 {"id":10071,"date":"2021-05-26T16:39:16","date_gmt":"2021-05-26T15:39:16","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/rhywle-i-orffwys-ymlacio-a-chael-eu-nerth-yn-ol-sut-maer-hafanau-i-staff-wedi-helpur-bobl-ar-y-rheng-flaen\/"},"modified":"2021-05-26T16:39:16","modified_gmt":"2021-05-26T15:39:16","slug":"rhywle-i-orffwys-ymlacio-a-chael-eu-nerth-yn-ol-sut-maer-hafanau-i-staff-wedi-helpur-bobl-ar-y-rheng-flaen","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/rhywle-i-orffwys-ymlacio-a-chael-eu-nerth-yn-ol-sut-maer-hafanau-i-staff-wedi-helpur-bobl-ar-y-rheng-flaen\/","title":{"rendered":"Rhywle i orffwys, ymlacio a chael eu nerth yn \u00f4l &#8211; sut mae&#8217;r Hafanau i Staff wedi helpu&#8217;r bobl ar y rheng flaen"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cWedi blino, eisiau bwyd, wedi blino&#8217;n emosiynol, wedi yml\u00e2dd&#8221; &#8211; dyma sut roedd rhai o staff y GIG ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a&#8217;r Fro yn disgrifio sut roeddent yn teimlo yn ystod y pandemig.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er mwyn gwarchod lles a llesiant y bobl bwysicaf i ni &#8211; ein staff, sefydlwyd Hafanau i Staff mewn nifer o ysbytai ledled Caerdydd a Bro Morgannwg er mwyn cael rhywle iddynt ymlacio a chael eu nerth yn \u00f4l.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd Hafanau i Staff yn y safleoedd hyn:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Ysbyty Athrofaol Llandochau<\/li><li>Prifysgol Athrofaol Cymru<\/li><li>Ysbyty Calon y Ddraig<\/li><\/ul>\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image1-1024x768.jpeg\" alt=\"\" class=\"wp-image-8772\" width=\"287\" height=\"215\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image1-1024x768.jpeg 1024w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image1-300x225.jpeg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image1-768x576.jpeg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image1-250x188.jpeg 250w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image1.jpeg 1200w\" sizes=\"auto, (max-width: 287px) 100vw, 287px\" \/><\/figure><\/div>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd yr Hafanu i Staff yn cael eu cefnogi diolch i roddion a ddaeth i law drwy Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro. Roedd y byrbrydau, y prydau, y diodydd a&#8217;r nwyddau hanfodol a oedd yn cael eu darparu i staff yn ystod shifftiau anodd yn cael eu gwerthfawrogi&#8217;n fawr. Roedd nwyddau ymolchi&#8217;n cael eu dosbarthu er mwyn i staff gael cawod ar \u00f4l bod yn gweithio am oriau mewn PPE llawn. Dosbarthwyd esgidiau, sanau a dillad i staff er mwyn iddynt deimlo&#8217;n fwy cyfforddus yn eu PPE. Roedd yr Hafanau i Staff yn cael eu defnyddio fel canolfannau i dderbyn a dosbarthu&#8217;r rhoddion hael dros ben gan aelodau&#8217;r cyhoedd, busnesau lleol a sefydliadau mawr.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dosbarthwyd prydau a bocsys o ddanteithion i&#8217;r ysbytai llai a&#8217;r lleoliadau cymunedol o&#8217;r Hafanau i Staff, er mwyn i bawb &#8211; hyd yn oed y rhai a oedd ymhellach i ffwrdd oddi wrth y prif ysbytai &#8211; deimlo eu bod yn cael eu cynnwys a bod rhywun yn gofalu amdanynt yn ystod y cyfnod eithriadol hwn.<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"498\" height=\"269\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/Vale-Flying-Start-Food-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-8776\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/Vale-Flying-Start-Food-1.png 498w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/Vale-Flying-Start-Food-1-300x162.png 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/Vale-Flying-Start-Food-1-250x135.png 250w\" sizes=\"auto, (max-width: 498px) 100vw, 498px\" \/><\/figure><\/div>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd y bwyd a oedd yn cael ei ddarparu i staff yn hollbwysig i lwyddiant yr Hafanau i Staff. Roedd miloedd o brydau&#8217;n cael eu gweini i staff diolch i ymgyrchoedd codi arian Bwydo&#8217;r GIG a #FeedTheHeath.<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/Saus-2.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-8778\" width=\"197\" height=\"263\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/Saus-2.jpg 756w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/Saus-2-225x300.jpg 225w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/Saus-2-188x250.jpg 188w\" sizes=\"auto, (max-width: 197px) 100vw, 197px\" \/><\/figure><\/div>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd prydau blasus llawn maeth yn cael eu darparu bob dydd, drwy brosiect #FeedTheHeath, a oedd yn cynnwys rhoddion gan hyd at 25 o fwytai lleol a chyflenwyr bwyd, i gyd wedi&#8217;i gydlynu gan Kasim Ali o Waterloo Tea.\u00a0<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Kasim: \u201cFe fyddaf i&#8217;n cofio diwedd Mawrth a dechrau Ebrill 2020 am byth. Roedd pob un ohonom wedi cael cyfarwyddiadau i aros gartref ac roedd staff ysbytai&#8217;r GIG ar flaen y gad yn brwydro drosom ni. Pan wnes i alw draw yn yr ysbyty, roedd y staff fel milwyr &#8211; yn brwydro, heb wybod beth oedd o&#8217;u blaenau, beth fyddai&#8217;r canlyniadau na phwy fyddai&#8217;n dioddef.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cRoedd gofyn i staff weithio oriau hirach, a doedd rhai ddim yn gallu gadael y wardiau i gael bwyd yn ystod eu shifft. Gyda thai bwyta a chaffis wedi cau ledled y ddinas, roeddem ni fel aelodau&#8217;r diwydiant bwyd a diod yn teimlo y gallem helpu mewn rhyw ffordd. Roeddem yn deall na fyddai eu problemau i gyd yn diflannu dim ond am ein bod ni&#8217;n eu bwydo nhw, ond roedd y ddinas yn dymuno gwneud rhywbeth iddyn nhw. Doeddem ni ddim am weld staff yn bwyta bwyd cyflym llawn siwgr a halen a heb lawer o faeth. Roeddem am roi bwyd ffres iddyn nhw gan fusnesau gorau&#8217;r ddinas. Felly dyna wnaethon ni.&#8221;<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"225\" height=\"300\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/Staff-food.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-8780\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/Staff-food.jpg 225w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/Staff-food-188x250.jpg 188w\" sizes=\"auto, (max-width: 225px) 100vw, 225px\" \/><\/figure><\/div>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Helpodd James Sommerin, o Bwydo&#8217;r GIG a The Sausage Revolution hefyd, gan weini miloedd o brydau a gafodd eu coginio yng ngheginau&#8217;r tai bwyta.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Lianne Daniels Prif Nyrs y Ward yn Uned Gofal Coronaidd, Prifysgol Athrofaol Cymru: &#8220;Ar ran hyr holl nyrsys a&#8217;r t\u00eem yn yr Uned Gofal Coronaidd, hoffem ddiolch o galon am y prydau a&#8217;r danteithion rydyn ni wedi&#8217;u derbyn yn ystod yr wythnosau diwethaf.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cRoedd yn rhoi hwb i ni bob diwrnod! Rydyn ni&#8217;n teimlo&#8217;n ffodus iawn.\u201d<\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-embed-youtube wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Staff Haven - Cardiff &amp; Vale Health Charity\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/pdbjyQPikcQ?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Hoffai&#8217;r Bwrdd Iechyd ddiolch i&#8217;w holl staff a&#8217;r gwirfoddolwyr anhygoel sydd wedi sicrhau bod yr Hafanau i Staff ar gael saith diwrnod yr wythnos ac a oedd yn danfon prydau a diodydd i wahanol safleoedd ysbytai i ardaloedd lle nad oedd staff yn gallu gadael eu lleoliad. Mae&#8217;r Bwrdd Iechyd yn ddiolchgar dros ben hefyd am haelioni&#8217;r cyhoedd a busnesau lleol a oedd wir wedi rhoi hwb i for\u00e2l staff yn ystod amser mor heriol.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>\u201cWedi blino, eisiau bwyd, wedi blino&#8217;n emosiynol, wedi yml\u00e2dd&#8221; &#8211; dyma sut roedd rhai o staff y GIG ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a&#8217;r Fro yn disgrifio sut roeddent yn teimlo yn ystod y pandemig. Er mwyn gwarchod lles a llesiant y bobl bwysicaf i ni &#8211; ein staff, sefydlwyd Hafanau i Staff mewn nifer<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":8777,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[105],"tags":[],"class_list":["post-10071","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-covid-19-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10071","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10071"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10071\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10072,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10071\/revisions\/10072"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8777"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10071"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10071"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10071"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}