 {"id":10091,"date":"2021-05-26T16:41:28","date_gmt":"2021-05-26T15:41:28","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/ei-uchelder-brenhinol-dug-caergrawnt-yn-siarad-ag-elusen-iechyd-caerdydd-ar-fro-am-sut-mae-cronfeydd-covid-19-elusennaur-gig-gydai-gilydd-wedi-helpu-i-wneud-gwahaniaeth\/"},"modified":"2021-05-26T16:41:28","modified_gmt":"2021-05-26T15:41:28","slug":"ei-uchelder-brenhinol-dug-caergrawnt-yn-siarad-ag-elusen-iechyd-caerdydd-ar-fro-am-sut-mae-cronfeydd-covid-19-elusennaur-gig-gydai-gilydd-wedi-helpu-i-wneud-gwahaniaeth","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/ei-uchelder-brenhinol-dug-caergrawnt-yn-siarad-ag-elusen-iechyd-caerdydd-ar-fro-am-sut-mae-cronfeydd-covid-19-elusennaur-gig-gydai-gilydd-wedi-helpu-i-wneud-gwahaniaeth\/","title":{"rendered":"Ei Uchelder Brenhinol Dug Caergrawnt yn siarad ag Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro am sut mae cronfeydd Covid-19 Elusennau&#8217;r GIG Gyda&#8217;i Gilydd wedi helpu i wneud gwahaniaeth"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Noddwr Elusennau&#8217;r GIG Gyda&#8217;i Gilydd, Ei Uchelder Brenhinol Dug Caergrawnt, wedi siarad ag Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro, sef elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a&#8217;r Fro, am sut mae cronfeydd Covid-19 Elusennau&#8217;r GIG Gyda&#8217;i Gilydd wedi helpu i wneud gwahaniaeth i gleifion a staff ledled Caerdydd a&#8217;r Fro.<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2020\/05\/NHS-Cha.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3549\" width=\"177\" height=\"100\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2020\/05\/NHS-Cha.png 299w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2020\/05\/NHS-Cha-250x141.png 250w\" sizes=\"auto, (max-width: 177px) 100vw, 177px\" \/><\/figure><\/div>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Daeth Dug a Duges Caergrawnt yn noddwyr Elusennau&#8217;r GIG Gyda&#8217;i Gilydd ar y cyd ym mis Rhagfyr 2020.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bu&#8217;r Tywysog William yn siarad ar y ff\u00f4n (ar ddydd Mawrth, 9 Mawrth 2021) \u00e2 Simone Joslyn, Pennaeth y Celfyddydau ac Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro, am ymateb y Bwrdd Iechyd a&#8217;r Elusen Iechyd i Covid-19 drwy ddefnyddio cronfeydd Elusennau&#8217;r GIG Gyda&#8217;i Gilydd.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cafodd Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro gyllid uniongyrchol a chyflwynodd geisiadau llwyddiannus am grantiau gan Elusennau&#8217;r GIG Gyda&#8217;i Gilydd. Mae&#8217;r arian wedi cael ei wario ar nifer o gynlluniau sy&#8217;n ceisio gwella profiadau cleifion ac amgylchedd gwaith staff, fel:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Gwaith partneriaeth gyda grwpiau iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn ymgysylltu mwy \u00e2 chymunedau BAME, teithwyr ac LGBT<\/li><li>Prosiect celf Mae Bywydau Du o Bwys<\/li><li>Cyfarpar arbenigol i fenywod sy&#8217;n rhoi genedigaeth i&#8217;w helpu i fod yn fwy cyfforddus ac er mwyn i&#8217;r esgor fod yn fwy effeithiol<\/li><\/ul>\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/Simone-1024x684.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-8459\" width=\"288\" height=\"192\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/Simone-1024x684.jpg 1024w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/Simone-300x200.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/Simone-768x513.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/Simone-250x167.jpg 250w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/Simone-510x340.jpg 510w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/Simone.jpg 1200w\" sizes=\"auto, (max-width: 288px) 100vw, 288px\" \/><figcaption>Siaradodd Simone Joslyn \u00e2&#8217;i Uchelder Brenhinol Dug Caergrawnt am sut roedd cronfeydd Covid-19 Elusennau&#8217;r GIG Gyda&#8217;i Gilydd wedi helpu i wneud gwahaniaeth i gleifion a staff.<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Arferai Simone fod yn nyrs iechyd meddwl, ond hi bellach yw Pennaeth Rhaglen y Celfyddydau ac Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro, ac mae hi hefyd yn arwain prosiect Ein Berllan. Prosiect cae glas yw Ein Berllan, a fydd yn darparu gofod lles yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, gan gynnwys gardd gwenyn, parc cerfluniau, rhandiroedd therapiwtig, gerddi o blanhigion bwytadwy, a choed ac mae&#8217;n un o nifer o brosiectau&#8217;r Bwrdd Iechyd sy&#8217;n datblygu ein partneriaethau cymunedol, gan gynnwys gwirfoddolwyr, gweithio gyda&#8217;r gwasanaeth prawf a chynnwys ysgolion lleol.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Simone: \u201cRoedd yn fraint derbyn yr alwad hon ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a&#8217;r Fro a chael y cyfle i siarad \u00e2&#8217;i Uchelder Brenhinol Dug Caergrawnt ynghylch y prosiectau pwysig y mae arian Elusennau&#8217;r GIG Gyda&#8217;i GIlydd wedi ein helpu ni i&#8217;w datblygu.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cMae cyllid gan Elusennau&#8217;r GIG Gyda&#8217;i Gilydd wedi gwneud byd o wahaniaeth i&#8217;n cleifion a&#8217;n staff ac mae wedi ein galluogi ni i gefnogi a chynnwys meysydd eraill yn ein cymuned y mae Covid-19 wedi effeithio&#8217;n fwyaf sylweddol arnynt. Rydym wedi gallu cefnogi gwahanol grwpiau anodd eu cyraedd a gwneud gwahaniaeth i&#8217;r gofal maent yn ei dderbyn yn ogystal \u00e2 gwella profiadau cleifion.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cMae T\u00eem Elan yn un maes sydd wedi cael cyllid Elusennau&#8217;r GIG Gyda&#8217;i Gilydd. Mae bydwragedd T\u00eem Elan yn gofalu am fenywod sydd angen cefnogaeth gymdeithasol ychwanegol. Bydd yr arian yn helpu i dalu am eitemau hanfodol i geiswyr lloches sy&#8217;n feichiog, sy&#8217;n aml yn dod o gefndiroedd BAME a difreintiedig.&#8221;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Noddwr Elusennau&#8217;r GIG Gyda&#8217;i Gilydd, Ei Uchelder Brenhinol Dug Caergrawnt, wedi siarad ag Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro, sef elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a&#8217;r Fro, am sut mae cronfeydd Covid-19 Elusennau&#8217;r GIG Gyda&#8217;i Gilydd wedi helpu i wneud gwahaniaeth i gleifion a staff ledled Caerdydd a&#8217;r Fro. Daeth Dug a Duges Caergrawnt<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":8460,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[105],"tags":[],"class_list":["post-10091","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-covid-19-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10091","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10091"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10091\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10092,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10091\/revisions\/10092"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8460"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10091"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10091"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10091"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}