 {"id":10067,"date":"2021-05-26T16:38:34","date_gmt":"2021-05-26T15:38:34","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/gwella-pethau-i-gleifion-a-staff-sut-maer-elusen-iechyd-wedi-defnyddio-cronfeydd-covid-19-i-wneud-gwelliannau\/"},"modified":"2021-05-26T16:38:34","modified_gmt":"2021-05-26T15:38:34","slug":"gwella-pethau-i-gleifion-a-staff-sut-maer-elusen-iechyd-wedi-defnyddio-cronfeydd-covid-19-i-wneud-gwelliannau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/gwella-pethau-i-gleifion-a-staff-sut-maer-elusen-iechyd-wedi-defnyddio-cronfeydd-covid-19-i-wneud-gwelliannau\/","title":{"rendered":"Gwella pethau i gleifion a staff &#8211; sut mae&#8217;r Elusen Iechyd wedi defnyddio cronfeydd Covid-19 i wneud gwelliannau"},"content":{"rendered":"\n<p>Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro yn ddiolchgar dros ben am y caredigrwydd aruthrol y mae cleifion a staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a&#8217;r Fro wedi&#8217;i brofi.\u00a0<\/p>\n\n<p>Roedd aelodau&#8217;r cyhoedd wedi codi arian a chyfrannu at ymgyrch Covid-19 #SpreadTheLove. Mae Elusennau&#8217;r GIG Gyda&#8217;i GIlydd, Capten Syr Tom Moore, Gareth ac Emma Bale, Aaron Ramsey a Syr Stanley Thomas i gyd wedi cyfrannu&#8217;n hael at gronfeydd Covid-19 yr Elusen Iechyd.\u00a0<\/p>\n\n<p>Mae Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro yn ddiolchgar iawn am bob ceiniog ac am y gwahaniaeth y mae&#8217;r arian wedi&#8217;i wneud er budd cleifion a staff.<\/p>\n\n<p>Dyma rai enghreifftiau o sut mae cronfeydd Covid-19 wedi cael eu defnyddio i wella pethau i gleifion a staff.<\/p>\n\n<p><strong>Ailwampio Ystafell Gwasanaeth Therapi Cynnwys a Phecynnau Ymwybyddiaeth Ofalgar<\/strong><\/p>\n\n<p>Cafodd y Gwasanaeth Therapi Cynnwys yn Ysbyty&#8217;r Eglwys Newydd arian i adnewyddu a gwella&#8217;r ddwy ystafell therapi. Mae&#8217;r gwasanaeth yn darparu therapi siarad dwys i unigolion sy&#8217;n hynod ofidus ac sy&#8217;n aml wedi dioddef trawma.<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/Cynnwys.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-8907\" width=\"210\" height=\"158\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/Cynnwys.jpg 576w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/Cynnwys-300x225.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/Cynnwys-250x188.jpg 250w\" sizes=\"auto, (max-width: 210px) 100vw, 210px\" \/><\/figure><\/div>\n\n<p>Bydd cynnig lle cyfforddus, croesawgar a newydd i&#8217;w ddefnyddio yn ystod y sesiynau yn helpu i wella ymgysylltiad a lles cleifion a staff. Darparwyd pecynnau ymwybyddiaeth ofalgar i&#8217;r gwasanaeth hefyd er mwyn gwella creadigrwydd a lles meddyliol staff a chleifion.<\/p>\n\n<p><strong>DVDs Ffitrwydd Elderfit ac Ymarferion Ysgafn<\/strong><\/p>\n\n<p>Talwyd am DVDs Ffitrwydd Elderfit ac Ymarferion Ysgafn i helpu i gael pobl i symud ac er mwyn cynnal cydbwysedd a chryfder cleifion dros 50 oed.<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/Elderfit.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-8909\" width=\"204\" height=\"204\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/Elderfit.jpg 502w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/Elderfit-300x300.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/Elderfit-150x150.jpg 150w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/Elderfit-250x250.jpg 250w\" sizes=\"auto, (max-width: 204px) 100vw, 204px\" \/><\/figure><\/div>\n\n<p>Rhoddwyd y DVDs i gleifion er mwyn iddynt allu ymarfer yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain. Roedd hyn yn helpu eu symudedd, eu hyblygrwydd a&#8217;u lles yn ystod y pandemig, a gobeithio y byddant yn cael eu defnyddio yn y dyfodol hefyd.<\/p>\n\n<p><\/p>\n\n<p><strong>Hafan Y Coed; Uned Cleifion Mewnol Iechyd Meddwl<\/strong><\/p>\n\n<p>Darparwyd eitemau therapiwtig a gwnaed gwaith adnewyddu, gan gynnwys offer campfa yn y ward ac ystafell gynadledda yn Hafan y Coed, Ysbyty Athrofaol Llandochau, er mwyn helpu i wella gofal cleifion a chael arferion mwy effeithiol a diogel yn y gweithle. Roedd cael yr offer campfa hwn ar y ward yn helpu i wella proses adsefydlu a rheoli tymor hir oedolion sy&#8217;n gleifion \u00e2 chanddynt gyflyrau niwrolegol, yn ogystal \u00e2 gwella ymgysylltiad staff.<\/p>\n\n<p><strong>Ardal Gyrru Trwodd ar gyfer yr Uned Dal Anadl Wrth Gysgu a Gweithrediad yr Ysgyfaint<\/strong><\/p>\n\n<p>Talwyd am ardal gyrru trwodd ar gyfer y Gwasanaeth Cwsg er mwyn iddynt barhau i weld eu cleifion yn ystod y pandemig. Roedd yr ardal gyrru trwodd yn golygu bod cleifion yn dal i allu casglu eu cyfarpar astudio cwsg yn hytrach na mynd i glinigau dan do, a oedd yn cael eu canslo ar y pryd. Roedd yr arian yn talu am eitemau fel arwyddion, trol\u00efau, cadeiriau a chotiau dal d\u0175r i staff, a oedd yn gwella&#8217;r gwasanaeth ac yn gwella mor\u00e2l staff.<\/p>\n\n<p><strong>iPads a Thabledi Cyfathrebu Electronig<\/strong><\/p>\n\n<p>Mae gwahanol adrannau o amgylch y Bwrdd Iechyd wedi cael tabledi cyfathrebu electronig er mwyn gwella&#8217;r cyfathrebu rhwng cleifion a&#8217;u ffrindiau a&#8217;u teuluoedd yn ystod y cyfyngiadau ar ymweld. Mae tabledi cyfathrebu electronig yn gysur mawr i gleifion &#8211; yn ffordd iddynt siarad, gweld a chadw mewn cysylltiad \u00e2\u2019u hanwyliaid yn ystod cyfnod anodd iawn.<\/p>\n\n<p><strong>Adnoddau ac Adnewyddu&#8217;r Ardal i Staff<\/strong><\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/NHS-CT-logo.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-8913\" width=\"190\" height=\"105\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/NHS-CT-logo.png 850w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/NHS-CT-logo-300x166.png 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/NHS-CT-logo-768x426.png 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/NHS-CT-logo-250x139.png 250w\" sizes=\"auto, (max-width: 190px) 100vw, 190px\" \/><\/figure><\/div>\n\n<p>Mae rhoddion hael gan Elusennau&#8217;r GIG Gyda&#8217;i Gilydd a&#8217;r arian a gasglwyd gan y Capten Syr Tom Moore wedi talu am adnewyddu a moderneiddio nifer o ystafelloedd i staff ledled y Bwrdd Iechyd, gyda dodrefn newydd, gwell ac eitemau electronig fel tabledi, cadeiriau, oergelloedd a thecelli.<\/p>\n\n<p>Mae ystafelloedd staff wedi cael eu hadnewyddu yn yr Uned Ddiheintio a Sterileiddio Deintyddol, Gwasanaeth Gwella ac Adsefydlu Cymunedol Phoenix, y Gwasanaeth Maeth a Deiet Cymunedol, yr Adrannau Therapi Galwedigaethol yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac yn Ysbyty Dewi Sant ac Uned Fferyllol y Santes Fair a&#8217;r Adran Peirianneg Glinigol.<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/Phoenix.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-8915\" width=\"337\" height=\"155\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/Phoenix.jpg 786w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/Phoenix-300x138.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/Phoenix-768x354.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/Phoenix-250x115.jpg 250w\" sizes=\"auto, (max-width: 337px) 100vw, 337px\" \/><\/figure><\/div>\n\n<p>Mae&#8217;n bwysig cael rhywle cyfforddus, braf lle gall staff ymlacio a chael seibiant &#8211; er mwyn eu hiechyd a&#8217;u lles. Hyd yma, mae&#8217;r ystafelloedd sydd wedi cael eu hadnewyddu wedi cael effaith gadarnhaol, a byddant yn helpu i wella gofal cleifion.<\/p>\n\n<p>Mae&#8217;r Elusen Iechyd yn hynod ddiolchgar i&#8217;r Capten Syr Tom Moore ac Elusennau&#8217;r GIG Gyda&#8217;i Gilydd am y rhoddion hyn.<\/p>\n\n<p><strong>Hafan i Staff Gofal Critigol<\/strong><\/p>\n\n<p>Roedd Stagecoach De Cymru wedi rhoi rhodd hael, sydd wedi ein galluogi ni i greu Hafan i Staff yn ein Huned Gofal Critigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru.<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3432-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-8315\" width=\"314\" height=\"209\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3432-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3432-300x200.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3432-768x512.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3432-250x167.jpg 250w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3432-510x340.jpg 510w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3432.jpg 1200w\" sizes=\"auto, (max-width: 314px) 100vw, 314px\" \/><\/figure><\/div>\n\n<p>Dewiswyd ardal yn yr adran Gofal Critigol a defnyddiwyd y rhodd i adnewyddu&#8217;r ardal a thalu am ddodrefn newydd ac eitemau trydanol er mwyn i&#8217;r staff gael cyfle i ymlacio a gorffwys.<\/p>\n\n<p>Diolch i Stagecoach De Cymru, bydd yr Hafan i Staff wir yn helpu i wella iechyd a lles staff Gofal Critigol.<\/p>\n\n<p><strong>Lles Staff<\/strong><\/p>\n\n<p>Mae gofalu am iechyd meddwl a lles staff y Bwrdd Iechyd yn bwysicach nag erioed. Er mwyn helpu i ofalu am staff yn ystod y pandemig, darparwyd eitemau i wella a chynnal eu lles corfforol a meddyliol. Roedd y rhain yn cynnwys Canllawiau a Phosteri Adnoddau Lles, pecynnau Meddwl Gweithredol i ddechreuwyr, llyfrau gwaith i gleifion, pecynnau ymwybyddiaeth ofalgar, taflen 12 tudalen &#8216;Byw a gweithio&#8217;n dda ar eich pen eich hun&#8217;, prosiect &#8216;Ysgrifennu yn ystod y Cyfnod Clo&#8217; a nifer o focsys o ddanteithion i staff yn eu hadrannau. Cafodd ein staff rheng flaen a oedd yn gweithio yn eu PPE llawn yn y gwres eithafol, pan oedd y pandemig ar ei anterth, ddiodydd a lolis rhew hefyd.<\/p>\n\n<p><strong>Prosiect Gardd Meithrinfa Tedi B\u00ear<\/strong><\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/TB4-1024x768.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-8510\" width=\"339\" height=\"254\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/TB4-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/TB4-300x225.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/TB4-768x576.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/TB4-250x188.jpg 250w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/TB4.jpg 1200w\" sizes=\"auto, (max-width: 339px) 100vw, 339px\" \/><\/figure><\/div>\n\n<p>Roedd Meithrinfa Tedi B\u00ear yn darparu gofal plant brys i blant staff y Bwrdd Iechyd yn ystod y cyfnod eithriadol hwn. Cafodd meithrinfa Ysbyty Athrofaol Llandochau arian i osod to uwch ben y decin y tu allan, er mwyn gallu mwynhau&#8217;r ardal ym mhob tywydd a chael awyr iach. Mae hyn yn golygu bod yr ardal wedi cael ei defnyddio i sicrhau bod canllawiau cadw pellter cymdeithasol yn cael eu dilyn, ac mae&#8217;n rhywle arall i&#8217;r plant gael dysgu, chwarae a thyfu.<\/p>\n\n<p><strong>Practis Mynediad at Iechyd Caerdydd<\/strong><\/p>\n\n<p>Cafodd Practis Mynediad at Iechyd Caerdydd (CHAPS) arian gan Elusennau&#8217;r GIG Gyda&#8217;i Gilydd i helpu&#8217;r gymuned bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) gael cefnogaeth gan Wasanaeth Ceiswyr Lloches Caerdydd a&#8217;r Fro a staff y trydydd sector, fel Wellbeing 4U, sy&#8217;n gweithio yn y gwasanaeth. Bydd y gefnogaeth o fudd mawr i staff a chleifion yn y gwasanaeth, a bydd yn arwain at well gofal i gleifion ac yn gwella iechyd a lles corfforol a meddyliol.<\/p>\n\n<p><strong>Offer Mamolaeth ar gyfer Ceiswyr Lloches<\/strong><\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"279\" height=\"181\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/Maternity.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-8911\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/Maternity.jpg 279w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/Maternity-250x162.jpg 250w\" sizes=\"auto, (max-width: 279px) 100vw, 279px\" \/><\/figure><\/div>\n\n<p>Cafodd bydwragedd sy&#8217;n arbenigo mewn gofalu am geiswyr lloches arian gan Elusennau&#8217;r GIG Gyda&#8217;i Gilydd, er mwyn prynu offer fel pympiau ar gyfer y fron, clustogau ar gyfer menywod beichiog a dillad isaf addas i fenywod beichiog, i&#8217;w rhoi i fenywod sy&#8217;n mynd drwy&#8217;r broses o geisio lloches, ac nad ydynt yn gallu gofalu am y rhain eu hunain. Mae&#8217;r offer o fudd mawr i&#8217;r menywod hyn, gan eu bod yn rhoi cysur a chymorth iddynt, ac mae hynny&#8217;n eu helpu i wella eu hiechyd meddwl a&#8217;i lles eu hunain yn ystod eu beichiogrwydd.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro yn ddiolchgar dros ben am y caredigrwydd aruthrol y mae cleifion a staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a&#8217;r Fro wedi&#8217;i brofi.\u00a0 Roedd aelodau&#8217;r cyhoedd wedi codi arian a chyfrannu at ymgyrch Covid-19 #SpreadTheLove. Mae Elusennau&#8217;r GIG Gyda&#8217;i GIlydd, Capten Syr Tom Moore, Gareth ac<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":8921,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[105],"tags":[],"class_list":["post-10067","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-covid-19-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10067","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10067"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10067\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10068,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10067\/revisions\/10068"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8921"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10067"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10067"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10067"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}