 {"id":10065,"date":"2021-05-26T16:38:22","date_gmt":"2021-05-26T15:38:22","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/ystafell-ymlacio-newydd-i-staff-gofal-critigol-diolch-i-rodd-gan-stagecoach-de-cymru\/"},"modified":"2021-05-26T16:38:22","modified_gmt":"2021-05-26T15:38:22","slug":"ystafell-ymlacio-newydd-i-staff-gofal-critigol-diolch-i-rodd-gan-stagecoach-de-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/ystafell-ymlacio-newydd-i-staff-gofal-critigol-diolch-i-rodd-gan-stagecoach-de-cymru\/","title":{"rendered":"Ystafell ymlacio newydd i staff Gofal Critigol diolch i rodd gan Stagecoach, De Cymru"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae gan staff Gofal Critigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru rywle i fynd i ymlacio a chael seibiant oddi wrth y wardiau, diolch i rodd hael gan Stagecoach, De Cymru, drwy Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro.<\/p>\n\n<p>Y llynedd, diolchodd Stagecoach De Cymru i&#8217;w gwsmeriaid ar hyd a lled y wlad am helpu i godi dros \u00a328,646.29 ar gyfer Ap\u00eal Covid-19 Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro.<\/p>\n\n<p>Ar ddechrau pandemig Covid-19, cyflwynodd Stagecoach bolisi union bris, sy&#8217;n dal i fynd, fel mesur diogelwch. Felly roedd nifer o&#8217;i wasanaethau bws yn ymdrin \u00e2 llai o arian parod. Dywedwyd wrth y cwsmeriaid y byddai unrhyw arian dros ben y byddai&#8217;r cwmni&#8217;n ei dderbyn o ganlyniad i beidio rhoi newid, yn mynd i Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro fel rhan o ap\u00eal COVID-19 elusennau&#8217;r GIG gyda&#8217;i gilydd sy&#8217;n cefnogi gwaith pwysig gweithwyr y GIG.<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3436-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-8323\" width=\"346\" height=\"230\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3436-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3436-300x200.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3436-768x512.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3436-250x167.jpg 250w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3436-510x340.jpg 510w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3436.jpg 1200w\" sizes=\"auto, (max-width: 346px) 100vw, 346px\" \/><\/figure><\/div>\n\n<p>Pan oedd T\u00eem Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau&#8217;r Bwrdd Iechyd wedi gorffen adeiladu&#8217;r ardal, defnyddiwyd cyllid Stagecoach i ddodrefnu&#8217;r ardal. Mae&#8217;r ystafell ymlacio bellach yn fwy, ac mae dodrefn newydd, smart, seddi cyfforddus ac addurniadau hyfryd yno. Bydd gwaith celf yn cael ei roi ar y waliau hefyd, er mwyn ychwanegu at yr ymdeimlad braf. Mae Poppi Furniture wedi helpu i drawsnewid y lle.<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3440-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-8331\" width=\"373\" height=\"248\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3440-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3440-300x200.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3440-768x512.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3440-250x167.jpg 250w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3440-510x340.jpg 510w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/02\/IMG_3440.jpg 1200w\" sizes=\"auto, (max-width: 373px) 100vw, 373px\" \/><\/figure><\/div>\n\n<p>Dywedodd Sarah Lloyd, Rheolwr Cyffredinol Dros Dro Gofal Critigol a Thrawma Mawr: &#8220;Hoffwn ddiolch i Stagecoach am dalu am drawsnewid yr ystafell ymlacio ar gyfer gofal critigol. Mae cael rhywle i&#8217;n staff gael seibiant oddi ar y ward yn gwneud byd o wahaniaeth, yn enwedig yn ystod cyfnod mor heriol. Mae lliwiau&#8217;r dodrefn a&#8217;r addurniadau wir yn helpu i greu ymdeimlad braf o ymlacio. Hoffwn ddiolch i&#8217;r T\u00eem Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau am greu&#8217;r lle yma i ni ei ddefnyddio. Rydym wir yn gwerthfawrogi.&#8221;<\/p>\n\n<p>Dywedodd Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach De Cymru: \u201cHoffem ddiolch i&#8217;n cwsmeriaid am ein helpu ni i godi swm anhygoel ar gyfer elusen werth chweil. Rydym yn falch iawn o&#8217;r gwaith y mae staff y GIG a gweithwyr allweddol, gan gynnwys ein gweithwyr ni ein hunain, yn ei wneud o hyd ac rydym yn falch y bydd y rhodd hon yn mynd tuag at weddnewid yr ystafelloedd yn uned gofal critigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a&#8217;r Fro.<\/p>\n\n<p>\u201cMae pob un ohonom wedi gorfod newid y ffordd rydym yn byw ac yn teithio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf er mwyn atal y Coronafeirws rhag lledaenu. Mae defnyddio cardiau digyswllt, dyfeisiau symudol neu dalu ar-lein wedi bod yn ffordd gyfleus i nifer o bobl dalu am deithio, a byddem yn annog ein cwsmeriaid i barhau i wneud hynny pan fo&#8217;n bosibl.\u201d<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator\"\/>\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae gan staff Gofal Critigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru rywle i fynd i ymlacio a chael seibiant oddi wrth y wardiau, diolch i rodd hael gan Stagecoach, De Cymru, drwy Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro. Y llynedd, diolchodd Stagecoach De Cymru i&#8217;w gwsmeriaid ar hyd a lled y wlad am helpu i godi dros \u00a328,646.29<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":8330,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[105],"tags":[],"class_list":["post-10065","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-covid-19-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10065","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10065"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10065\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10066,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10065\/revisions\/10066"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8330"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10065"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10065"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10065"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}