 {"id":10069,"date":"2021-05-26T16:39:02","date_gmt":"2021-05-26T15:39:02","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/roedd-pobl-ifanc-wedi-gwneud-byd-o-wahaniaeth-gydau-hymdrechion-codi-arian-yn-ystod-covid-19\/"},"modified":"2021-05-26T16:39:02","modified_gmt":"2021-05-26T15:39:02","slug":"roedd-pobl-ifanc-wedi-gwneud-byd-o-wahaniaeth-gydau-hymdrechion-codi-arian-yn-ystod-covid-19","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/roedd-pobl-ifanc-wedi-gwneud-byd-o-wahaniaeth-gydau-hymdrechion-codi-arian-yn-ystod-covid-19\/","title":{"rendered":"Roedd pobl ifanc wedi gwneud byd o wahaniaeth gyda&#8217;u hymdrechion codi arian yn ystod Covid-19"},"content":{"rendered":"\n<p>Roedd y bobl ifanc a fu&#8217;n codi arian i Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro yn ystod y pandemig wedi gwneud byd o wahaniaeth, diolch i&#8217;w haelioni a&#8217;u caredigrwydd.<\/p>\n\n<p>Clywodd yr Elusen Iechyd straeon bendigedig am sut roedd plant a phobl ifanc wedi eillio eu gwallt i godi arian, wedi cael eu noddi i gadw&#8217;n dawel (er mawr lawenydd i&#8217;w rhieni!!), wedi gwerthu teganau, gwerthu llyfrau a chreu crefftau eu hunain i&#8217;w gwerthu ar stepen eu drws yn ystod y cyfyngiadau symud.<\/p>\n\n<p>Casglwyd miloedd o bunnau i helpu i wneud gwahaniaeth i gleifion a staff mewn ysbytai &#8211; a hynny ar yr adeg pan oedd ei angen fwyaf.\u00a0<\/p>\n\n<p>Dywedodd Simone Joslyn, Pennaeth y Celfyddydau ac Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro: &#8220;Hoffwn ddiolch i&#8217;r holl bobl ifanc ysbrydoledig sydd wedi codi arian i ni, am bopeth maent wedi&#8217;i wneud i helpu i wneud gwahaniaeth i gleifion a staff ledled Caerdydd a Bro Morgannwg &#8211; rydym wir yn gwerthfawrogi.&#8221;<\/p>\n\n<p>Dyma ambell stori am rai o&#8217;r bobl ifanc ysbrydoledig hynny.<\/p>\n\n<p><strong>Amelie &#8211; Torri Gwallt<\/strong><\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"223\" height=\"155\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-8837\"\/><\/figure><\/div>\n\n<p>Roedd Amelie wedi bod yn holi ei mam, Rhiannon, am y Coronafeirws, ac roedd hi wedi aros gartref a chadw&#8217;n ddiogel er mwyn helpu i warchod y GIG a&#8217;r holl weithwyr allweddol.<\/p>\n\n<p>Roedd Amelie yn dymuno gwneud rhywbeth i helpu i wneud gwahaniaeth, felly cafodd y syniad o dorri ei gwallt hir er mwyn codi arian i&#8217;r GIG.<\/p>\n\n<p><strong>Amber Dwyer &#8211; Pecynnau Gofal<\/strong><\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"131\" height=\"193\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-8839\"\/><\/figure><\/div>\n\n<p>Darparodd Amber hufen lleithio o ansawdd, weips wyneb, balm ar gyfer gwefusau ac eli ar gyfer y dwylo fel pecynnau gofal i staff gofal iechyd a oedd yn gorfod gwisgo masgiau a gogls drwy&#8217;r amser. Helpodd ei mam, Karen, sy&#8217;n Dechnegydd Ffisiotherapi, i ddosbarthu dros bedwar deg o becynnau i gydweithwyr a oedd yn gweithio ar wardiau Covid-19 ac Unedau Gofal Dwys.<\/p>\n\n<p><\/p>\n\n<p><strong>Betsy Bodman &#8211; Gwerthu Teganau<\/strong><\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"262\" height=\"186\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image-2.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-8841\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image-2.png 262w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image-2-250x177.png 250w\" sizes=\"auto, (max-width: 262px) 100vw, 262px\" \/><\/figure><\/div>\n\n<p>Roedd Betsy wedi clirio ei thaganau a phenderfynodd eu gwerthu y tu allan i&#8217;w chartref i godi arian i&#8217;r GIG. Dosbarthodd daflenni yn hysbysebu&#8217;r digwyddiad i bob t\u0177 ar ei stryd a&#8217;r ardal gyfagos er mwyn i&#8217;r bobl a fyddai&#8217;n pasio heibio wrth fynd ar eu dro dyddiol alw draw i brynu tegan.<\/p>\n\n<p class=\"has-text-align-left\"><strong>Cai Floyd &#8211; Her Beic Sbin<\/strong><\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"205\" height=\"153\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image-3.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-8843\"\/><\/figure><\/div>\n\n<p>Heriodd Cai ei hun i fynd ar feic sbin a fyddai&#8217;n cyfateb i&#8217;r pellter rhwng y dref lle mae&#8217;n byw yn y Bont-Faen, Bro Morgannwg, ac Ysbyty Nightingale, Llundain \u2013 cyfanswm o 172 milltir\/ 276 km. Llwyddodd Cai i gwblhau ei her, gan wrando ar y g\u00e2n enwog &#8216;Eye of the Tiger&#8217;. Daeth y seren rygbi, Jamie Roberts, i weld Cai ar \u00f4l iddo gwblhau ei her codi arian hefyd.<\/p>\n\n<p><strong>Daniel Rowlands &#8211; Beicio i Fyny&#8217;r Allt<\/strong><\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"117\" height=\"183\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image-4.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-8845\"\/><\/figure><\/div>\n\n<p class=\"has-text-align-left\">Roedd Daniel yn dymuno cefnogi&#8217;r GIG felly penderfynodd ar her codi arian. Aeth Daniel ati i feicio i fyny Allt Rhiwbeina heb stopio wrth fynd i wneud ei ymarfer corff dyddiol. Llwyddodd Daniel i gwblhau&#8217;r her 2,893 metr mewn un tro.<\/p>\n\n<p><\/p>\n\n<p><strong>Emily Chirighin \u2013 Her 177 Milltir<\/strong><\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"231\" height=\"260\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image-5.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-8847\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image-5.png 231w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image-5-222x250.png 222w\" sizes=\"auto, (max-width: 231px) 100vw, 231px\" \/><\/figure><\/div>\n\n<p>Cafodd Emily ei hysbrydoli gan arwyr codi arian fel y Capten Syr Tom Moore a Geriant Thomas. Penderfynodd herio ei hun i feicio ar hyd pellter a oedd yn cyfateb i&#8217;r pellter rhwng Ysbyty Gwynedd, Bangor ac Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, sef 177 o filltiroedd, a hynny mewn saith diwrnod. Cwblhaodd ei her gan feicio pellter a oedd yn cyfateb i farathon bron iawn, bob diwrnod.<\/p>\n\n<p><strong>&#8216;Eseta Tapa\u2019atoutai-Uhi \u2013 Her 2.6<\/strong><\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"191\" height=\"191\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image-6.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-8849\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image-6.png 191w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image-6-150x150.png 150w\" sizes=\"auto, (max-width: 191px) 100vw, 191px\" \/><\/figure><\/div>\n\n<p class=\"has-text-align-left\">Ai aderyn sydd yna? Ai awyren sydd yna? Na, yr arwres leol &#8216;Eseta Tapa\u2019atoutai-Uhi sydd yna! \u2018Estea.\u00a0 Penderfynodd yr arwres hon y byddai&#8217;n cymryd rhan yn Her 2.6 drwy feicio i fyny ac i lawr ei l\u00f4n gefn 26 gwaith, sef pellter o 2.9 milltir, i gefnogi ei GIG lleol, a hynny tra roedd wedi gwisgo i fyny fel Wonder Woman.<\/p>\n\n<p>Gyda chymorth ei chi, llwyddodd &#8216;Eseta i gwblhau&#8217;r her \u2013 mae hi wir yn Wonder Woman!<\/p>\n\n<p><strong>Finley Jack Gately \u2013 Eillio ei Ben<\/strong><\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"230\" height=\"141\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image-7.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-8851\"\/><\/figure><\/div>\n\n<p>Roedd Finley Jack yn dymuno gwneud rhywbeth i&#8217;r GIG, felly gyda help ei dad a chlipwyr, eilliodd ei ben i godi arian.<\/p>\n\n<p><\/p>\n\n<p><strong>Fletcher Jones \u2013 Eillio ei Ben<\/strong><\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"125\" height=\"124\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image-8.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-8853\"\/><\/figure><\/div>\n\n<p class=\"has-text-align-left\">Roedd Fletcher yn dymuno rhoi rhywbeth yn \u00f4l i staff anhygoel y GIG a oedd wedi bod yn gofalu amdano pan oedd yn cael sylw meddygol. Er mwyn codi arian i&#8217;w ysbytai lleol, penderfynodd Fletcher eillio ei ben gan godi arian a rhoi gw\u00ean ar sawl wyneb ar yr un pryd.<\/p>\n\n<p><strong><strong>Academi B\u00eal-droed 3CDF \u2013 Bingo Ar-lein<\/strong><\/strong><\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"199\" height=\"119\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image-9.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-8855\"\/><\/figure><\/div>\n\n<p>Cododd yr Academi B\u00eal-droed arian i&#8217;r GIG drwy gynnal noson Bingo. Roedd y noson yn llwyddiannus dros ben, a llwyddwyd i godi llawer iawn o arian &#8211; g\u00f4l!!<\/p>\n\n<p class=\"has-text-align-left\"><strong>Georgie a Frankie \u2013 Bandiau L\u0175m<\/strong><\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"173\" height=\"130\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image-10.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-8857\"\/><\/figure><\/div>\n\n<p>Roedd Georgie a Frankie yn dymuno helpu staff y GIG yn ystod argyfwng Covid-19 drwy godi arian. Penderfynodd entrepreneuriaid y dyfodol greu bandiau l\u0175m lliwgar a&#8217;u cynnig i bobl a oedd yn pasio heibio eu cartref, yn gyfnewid am rodd i Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro.<\/p>\n\n<p><strong>Jack Jordan \u2013 Her Mynydd y Garth<\/strong><\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"163\" height=\"210\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image-11.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-8859\"\/><\/figure><\/div>\n\n<p>Roedd Jack yn dymuno cefnogi&#8217;r GIG yn ystod cyfnod anodd iawn. Mae mam Jack, Nicola, yn gweithio fel Ffisiotherapydd Cyhyrysgerbydol ac roedd wedi cael ei hadleoli i helpu staff ar wardiau Ysbyty Dewi Sant yn ystod pandemig Covid-19. Roedd ei fam wedi&#8217;i ysbrydoli, felly penderfynodd Jack fynd ati i gwblhau her codi arian i staff y GIG a oedd yn gweithio&#8217;n ddiflino yn gofalu am gleifion.<\/p>\n\n<p>Mae Jack wrth ei fodd yn beicio, felly penderfynodd herio ei hun i feicio o&#8217;i gartref i fyny Mynydd y Garth, gyda&#8217;i dad, er mwyn mynegi ei ddiolch.<\/p>\n\n<p><strong>Max ac Alfie &#8211; Her Den Wyth Awr\u00a0<\/strong><\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"191\" height=\"254\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image-12.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-8861\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image-12.png 191w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image-12-188x250.png 188w\" sizes=\"auto, (max-width: 191px) 100vw, 191px\" \/><\/figure><\/div>\n\n<p>Wedi&#8217;u hysbrydoli gan straeon am Ddiwrnod VE a&#8217;r Ail Ryfel Byd, aeth Max ac Alfie ati i greu den yn ystafell wely Alfie a&#8217;i efaill Noah, yn debyg i loches rhag bomio. Yr her oedd aros yn y den am wyth awr, gan gael seibiant o bum munud bob awr er mwyn ymestyn eu coesau.<\/p>\n\n<p>Gyda chefnogaeth eu brawd a&#8217;u chwaer, Noah a Chloe, a oedd wrth law gyda diodydd, bwyd a llawer o anogaeth, llwyddodd y ddau i gwblhau&#8217;r her! Yn ogystal, roeddent wedi rhagori ar eu targed codi arian!<\/p>\n\n<p><strong>Millie Catherall \u2013 Codi Arian yn y Gymuned<\/strong><\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"130\" height=\"173\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image-13.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-8863\"\/><\/figure><\/div>\n\n<p>Gyda help ei mam, Jayne, llwyddodd Millie i ddod \u00e2&#8217;i chymdogion at ei gilydd yn ystod y pandemig, gyda chyfres o weithgareddau a digwyddiadau. Yn ogystal \u00e2 mynd i siopa ar ran rhai o aelodau hynaf y stryd, mae&#8217;r ddwy wedi trefnu dathliad diwrnod VE, cystadleuaeth pobi gyda 23 yn cymryd rhan ac maent wedi bod yn cynnal digwyddiadau rheolaidd ar y stryd er mwyn helpu gydag ynysgirwydd cymdeithasol ac yn gwerthu llyfrau a theganau i godi arian i Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro.<\/p>\n\n<p><strong>Patrick John \u2013 Pryd ar Glud<\/strong><\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"153\" height=\"204\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image-14.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-8865\"\/><\/figure><\/div>\n\n<p>Diolch i Patrick am goginio i&#8217;w gymdogion yn ystod y pandemig! Mae Patrick wrth ei fodd yn coginio, ac nid yn unig mae wedi bod yn gwneud prydau blasus i&#8217;w gymdogion (gan gynnwys ei bryd arbennig, Korma Cyw I\u00e2r) mae hefyd wedi penderfynu codi arian i Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro ar yr un pryd.<\/p>\n\n<p><\/p>\n\n<p><strong>Shannon Joslyn \u2013 Eillio ei Phen<\/strong><\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"190\" height=\"184\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image-15.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-8867\"\/><\/figure><\/div>\n\n<p class=\"has-text-align-left\">Mae Shannon yn aelod o deulu estynedig Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro, a chafodd ei hysbrydoli i godi arian drwy addo eillio ei phen petai&#8217;n codi \u00a3200 i gefnogi aelodau staff GIG Caerdydd a&#8217;r Fro. Llwyddodd Shannon i gasglu mwy na&#8217;r targed, ac mae ganddi wedd newydd erbyn hyn hefyd!<\/p>\n\n<p class=\"has-text-align-left\"><strong>Twm Huw \u2013 Her 10&#215;100<\/strong><\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"172\" height=\"230\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image-16.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-8869\"\/><\/figure><\/div>\n\n<p>Roedd arwr codi arian y GIG, Capten Syr Tom Moore, wedi ysbrydoli ac ysgogi &#8216;Capten&#8217; Twm i gefnogi&#8217;r GIG hefyd.<\/p>\n\n<p>Er mwyn diolch i&#8217;r GIG, roedd Twm yn addo cwblhau her 10&#215;100 am 10am ar ddydd Sul, 10 Mai. Roedd her Twm yn cynnwys; rhedeg o amgylch ei l\u00f4n gefn 100 o weithiau; 100 naid pogo; mynd i fyny ac i lawr y grisiau 100 o weithiau; cicio p\u00eal droed i fyny 100 o weithiau heb adael iddi fynd ar y llawr; 100 naid seren; 100 ymwthiad; aros yn dawel am 100 o funudau; 100 naid wasg; 100 sgip a 100 eisteddiad.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Roedd y bobl ifanc a fu&#8217;n codi arian i Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro yn ystod y pandemig wedi gwneud byd o wahaniaeth, diolch i&#8217;w haelioni a&#8217;u caredigrwydd. Clywodd yr Elusen Iechyd straeon bendigedig am sut roedd plant a phobl ifanc wedi eillio eu gwallt i godi arian, wedi cael eu noddi i gadw&#8217;n dawel<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":8872,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[105],"tags":[],"class_list":["post-10069","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-covid-19-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10069","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10069"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10069\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10070,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10069\/revisions\/10070"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8872"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10069"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10069"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10069"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}