 {"id":10206,"date":"2021-05-26T16:59:38","date_gmt":"2021-05-26T15:59:38","guid":{"rendered":"https:\/\/healthcharity.wales\/codi-arian\/"},"modified":"2021-05-26T16:59:39","modified_gmt":"2021-05-26T15:59:39","slug":"codi-arian","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/gwybodaeth-am-staff\/codi-arian\/","title":{"rendered":"Codi arian"},"content":{"rendered":"\n<h4 class=\"has-text-color wp-block-heading\" style=\"color:#931f67\">Ddylwn i gysylltu \u00e2 swyddfa&#8217;r Elusen os hoffwn godi arian?<\/h4>\n\n<p>Os gwelwch yn dda. Rydym yma i&#8217;ch cefnogi chi. Rydym yn awyddus iawn i&#8217;ch helpu i hyrwyddo eich digwyddiad neu weithgaredd a rhannu eich llwyddiant i ysbrydoli pobl eraill. Mae&#8217;r Elusen Iechyd yn dibynnu ar roddion a chodi arian er mwyn gwneud gwahaniaeth i brofiadau cleifion o&#8217;n gwasanaethau.<\/p>\n\n<h4 class=\"has-text-color wp-block-heading\" style=\"color:#931f67\">Beth alla&#8217; i ei ddefnyddio i helpu i godi arian?<\/h4>\n\n<p>Mae gennym amrywiaeth o ddeunyddiau codi arian ar gael i chi a gallwn roi cyngor defnyddiol i&#8217;ch cefnogi chi a sicrhau bod eich digwyddiad codi arian yn un llwyddiannus. Os hoffech godi arian ar ran yr Elusen Iechyd, cysylltwch \u00e2 ni i gael ffurflen caniat\u00e2d i godi arian.<\/p>\n\n<p>Ewch i&#8217;r adran Adnoddau i gael posteri gwag a ffurflenni noddi y gallwch eu defnyddio.<\/p>\n\n<h4 class=\"has-text-color wp-block-heading\" style=\"color:#931f67\">Beth mae&#8217;r Elusen ei angen gennyf fi?<\/h4>\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Byddem yn falch iawn o glywed gennych chi cyn i chi ddechrau codi arian er mwyn i ni sicrhau bod popeth sydd ei angen arnoch gennych chi. Gallwn gofrestru eich digwyddiad ar ein calendr a helpu gyda&#8217;r gwaith hyrwyddo. Anfonwch e-bost at <a href=\"mailto:fundraising.cav@wales.nhs.uk\">fundraising.cav@wales.nhs.uk<\/a><\/li><li>Cofiwch dynnu lluniau o&#8217;ch digwyddiad codi arian os yw hynny&#8217;n bosibl, a chofiwch gael caniat\u00e2d pawb sydd yn y lluniau.<\/li><li>Os hoffech i rywun o&#8217;r Elusen Iechyd ddod i&#8217;ch digwyddiad neu i ddweud gair neu ddau, rhowch wybod i ni ac fe wnawn ein gorau i&#8217;ch cefnogi chi.<\/li><li>Rhowch wybod i ni sut aeth pethau, pwy oedd yn rhan o&#8217;r digwyddiad ac a ydych chi&#8217;n bwriadu gwneud hynny eto.<\/li><\/ul>\n<h4 class=\"has-text-color wp-block-heading\" style=\"color:#931f67\">Raffl\/Loteri<\/h4>\n\n<p>Mae&#8217;r un rheolau yn berthnasol i unrhyw raffl neu loteri (mae diffiniad cyfreithiol y ddau yr un fath). Ni chaiff unigolion o dan 16 oed brynu tocynnau.<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Loter\u00efau preifat \u2013 Nid oes angen trwydded os yw raffl yn cael ei chynnal yn y gweithle neu mewn clwb, ar yr amod mai dim ond yn y lleoliad y mae&#8217;r tocynnau&#8217;n cael eu gwerthu ac i aelodau yn unig.<\/li><li>Loter\u00efau bychan \u2013 Cewch werthu tocynnau raffl mewn digwyddiad cymdeithasol, ond rhaid i&#8217;r tocynnau gael eu gwerthu a&#8217;u tynnu yn y digwyddiad.<\/li><li>Loter\u00efau cyhoeddus \u2013 Rhaid i raffl sydd ar agor i&#8217;r cyhoedd neu sy&#8217;n cael ei chynnal dros gyfnod o amser fod wedi&#8217;i thrwyddedu. Cysylltwch \u00e2&#8217;r elusen os hoffech gynnal raffl o&#8217;r fath.<\/li><\/ul>\n<div class=\"wp-block-group has-very-light-gray-background-color has-background p-3\"><div class=\"wp-block-group__inner-container is-layout-flow wp-block-group-is-layout-flow\">\n<p><strong>Cofiwch:<\/strong>\u00a0NI ddylid cynnal raffls ar wardiau ac ni ddylid gwerthu tocynnau raffl gyda thocynnau ystafell gotiau os bydd y tocynnau&#8217;n cael eu tynnu ar ddyddiad diweddarach. Gall t\u00eem yr elusen ddarparu tocynnau raffl swyddogol dim ond i chi ofyn am rai. Cysylltwch \u00e2 ni i drafod unrhyw raffl yr hoffech ei chynnal.<\/p>\n\n\n\n<p>I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma i weld\u00a0<a href=\"http:\/\/www.cardiffandvale.wales.nhs.uk\/pls\/portal\/docs\/PAGE\/CARDIFF_AND_VALE_INTRANET\/CORPORATE\/FUNDRAISING_NEW\/FUNDRAISING\/GC%20LOTTERY%20GUIDANCE.PDF\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">canllawiau<\/a>&#8216;r\u00a0<a href=\"http:\/\/www.gamblingcommission.gov.uk\/home.aspx\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Comisiwn Hapchwarae<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r ddolen yn mynd \u00e2 chi i <a href=\"http:\/\/www.cardiffandvaleuhb.wales.nhs.uk\/home\">http:\/\/www.cardiffandvaleuhb.wales.nhs.uk\/home<\/a> i weld y canllawiau.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae angen cronfa benodol yn yr adran ar gyfer rhoi.<\/p>\n<\/div><\/div>\n\n<div style=\"height:40px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2020\/02\/20181007_085032-1024x768.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2770\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2020\/02\/20181007_085032-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2020\/02\/20181007_085032-300x225.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2020\/02\/20181007_085032-768x576.jpg 768w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2020\/02\/20181007_085032-250x188.jpg 250w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2020\/02\/20181007_085032.jpg 1200w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<h4 class=\"has-text-color wp-block-heading\" style=\"color:#931f67\">Cael gwobrau raffl<\/h4>\n\n<p>Os gwelwch yn dda, peidiwch \u00e2 chysylltu \u00e2 chwmn\u00efau yn gofyn am wobrau raffl oni bai fod gennych chi gysylltiad personol. Yna, cofiwch roi gwybod i ni ar gyfer ein cofnodion. Rhaid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a&#8217;r Fro osgoi gofyn i&#8217;r un cwmn\u00efau am wobrau drwy&#8217;r amser. Felly os hoffech gael gwobr ar gyfer raffl, byddem yn fwy na bodlon anfon llythyr ar eich rhan, dim ond i chi roi&#8217;r manylion i ni.<\/p>\n\n<h4 class=\"has-text-color wp-block-heading\" style=\"color:#931f67\">JustGiving<\/h4>\n\n<p>Un o&#8217;r ffyrdd hawsaf o hyrwyddo eich ymgyrch codi arian yw drwy sefydlu tudalen ar JustGiving. Fel hyn bydd pawb sy&#8217;n eich cefnogi yn gallu rhoi ar-lein. Mae eich manylion yn ddiogel; ni fydd JustGiving yn gwerthu eich manylion nac yn anfon negeseuon e-bost digroeso. Pan fyddwch yn derbyn rhoddion, bydd yr arian yn cael ei anfon yn syth i&#8217;n helusen. Cofiwch sicrhau bod Cymorth Rhodd yn cael ei hawlio ar bob rhodd cymwys gan drethdalwyr yn y DU.<\/p>\n\n<p>Ewch i wefan <a rel=\"noreferrer noopener\" aria-label=\"JustGiving (mae'n agor mewn tab newydd)\" href=\"https:\/\/www.justgiving.com\/\" target=\"_blank\">JustGiving<\/a> a chofiwch roi gwybod i ni os byddwch yn sefydlu tudalen.<\/p>\n\n<h4 class=\"has-text-color wp-block-heading\" style=\"color:#931f67\">Digwyddiadau sy&#8217;n cael eu noddi<\/h4>\n\n<p>Dyma rai awgrymiadau defnyddiol:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Pan fyddwch wedi penderfynu ar ddigwyddiad, cofiwch gysylltu \u00e2 ni er mwyn i ni ei awdurdodi. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cael ffurflenni noddi swyddogol i&#8217;w defnyddio yn ogystal \u00e2 llythyr gennym, a allai fod yn ddefnyddiol os ydych am ofyn am nawdd yn yr ysgol neu&#8217;r gwaith.<\/li><li>Mae&#8217;n anghyfreithlon mynd i gasglu o d\u0177 i d\u0177 heb drwydded iawn. Peidiwch \u00e2 chasglu arian ar y stryd nac mewn man cyhoeddus arall heb gael trwydded gan eich awdurdod lleol neu&#8217;r heddlu. Rydym yn argymell eich bod yn trefnu digwyddiad codi arian yn hytrach na chasglu arian. Os ydych yn bwriadu casglu arian yn y digwyddiad, gall yr adran codi arian roi bwcedi casglu arian i chi.<\/li><li>Er mwyn ei gwneud hi&#8217;n haws casglu arian nawdd, nodwch yn glir ar y ffurflen erbyn pa ddyddiad rydych chi am dderbyn yr arian. Hefyd, sicrhewch eich bod yn casglu&#8217;r arian nawdd yn fuan ar \u00f4l y digwyddiad neu hyd yn oed ymlaen llaw. (Os na fydd eich digwyddiad yn cael ei gynnal neu os na fyddwch chi&#8217;n cymryd rhan am unrhyw reswm, rhaid i chi roi gwybod i&#8217;ch noddwyr a chynnig rhoi&#8217;r arian yn \u00f4l iddynt, oni bai mai cael ei ohirio mae eich digwyddiad).<\/li><li>Ffordd dda o gynnal digwyddiad noddi yw mewn gr\u0175p, oherwydd byddwch yn cymell eich gilydd a bydd gennych fwy o adnoddau. Mae&#8217;n bosibl y byddai digwyddiad digon mawr yn denu sylw gan y cyfryngau hefyd.<\/li><li>Peidiwch \u00e2 bod ofn mynd amdani ar eich pen eich hun. Mae colli pwysau, taith gerdded neu daith feics noddedig yn bethau rhwydd iawn i&#8217;w trefnu, a phan fyddwch wedi cael pobl i&#8217;ch noddi, bydd gennych gymhelliant i fynd amdani.<\/li><\/ul>\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2020\/01\/DSC_6733-BM-resized-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2590\" width=\"600\" height=\"400\" srcset=\"https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2020\/01\/DSC_6733-BM-resized-1.jpg 600w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2020\/01\/DSC_6733-BM-resized-1-300x200.jpg 300w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2020\/01\/DSC_6733-BM-resized-1-250x167.jpg 250w, https:\/\/healthcharity.wales\/app\/uploads\/2020\/01\/DSC_6733-BM-resized-1-510x340.jpg 510w\" sizes=\"auto, (max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><\/figure><\/div>\n\n<h4 class=\"has-text-color wp-block-heading\" style=\"color:#931f67\">Casglu<\/h4>\n\n<p>Ni chaiff unrhyw un o dan 16 oed gasglu arian (neu 18 oed yn Llundain). Mae angen caniat\u00e2d a thrwyddedau i gasglu arian yn gyhoeddus, yn dibynnu ar y lleoliad. Bydd yn rhaid i chi gael trwydded i gasglu ar y stryd neu o ddrws i ddrws. Mae angen caniat\u00e2d i gasglu ar eiddo preifat. Cysylltwch \u00e2&#8217;r Elusen Iechyd os hoffech gasglu arian.<\/p>\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ddylwn i gysylltu \u00e2 swyddfa&#8217;r Elusen os hoffwn godi arian? Os gwelwch yn dda. Rydym yma i&#8217;ch cefnogi chi. Rydym yn awyddus iawn i&#8217;ch helpu i hyrwyddo eich digwyddiad neu weithgaredd a rhannu eich llwyddiant i ysbrydoli pobl eraill. Mae&#8217;r Elusen Iechyd yn dibynnu ar roddion a chodi arian er mwyn gwneud gwahaniaeth i brofiadau<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":2657,"parent":10259,"menu_order":118,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"views\/template-sidebar-nav.blade.php","meta":{"_acf_changed":false,"give_campaign_id":0,"footnotes":""},"class_list":["post-10206","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"campaignId":"","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10206","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10206"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10206\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10207,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10206\/revisions\/10207"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10259"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2657"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/healthcharity.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10206"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}