 {"id":10103,"date":"2021-05-26T16:42:30","date_gmt":"2021-05-26T15:42:30","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/murlun-ward-y-gofod-newydd-yn-serennu\/"},"modified":"2021-05-26T16:42:30","modified_gmt":"2021-05-26T15:42:30","slug":"murlun-ward-y-gofod-newydd-yn-serennu","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/murlun-ward-y-gofod-newydd-yn-serennu\/","title":{"rendered":"Murlun Ward y Gofod Newydd yn Serennu"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae murlun dwyieithog newydd wedi\u2019i osod yn Ward y Gofod yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru i helpu annog cleifion sy\u2019n siarad Cymraeg i deimlo\u2019n gyfforddus i ddefnyddio eu hiaith o ddewis ar y ward.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Lansiwyd y murlun ar thema\u2019r gofod, a gefnogwyd gan Y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro, ar Ddydd G\u0175yl Dewi.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r murlun, a ddyluniwyd gan ddefnyddio syniadau gan gleifion a staff o Ward y Gofod, yn cynnwys ymadroddion Cymraeg a lluniau o dirnodau poblogaidd yng Nghymru, megis yr Wyddfa, Castell Coch a Stadiwm Principality, i annog cleifion ifanc, eu teuluoedd a staff y Bwrdd Iechyd i deimlo\u2019n falch o\u2019n treftadaeth a chael mynediad at wasanaethau\u2019r Bwrdd Iechyd trwy gyfrwng y Gymraeg.<\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3416-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-8279\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3416-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3416-300x200.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3416-768x512.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3416-250x167.jpg 250w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3416-510x340.jpg 510w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3416.jpg 1200w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Jessica Sharp, Swyddog y Gymraeg yn BIP Caerdydd a\u2019r Fro: \u201cMae\u2019n bwysig bod ein cleifion o bob oedran sy\u2019n siarad Cymraeg yn teimlo\u2019n gyfforddus i ddefnyddio ein gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg os mai dyna eu hiaith o ddewis, felly rydw i\u2019n falch iawn o\u2019r murlun newydd hwn.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cHoffwn ddiolch i Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro am wneud y prosiect hwn yn bosibl, ac i gleifion a staff yn ysbyty\u2019r plant am ddod \u00e2 thaith Cadog drwy\u2019r gofod yn fyw gyda\u2019u syniadau gwych.\u201d<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn rhan o\u2019r murlun, mae\u2019r Bwrdd Iechyd hefyd wedi cyflwyno masgot newydd o\u2019r enw Cadog, a fydd yn wyneb mwy a mwy cyfarwydd ledled y Bwrdd Iechyd i helpu hyrwyddo\u2019r Gymraeg.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dewiswyd enw\u2019r masgot gan argymhellion a rannwyd gan blant ar Ward y Gofod, a chafwyd hwyl hefyd yn lliwio llun o Cadog.<\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3423-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-8297\" width=\"589\" height=\"392\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3423-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3423-300x200.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3423-768x512.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3423-250x167.jpg 250w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3423-510x340.jpg 510w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3423.jpg 1200w\" sizes=\"auto, (max-width: 589px) 100vw, 589px\" \/><\/figure>\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Simone Joslyn, Pennaeth Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro: \u201cMae\u2019n bleser gennym gefnogi ariannu\u2019r prosiect hwn sydd nid yn unig yn llonni\u2019r ward, ond hefyd yn helpu i amlygu ymrwymiad y Bwrdd Iechyd i\u2019r Gymraeg ar gyfer ein cleifion ifanc a\u2019u teuluoedd.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cTrwy ddarparu murluniau a chelf megis y gwaith hwn mewn ysbytai, mae wir yn helpu i wneud amgylcheddau deimlo\u2019n fwy croesawgar a chyfeillgar, yn enwedig ar adeg sy\u2019n anodd i\u2019r claf a\u2019r teulu.\u201d<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"215\" height=\"104\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/Think-Welsh.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-8254\"\/><\/figure><\/div>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r murlun yn un cam bach sy\u2019n rhan o nod y Bwrdd Iechyd i ddod yn sefydliad cwbl ddwyieithog. Mae\u2019n rhan o\u2019r ymgyrch Meddwl Cymraeg &#8211; Think Welsh, sy\u2019n annog gweithwyr y Bwrdd Iechyd i roi\u2019r Gymraeg ym mlaen eu meddwl, ac ystyried sut y gallant gyfrannu at wneud gwasanaethau yn fwy hygyrch i siaradwyr Cymraeg.<\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3420-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-8291\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3420-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3420-300x200.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3420-768x512.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3420-250x167.jpg 250w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3420-510x340.jpg 510w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3420.jpg 1200w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Grosvenor Interiors oedd yn gyfrifol am ddylunio a gosod y murlun newydd, a chafwyd cefnogaeth gan Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro. <\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dysgwch sut y gallwch gefnogi prosiectau yn y dyfodol sy\u2019n gwella amgylcheddau clinigol ar <a href=\"http:\/\/www.healthcharity.wales\">wefan Elusen Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae murlun dwyieithog newydd wedi\u2019i osod yn Ward y Gofod yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru i helpu annog cleifion sy\u2019n siarad Cymraeg i deimlo\u2019n gyfforddus i ddefnyddio eu hiaith o ddewis ar y ward. Lansiwyd y murlun ar thema\u2019r gofod, a gefnogwyd gan Y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles Elusen Iechyd Caerdydd<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":8280,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-10103","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10103","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10103"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10103\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10104,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10103\/revisions\/10104"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8280"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10103"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10103"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10103"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}