 {"id":10063,"date":"2021-05-26T16:38:10","date_gmt":"2021-05-26T15:38:10","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/gweithio-mewn-partneriaeth-cydweithio-er-lles-ein-poblogaeth\/"},"modified":"2021-05-26T16:38:11","modified_gmt":"2021-05-26T15:38:11","slug":"gweithio-mewn-partneriaeth-cydweithio-er-lles-ein-poblogaeth","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/gweithio-mewn-partneriaeth-cydweithio-er-lles-ein-poblogaeth\/","title":{"rendered":"Gweithio mewn partneriaeth &#8211; cydweithio er lles ein poblogaeth"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae nifer o fusnesau a sefydliadau wedi cefnogi staff a chleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a&#8217;r Fro yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae pobl wedi rhoi bwyd, nwyddau ymolchi, benthyca cerbydau a llawer iawn mwy, sy&#8217;n dangos bod cymunedau&#8217;n gwerthfawrogi gwaith y GIG yn fwy nag erioed.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Simone Joslyn, Pennaeth y Celfyddydau ac Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro: \u201cHoffwn ddiolch i&#8217;r holl fusnesau a sefydliadau sydd wedi cefnogi cleifion a staff y Bwrdd Iechyd drwy gyfrannu drwy ein Helusen Iechyd. Mae eich caredigrwydd wedi bod yn aruthrol ac rydym yn eithriadol o ddiolchgar am bopeth a wnaethoch chi i helpu i wneud gwahaniaeth i&#8217;n cleifion ac i&#8217;n staff pan oedd angen hynny arnynt fwyaf. Diolch yn fawr.\u201d<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dyma rai o&#8217;r busnesau a&#8217;r sefydliadau a fu&#8217;n cydweithio er mwyn helpu i ymateb i Covid-19.<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"143\" height=\"110\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image-17.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-8950\"\/><\/figure><\/div>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cefnogodd Nathaniel Cars y Bwrdd Iechyd yn ystod y pandemig drwy fenthyca 12 cerbyd i&#8217;r gwasanaeth y tu allan i oriau eu defnyddio ac er mwyn cludo profion Covid rhwng safleoedd ysbytai. Maent hefyd wedi cyfrannu 5,000 o eitemau PPE i helpu ein staff ar y rheng flaen.<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"143\" height=\"80\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image-18.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-8952\"\/><\/figure><\/div>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Derbyniodd Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro roddion hael gan Elusennau&#8217;r GIG Gyda&#8217;i GIlydd i helpu unigolion mewn cymunedau pobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) yn ystod Covid-19.\u00a0 Mae T\u00eem Elan yn un maes sydd wedi derbyn cyllid gan Elusennau&#8217;r GIG Gyda&#8217;i Gilydd. Mae bydwragedd T\u00eem Elan yn gofalu am fenywod y mae angen cefnogaeth gymdeithasol ychwanegol arnynt. Bydd yr arian yn helpu i ddarparu eitemau hanfodol i geiswyr lloches sy&#8217;n feichiog, sy&#8217;n dod o gefndiroedd BAME a difreintiedig yn aml iawn.<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"144\" height=\"39\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image-19.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-8954\"\/><\/figure><\/div>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Grosvenor Interiors wedi helpu i greu mannau tawel braf yn ein hysbytai &#8211; rhywle i staff y Bwrdd Iechyd gael seibiant o&#8217;r wardiau er mwyn ymlacio a gorffwyso, yn haeddiannol iawn. Gallwch wylio sut aethant ati i helpu i drawsnewid yr Hafan i Staff yn adain Glan-y-Llyn yma: <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/l.facebook.com\/l.php?u=http%3A%2F%2Fow.ly%2Fr0YI30rz0BE%3Ffbclid%3DIwAR3nLK2HDKZ0OBtH6VY9nzPbO7JE80gbTjzfXckZKsLdRKgOuFTUY2h0Dso&amp;h=AT3AD0F4SrAztyzmWrF4IyVe2T4jUuYkoyH6aw8IJjxKB2O03nuqyENxLRaWPqb7Bl-fyS6yfUglQLrrwkwOVpuxOj4yhcxyP3kH9aSumHLmE4p7baVaFxr4G1iq6pvq&amp;__tn__=-UK-R&amp;c%5b0%5d=AT0dKNi7D0s-rX7_2wUpP1C1WNWYbCyA1W2PXxhWp5vwCSKKCE5PDmaaZ9u9BYkccJh_-aXSpSv6JQ3tRhL8qbQF35FkesmWMQV3-svaysvdz_siV7ie_67MMUm-tUNX1pFXy4QAvDVKw2xUzQzTdoTBHph7AVVrE9lgCW3rJO57U4g\" target=\"_blank\">http:\/\/ow.ly\/r0YI30rz0BE<\/a><\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"129\" height=\"81\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image-20.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-8956\"\/><\/figure><\/div>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Pan symudodd yr Uned Argyfwng Pediatreg i Ysbyty Plant Cymru, roedd yn golygu bod cleifion ifanc yn gorfod cerdded y tu allan yn y glaw er mwyn cael y driniaeth roedd ei hangen arnynt.  Diolch i Willmott Dixon am roi ymbar\u00e9ls mawr i ni er mwyn i&#8217;r plant fynd i gael eu gofal heb wlychu. Hefyd, fe wnaethant roi talebau ar gyfer digwyddiadau Nadolig yr Elusen Iechyd yn ogystal \u00e2 choeden Nadolig fawr er mwyn helpu i greu naws y Nadolig yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"126\" height=\"169\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image-21.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-8958\"\/><\/figure><\/div>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae T\u00eem Gwneud Iawn \u00e2\u2019r Gymuned Gwasanaethau Prawf Cymru wedi helpu gyda logisteg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Fe wnaeth y t\u00eem ddanfon bocsys dathlu Diwrnod VE i ysbytai, gan helpu i gludo&#8217;r nifer fawr o fwyd a nwyddau ymolchi a dderbyniwyd, a&#8217;u rhannu ar draws safleoedd ysbyty, a chasglu rhoddion o siopau ac archfarchnadoedd ledled Caerdydd a Bro Morgannwg er mwyn eu defnyddio yn yr Hafanau i Staff.<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"125\" height=\"125\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image-22.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-8960\"\/><\/figure><\/div>\n\n<p class=\"has-text-align-left wp-block-paragraph\">Mae Poppi Contract Furniture wedi helpu i ddodrefnu&#8217;r Hafanau i Staff a&#8217;r ystafelloedd ymneilltuo yn ystod Covid-19, gan sicrhau bod gan staff rywle i gael gorffwys yn ystod shifft brysur. Mae Poppi hefyd wedi helpu gyda gwobrau raffl a digwyddiadau er mwyn codi arian a hynny yn ystod cyfnod pan oedd llai o lawer o roddion ar gael i elusennau.<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"128\" height=\"71\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image-23.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-8962\"\/><\/figure><\/div>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd y cwmni, Bws Caerdydd, yn dymuno gwneud rhywbeth i helpu ei elusen GIG leol, felly roedd staff yn cael eu hannog i gael diwrnodau gwisgo i fyny a gwisgo&#8217;n anffurfiol er mwyn codi arian er budd Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro. Roedd y them\u00e2u yn cynnwys Haw\u00e4i, pinc ac rydym yn credu ein bod ni wedi gweld Elvis yn gyrru un o&#8217;r bysus un tro hyd yn oed!<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"125\" height=\"83\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image-24.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-8964\"\/><\/figure><\/div>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">The Golden Cross &#8211; cefnogodd Rob Burnett a&#8217;r t\u00eem staff eu GIG lleol yn ystod Covid-19 gydag amrywiaeth o sioeau, digwyddiadas a gweithgareddau codi arian.<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"124\" height=\"124\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image-25.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-8966\"\/><\/figure><\/div>\n\n<p class=\"has-text-align-left wp-block-paragraph\">Bu Canolfan Siopa Dewi Sant, Caerdydd yn cefnogi Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro dros y Nadolig, drwy ofyn i siopwyr gyfrannu i&#8217;w helusen GIG leol. Roedd codau QR yn cael eu harddangos mewn mannau lle&#8217;r oedd pobl yn ciwio yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant, yn ogystal \u00e2 mewn lifftiau ac ar y grisiau i&#8217;r meysydd parcio, yn gofyn yn garedig i siopwyr sganio&#8217;r cod i gefnogi eu helusen GIG leol.<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"183\" height=\"89\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image-26.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-8968\"\/><\/figure><\/div>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Diolch i Blue Light Card ac In Kind Direct am 21 paled o ddanteithion, nwyddau ymolchi a phethau da i staff y GIG, a hynny ar adeg lle&#8217;r oedd eu hangen fwy nag erioed. Roedd pawb yn hapus ac yn gwerthfawrogi&#8217;n fawr.<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"86\" height=\"72\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2021\/03\/image-27.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-8970\"\/><\/figure><\/div>\n\n<p class=\"has-text-align-left wp-block-paragraph\">Diolch i Jayne Morgan, Lewys Helyar, Amy Lewis a Phwyllgor Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Canolfan Feddygol Caerdydd am eu cefnogaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Roedd y t\u00eem, yn garedig iawn, wedi gadael i Elusen Iechyd y Bwrdd Iechyd ddefnyddio&#8217;r Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol fel Hafan i Staff am nifer of fisoedd pan oedd y pandemig ar ei anterth.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd archfarchnadoedd yn gefnogol iawn hefyd, gyda throl\u00efau casglu yn y siopau, mannau cyfrannu a thuniau casglu arian. Diolch yn fawr i Sainsbury\u2019s, Asda, Tesco, Coop a Boots am eu haelioni.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I gael rhagor o wybodaeth am sut gallwch chi gefnogi Elusen Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro, ewch i: www.healthcharity.wales\/donate<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae nifer o fusnesau a sefydliadau wedi cefnogi staff a chleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a&#8217;r Fro yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae pobl wedi rhoi bwyd, nwyddau ymolchi, benthyca cerbydau a llawer iawn mwy, sy&#8217;n dangos bod cymunedau&#8217;n gwerthfawrogi gwaith y GIG yn fwy nag erioed. Dywedodd Simone Joslyn, Pennaeth y Celfyddydau ac Elusen<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":8973,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-10063","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10063","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10063"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10063\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10064,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10063\/revisions\/10064"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8973"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10063"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10063"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10063"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}