8217;n cael teimladau cymysg iawn wrth ddarllen geiriau mor hyfryd a diffuant gan bobl fel teulu Stokes, sydd wedi mynd drwy bethau go iawn. Mae&#8217;r bobl yma&#8217;n arbennig o gadarn ac maen nhw&#8217;n gallu trawsnewid eu trallod annisgwyl yn gariad, yn serch ac yn ysbryd calonnog. Mae&#8217;r bobl anhunanol hyn wedi bod yn hael iawn yn helpu eraill sydd mewn angen, a hwythau eu hunain angen gofal a sylw gan eu ffrindiau a&#8217;u teulu.<\/p>\n\n<p>Mae Lottie, Karl, a&#8217;u mab &#8211; fy arwr, y \u201cseren b\u00eal-droed\u201d &#8211; Louie yn llawn hapusrwydd a hwyl bob tro y byddan nhw&#8217;n dod i apwyntiad. Mae gw\u00ean hyfryd Louie yn codi calon pawb sy&#8217;n cael y pleser o&#8217;i gyfarfod. Maen nhw bob amser yn meddwl am bobl eraill ac yn gofyn am well gofal i bob plentyn sy&#8217;n dioddef problemau \u00e2&#8217;i galon. Maen nhw&#8217;n cefnogi Uned y Galon i Blant yng Nghymru drwy&#8217;r amser gyda&#8217;u hymdrechion codi arian ac maen nhw&#8217;n cymryd rhan mewn ymchwil llywodraethu, ac yn dylunio a datblygu gwasanaethau arloesol fel dinasyddion a rhanddeiliaid.<\/p>\n\n<p>Diolch i&#8217;r arian a gasglwyd gan deulu Stokes rydym yn falch iawn o fod yn datblygu \u201cGwasanaeth Diagnosteg Cardioleg Tele-Ffetws&#8221; ar gyfer babanod heb eu geni sydd \u00e2 phroblemau ar y galon yn Ne Cymru. Rydym yn gobeithio sefydlu modiwlau ymgynghori ar unwaith drwy ddarparu technoleg o&#8217;r radd flaenaf i bob Ysbyty Cyffredinol Dosbarth lle mae menywod beichiog yn cael sgan am anomaleddau&#8217;r ffetws. Bydd gwasanaeth o&#8217;r fath yn unigryw o ran y bydd yn helpu i leihau anghydraddoldebau yn ardaloedd anghysbell Cymru drwy ddileu&#8217;r angen i rieni sy&#8217;n poeni deithio i Gaerdydd i gael sgan arbenigol. Bydd timau lleol yn gallu cael barn arbenigol ar unwaith a bydd hyfforddiant byw ar-lein ar gael am ddim heb i bobl orfod adael eu hysbytai.<\/p>\n\n<p>Dymunaf ben-blwydd hapus iawn i fy ffrind ifanc, dewr sydd wrth ei fodd \u00e2 ph\u00eal-droed a hoffwn ddiolch o galon i Lottie a Karl am eu haelioni a&#8217;u cefnogaeth barhaus yn helpu&#8217;r GIG i ddarparu&#8217;r gofal gorau i fabanod cyn iddyn nhw gael eu geni ac i blant sydd \u00e2 chalonnau arbennig.&#8221;<\/p>\n\n<p>Yr Athro Dr Orhan Uzun, MD FRCP<\/p>\n\n<p>Cardiolegydd y Ffetws a Phediatreg Ymgynghorol<\/p>\n\n<p>Electroffisiolegydd Cardiaidd Pediatreg Ymgynghorol<\/p>\n\n<p><br\/>Os hoffech roi a chefnogi&#8217;r Gwasanaethau Cardioleg Bediatrig, cliciwch yr adran rhoi ar frig y dudalen hon.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dechreuodd Lottie Stokes godi arian er budd Gwasanaeth y Galon i Blant yng Nghymru pan gafodd ei hail fab, Louie ddiagnosis o gyflwr difrifol ar y galon a fyddai&#8217;n golygu bod angen nifer o lawdriniaethau arno. Mae Lottie, ei g\u0175r Karl a Louie ei hun wedi chwarae rhan bwysig iawn yn yr ymdrechion i godi<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":8234,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-10111","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10111","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10111"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10111\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10112,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10111\/revisions\/10112"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8234"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10111"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10111"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10111"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}